Amgueddfa Cymru’n penodi crefftwr ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

11 Awst 2017

Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi crefftwr i greu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a noddir gan y sefydliad i nodi pen-blwydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 70 oed. 

Chris Williams o Pentre yn y Rhondda sydd yn cael yr anrhydedd o ddylunio a chreu’r Gadair ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’n gerflunydd sy’n gweithio’n bennaf gyda phren ac yn cael ysbrydoliaeth o dirluniau daearol a seryddol. 

Mae gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru gasgliad helaeth o gadeiriau a deunydd eisteddfodol ac mae ei chasgliadau wedi bod yn ysbrydoliaeth i grefftwyr ac artistiaid dros y blynyddoedd. Hoffai’r Amgueddfa weld cynllun i’r Gadair sy’n cysylltu â Sain Ffagan mewn rhyw fodd, efallai wedi’i ysbrydoli gan y casgliadau, yr adeiladau, straeon neu atgofion.

Bydd elfennau o’r Gadair yn cael ei chreu yn adeilad newydd Gweithdy yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae Gweithdy yn adeilad cynaliadwy newydd sbon fydd yn llwyfan i sgiliau crefftwyr ddoe a heddiw, a man lle gall ymwelwyr o bob oed gael profiad uniongyrchol o sgiliau traddodiadol.

Mae Sain Ffagan wedi bod yn gartref i grefftau yng Nghymru ers ei sefydlu ym 1948. Mae noddi cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 yn ddathliad addas felly ac yn barhad i’r traddodiad hwn o hybu crefftwyr a chrefftau Cymreig.

Meddai Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn falch iawn i benodi Chris ac yn edrych ymlaen at weld y broses yn datblygu dros y flwyddyn nesaf. Bydd Chris yn creu elfennau o’r Gadair yn Gweithdy, sef adeilad newydd pwrpasol yn Sain Ffagan a bydd ymwelwyr i’r Amgueddfa yn gallu dilyn ei waith yn ystod y broses o greu.”

Dywedodd Chris Williams, “Yn y gorffennol rwyf wedi mwynhau ymweld â Sain Ffagan i wneud gwaith ymchwil ymarferol – boed hynny’n edrych ar y casgliad dodrefn neu gopïo patrymau ar gyfer fy nyluniadau fy hun.

“Pan welais i mai Sain Ffagan oedd yn comisiynu cadair Eisteddfod y flwyddyn nesaf, roeddwn yn teimlo fod y project yn gweddu’n dda i’r math o waith yr wyf yn ei wneud ar hyn o bryd ynghylch dyluniadau traddodiadol Cymreig.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at greu cadair 2018 a byddaf yn treulio rhywfaint o amser yn ymchwilio i gasgliadau’r Amgueddfa a manteisio ar yr arbenigwyr sydd yno. Byddaf yn gwneud y gadair yn fy ngweithdy yn Ynyshir, Rhondda ac yn Sain Ffagan, lle byddaf yn hapus iawn i drafod y comisiwn gyda’r cyhoedd.”

Mae’r gwaith yn parhau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar broject ailddatblygu mwyaf yr Amgueddfa erioed. Hwyluswyd hyn gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 dyfarnodd HLF eu grant mwyaf erioed yng Nghymru i Sain Ffagan er mwyn helpu i adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Yn Hydref 2018, bydd orielau newydd yn agor yn y Prif Adeilad a Gweithdy gan gyfuno casgliadau hanes ac archaeoleg Amgueddfa Cymru am y tro cyntaf. Bydd y gwrthrychau yn yr orielau’n pontio 240,000 o flynyddoedd, gan gynnwys eitemau o’r casgliad sydd heb eu dangos yn gyhoeddus erioed o’r blaen.

Bydd Llys Llywelyn, un o lysoedd Tywysogion Gwynedd, hefyd yn cael ei gwblhau yn Hydref 2018. Ail-greu neuadd fawr Llys Llywelyn ar Ynys Môn, a adeiladwyd oddeutu 1200, yw un o’r projectau mwyaf cyffrous a heriol a geisiwyd yng Nghymru. Wedi ei gwblhau, bydd cyfle am y tro cyntaf i ysgolion o bob cwr o Gymru aros dros nos yn yr Amgueddfa.