Bydd cannoedd yn gorymdeithio drwy ganol tref Caergybi dydd Sadwrn, wrth i Ynys Môn groesawu Eisteddfod Genedlaethol 2017 i’r sir.
Rhaid cynnal seremoni’r Cyhoeddi o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn yr Eisteddfod ei hun.
Mae’r orymdaith yn cychwyn o Ysgol Uwchradd Caergybi am 14.00 ac yn dilyn y ffordd drwy’r dref ac yn ôl i Barc Caergybi erbyn 15.00 ar gyfer y seremoni ei hun. Ar gychwyn y seremoni eleni, bydd Archdderwydd newydd yn cael ei orseddu, gyda Geraint Llifon yn cymryd lle Christine James, y ferch gyntaf i’w hurddo i’r swydd.
Yn ogystal, bydd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ynys Môn, Derec Llwyd Morgan, yn cyflwyno’r copi cyntaf o Restr Testunau 2017 i’r Archdderwydd, ac yna, bydd y Rhestr ar gael i’w phrynu, yng Nghaergybi, ar-lein ac mewn siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru.
Yn ogystal â’r seremoni draddodiadol, mae cyfle hefyd i fwynhau doniau lleol yn y dref neu’r ardal sy’n cynnal y Cyhoeddi, ac eleni, mae’r arlwy wedi’i drefnu gan Fenter Iaith Môn, gyda’r llwyfan wedi’i leoli ar Stryd y Farchnad, a llond lle o berfformwyr ifanc drwy’r dydd:
10:30
Gwen Elin
10:55
Côr Plant Mathafarn
11:25
Ioan Jordan
11:35
Siân Miriam
12:00
Erin Telford & Glesni Rhys
12:20
Elain Rhys
12:40
Steffan Lloyd Owen
13:05
Madarch
13:30
Y Brodyr Magee
Mae croeso mawr i bawb ddod i weld Seremoni’r Cyhoeddi ym Mharc Caergybi am 15.00.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst 2017. Am fwy o fanylion ewch i www.eisteddfod.cymru.