Araith yr Archdderwydd newydd, Geraint Llifon, wrth iddo gael ei Orseddu

25 Mehefin 2016

Ddydd Sadwrn, gorseddir yr Archdderwydd newydd, Geraint Llifon, ar ddechrau Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Ynys Môn 2017.

Isod ceir copi o’r sylwadau a draddodir ganddo o’r Maen Llog yn ystod y seremoni.

Cyd-Orseddogion a Chyfeillion i gyd

Pan oedd hi’n Gyfarfod Chwarter yn eglwysi Annibynnol y cylch y’m magwyd i ynddo ym Mhenllyn, Meirionnydd, a minnau’n hogyn ysgol mewn trowsus bach, profiad i edrych ymlaen ato oedd ein bod ni’r bechgyn yn cael mynd i de at hen ferch o’r enw Blanche Kate i Gaerau Uchaf (ac mi fydde’n gwirioni’n bot y funud yma o feddwl fod Geraint Y Siop wedi sôn amdani oddi ar Faen Llog y Steddfod Genedlaethol).

Ar ôl y te mi fyddem ni’n chwarae cuddio yn y bing, y côr a’r gadlas.  Cyn mynd i Gaerau Uchaf, gair olaf fy mam bob amser oedd “Geraint, cofia ddiolch drostat i Blanche Kate”.  A dyna fy nyletswydd gyntaf ar y Maen Llog hwn.  Diolch o waelod calon i chi i gyd am eich cefnogaeth ac yn arbennig i fy rhagflaenydd yn y swydd - Christine.

Mae hi wedi cario allan ei gwaith gydag urddas ymhob peth a wnaeth o’r fan hon ac o’r llwyfan mawr.  Does gen i ond ceisio dilynol ei thraed.  Mae ei choese’n hirach o gryn dipyn na fy rhai i, ac oherwydd hynny, mae cam ganddi hi’n gyfystyr â thri i mi, a bydd ei dilyn yn goblyn o waith.  Ond mi wna i fy ngore i ddal i fyny.  Diolch drosta ni i gyd Christine am roi llais benywaidd yma i ni yng ngorsedd yr ynysoedd hyn.

Wel, mae dyn wrth sefyll yma'n ymwybodol iawn ein bod yn dilyn traddodiad anrhydeddus iawn, sy’n mynd yn ôl bron 500 mlynedd i’r steddfod gyntaf honno tua Chaerfyrddin, ac ymhen 500 mlynedd, dyna ni yma yn rhyw led agor y drws.  Y fam yn agor drws yr aelwyd i’r teulu estynedig ddod adref ac i’r teulu hwnnw gael croeso twymgalon trigolion yr ynys.  Rydych chi yma heddiw ac mi fyddwch yn Awst y flwyddyn nesaf yn yfed o win croeso’r aelwyd.

Petawn i’n gofyn i chi enwi beirdd a llenorion Ynys Môn tybed ai cychwyn gyda thrindod fel Goronwy Owen, Bedwyr Lewis Jones a’r Morisiaid fyddech chi ac yna’n enwi Einir Jones, Jane a Sonia Edwards?  Ie - cychwyn gyda gŵyr  enwog Môn cyn troi at y merched?  Dim ond gofyn...  Ac eto cawn ein hatgoffa cyn i ni groesi Pont y Borth mai ‘Môn Mam Cymru’ yw Ynys Môn.  Dyma ynys sydd am ddatgan mai ynys fenywaidd yw hi a dyma ynys sy’n barod i gydnabod hynny.

Cariwyd corff Siwan ar draws Traeth y Lafan i briordy Llan-faes yma ym Môn.  Ond pwy yw Siwan i chi?  Gwraig Llywelyn neu gariad Gwilym Brewys?  Dim ond gofyn.  Ar dir yr ynys hon, ar lan yr afon Alaw y claddwyd tywysoges arall a ddaeth yn un o ferched mwyaf eiconig ein llên.  Ond fel Branwen FERCH Llŷr y cofiwn amdani.  Prin yw geiriau Branwen yn ail gainc y Mabinogi - ychydig frawddegau y mae’n ei lefaru i gyd, ac eto, mae’n siarad drwy’r chwedl.

Dewch i Aberffraw, safle un o lysoedd Llywelyn Fawr, gwr Siwan wrth gwrs, a chyn hynny lleoliad priodas Branwen ferch Llŷr.  Yno y cyflwynwyd Pair y Dadeni i Matholwch brenin Iwerddon, gwr Branwen.  Fe gofiwch mai pair hynod oedd y pair hwn - os taflwyd - dyfynnaf - y gwŷr a ladder heddiw iddo yfory byddent yn ôl yn fyw, cystal ag y bu orau ond na fyddai lleferydd ganddynt” - milwyr marw yn dod yn ôl yn fyw ond sylwch, yn filwyr heb iaith.  Dweud brawychus - milwyr heb iaith.  A pha fath o filwyr yw milwyr heb iaith?  Onid iaith sy’n gwneud pobl ac yn ein gwneud ni'r hyn ydym ni?  Onid iaith sydd â’r gallu cyfrin i adeiladu pontydd?  Onid tynnu pŵer oddi wrth bobl a wneir wrth dynnu iaith oddi arnynt ac ohonynt.  Ac onid pobl iaith ddylem ni fod ac ydym ni, pob un ohonom?  Dim ond gofyn.

Ar yr ynys fenywaidd hon fe gofiwch i Branwen dderbyn y sarhad mwyaf fel brenhines Iwerddon, fel gwraig ac fel mam.  Fe’i hanfonwyd i’r gegin i weithio ac roedd y cigydd - dyfynnaf - “gwedy y bu’n dryllio cig, ddyfod Ati a tharo bonclust arni beunydd” - ie, cael ei churo bob bore gan yr un â gwaed ar ei ddwylo.  Fe gofiwch hefyd yng  nghanol ei phenyd a’i phoen yr hyn a wnaeth Branwen - meithrin aderyn drudwen a dysgu iaith iddo.  Dyma ferch yn rhoi, yn meithrin ac yn “dysgu iaith”.  Dyma ferch yn bwydo iaith, yn cychwyn deialog ac am i siarad ddigwydd mewn lle a man nad oedd siarad yn bod ac yn cael ei ganiatáu.

A dyma ferch hefyd oedd â’r hyder tawel i ollwng gafael pan fo’r amser yn aeddfed i wneud hynny.

Roedd ymddiriedaeth a hyder yn y gollwng rhydd; hyder y byddai’r ddrudwen yn hedfan i ffwrdd ac yn ysgwyd ei blu a’i genadwri ar ysgwydd cawr - Bendigeidfran.

Siwan, Branwen a Dwynwen.  Ie, Dwynwen, tywysoges a santes a hithau o’i gwewyr yn dod â’i chenadwri a’i chariad gyda hi i Landdwyn, i’r ynys fenywaidd hon ac i Gymru.

Mae merched ac mae mamau ym Môn heddiw.  Merched sydd am gyflwyno’r iaith yn ystyr eang y gair.  Llawer ohonynt yn ferched tawel yn y cefndir yn hyrwyddo, yn cynnal, yn cenhadu.  Ac mae merched hefyd sy’n ferched cyhoeddus, sy’n egnïol sy’n ysbrydoli, sy’n arwain.  Branwen, Siwan a Dwynwen.

Y mae un man yn y môr rhwng Môn ac Iwerddon, un man lle gellir gweld y ddwy ynys, a thybed mai o’r fan honno y llefarodd Branwen y llinell ingol honno “Dwy ynys dda a ddifethwyd o’m hachos i”.

A dyma hi, y ferch hon, y fam hon, a gollodd, a welodd ddwy ynys, dau deulu a dwy wlad yn cael eu difetha o’i hachos hi.  Merch ddieuog yn ysgwyddo’r bai a chyfrifoldeb.

Claddwyd Branwen yn ôl y chwedl mewn bedd petryal ar lan yr afon Alaw.  Ond does dim arddangosfa aml-gyfrwng a’r ‘Branwen Experience’ i goffau un o eiconau ein llên; does dim ciwio i dalu teyrnged wrth feddrod brenhinol na phalas, dim ond brwyn, a chae a thir digon corsiog.  Coffhad diymhongar a thawel ond geiriau awdur o athrylith i gofio amdani; geiriau ac iaith a hen ddirnadaeth y Mabinogi.

Wrth groesi’r bont mae’r geiriau mwyn ac arwyddocaol, ‘Môn Mam Cymru’.  Tri gair sy’n mynegi gwybod cyfrin, tri gair sy’n cario tynerwch ac addfwynder a chariad mewn byd treisgar swnllyd, cras a chreulon.

Tri gair sy’n ysgogi a chalonogi, yn cynnal, yn bwydo, yn gwarchod.

Tri gair y gellir credu yn eu dynoliaeth.

Diolch i Fôn am ein hatgoffa o’r mamau a’r merched hynny.