Gŵyl Chwedlau

Cymru yw gwlad chwedlau a straeon a chawn gyfle i fwynhau ambell stori yn ein Gŵyl Chwedlau ar y Maes eleni. 

Glywsoch chi hanes Gwrachod Llanddona, neu beth am stori'r Royal Charter?

Mae pawb yn gwybod hanes Owain Glyndwr tydyn - a beth am chwedl yr afanc bach unig neu'r fôrforwyn fach hunanol?

Mae pob math o sesiynau chwedlonol ar hyd a lled y Maes - yn yr Ŵyl Llên Plant, Maes D, Theatr y Maes, a digonedd o theatr stryd o gwmpas y lle.

Dewch draw am stori!

Trefnir yr Ŵyl gan yr Eisteddfod.