Côr Coll Eisteddfod 1915

27 Rhagfyr 2016

6 Medi 1917, ac roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw’n tynnu tua’i therfyn, gyda diwrnod arall o gystadlu brwd.  

Roedd seremoni’r Cadeirio i’w chynnal y prynhawn hwnnw a phawb yn gobeithio am enillydd poblogaidd, a gallai erchyllterau’r rhyfel gael eu gwthio o’r neilltu am y diwrnod, wrth i bobl deithio o bell ac agos i fwynhau uchafbwynt Eisteddfod lwyddiannus.

Ni fyddai’r tyrfaoedd a heidiodd drwy’r giatiau fore Iau wedi gwybod eu bod am weld un o’r digwyddiadau mwyaf trist ac eiconig yn hanes yr ŵyl.  Digwyddiad a ddaeth yn rhan mor bwysig o’n treftadaeth genedlaethol, ac un sy’n arbennig o deimladwy wrth i ni agosáu at ei ganmlwyddiant.

Mae hanes Hedd Wyn, Ellis Humphrey Evans, enillydd Cadair Eisteddfod 1917, a laddwyd yn ffosydd Ffrainc heb gael ei anrhydeddu gan ei gyd-Gymry, wedi’i chofnodi a’i hadrodd yn rheolaidd dros y ganrif ddiwethaf.  Ac mae aberth y gŵr ifanc yn cynrychioli colli cenhedlaeth o fechgyn a dynion a orfodwyd i ymuno â’r fyddin ar draws ardaloedd gwledig gogledd Cymru, ac a gollodd eu bywydau.

Wrth i enw’r bardd ifanc gael ei gyhoeddi o’r llwyfan, gorchuddiwyd y Gadair gyda lliain du, gan ddod â barbariaeth rhyfel i mewn i hafan ddiogel Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Ni welwyd y fath alaru yng Nghymru ers blynyddoedd, a chyn pen dim, roedd marwolaeth Hedd Wyn yn cynrychioli colled y genedl yn y Rhyfel Mawr.

Ychydig iawn sy’n ymwybodol mai dyma’r ail seremoni emosiynol i’w chynnal ar lwyfan y Pafiliwn y diwrnod hwnnw.  Yn gynharach yn y dydd, roedd y gynulleidfa wedi codi ar eu traed i ddangos eu gwerthfawrogiad o filwr arall, un a oedd wedi’i glwyfo gan ryfel ond a oedd yn fyw o hyd ac yn cael ei anrhydeddu gan yr Eisteddfod, ond wedi’i anghofio gan hanes dros y can mlynedd ddiwethaf.

Pan ddechreuodd y rhyfel yn Awst 1914, roedd trefniadau Eisteddfod Genedlaethol Bangor bron â chael eu cwblhau,  Roedd y ceisiadau cyfansoddi i gyd wedi’u derbyn, ac wythnosau’n unig oedd ar ôl cyn i’r ŵyl, a oedd yn argoeli i fod yn llwyddiant, gychwyn.  Canslwyd y digwyddiad; cafodd y cyfansoddiadau eu cloi yng nghromgell y banc lleol, ac roedd rhai hyd yn oed yn sôn am ddefnyddio’r Pafiliwn trawiadol, wedi’i godi ar dir y brifysgol ym Mharc y Coleg, i gadw carcharorion rhyfel.

Er nad oedd llawer yn disgwyl i’r rhyfel barhau’n hir, flwyddyn yn ddiweddarach roedd yr ymladd yn parhau, ond gyda chefnogaeth Canghellor y Trysorlys ar y pryd, David Lloyd George, penderfynwyd cynnal Eisteddfod Bangor yn 1915.

Roedd dwy fataliwn wedi cystadlu yn y gystadleuaeth i gorau meibion, yr 16eg a’r 17eg bataliwn o gatrawd y Ffiwsilwyr Cymreig.  Preifat Tom Ll Tucker o Sgiwen oedd yn arwain côr y 16eg Bataliwn, tra bod yr Is-gorporal Samuel Evans o Rosllannerchrugog, un â gradd o’r Coleg Sol Ffa, yn arwain bechgyn yr 17eg Bataliwn.

Yr 16eg Bataliwn aeth â hi gan ennill £15 – tua £1,500 heddiw, gyda’r beirniad yn tynnu sylw at y “...donyddiaeth a lliwio da...Tempo da wedi’i ddewis ar gyfer y ddau symudiad...cywirdeb y rhan bas cromatig a genir yn anghywir mor aml,” gan roi 88.5 allan o 100 iddyn nhw am eu perfformiad.

Ond, aeth yr Is-gorporal Evans a’i griw ddim adref yn waglaw, gan iddynt hwythau gael eu canmol gan y beirniad a derbyn £3 3s fel gwobr - dros £320 yn ein harian ni heddiw.

Yn fuan ar ôl yr Eisteddfod, gadawodd dynion y ddwy fataliwn Gymru i ymladd yn ffosydd Ffrainc, ac ni wyddom ragor o’u hanes tan fore 6 Medi 1917, dwy flynedd i’r diwrnod ar ôl y gystadleuaeth.

Yn rhifyn 13 Medi 1917 o Y Brython, ceir adroddiad ar y digwyddiad ar lwyfan y Pafiliwn, gan nodi, “Yn ystod y bore buom yn llygad-dystion o un o'r pethau pruddaf a welwyd mewn Eisteddfod.”

Mae’r erthygl yn parhau, gan sôn am yr 17eg Bataliwn, a dweud, “Aeth y côr wedi hynny i Ffrainc, a hysbysodd Llew Tegid ni yn awr fod pob aelod o'r côr hwnnw, ag eithrio'r arweinydd yn unig, wedi rhoddi eu bywyd i lawr dros eu gwlad. Yr oedd yr arweinydd unig yn bresennol yn yr Wyl heddyw, yntau wedi ei anafu am ei oes, sef Lance-Corporal Samuel Evans, Pen y Cae, Rhos.”

Yr Is-gorporal Samuel Evans, y gŵr ifanc a arweiniodd ei fechgyn i lwyfan y Pafiliwn ddwy flynedd ynghynt.  Ac yn sicr, roedd y llwyfan yn le unig iawn heb ei gôr o’i gwmpas.

“Derbyniasai Llew Tegid lythyr diddorol oddiwrth deuluoedd dau o'r bechgyn ymadawedig, a rosette i'w dodi ar fynwes yr arweinydd. Du a gwyn ydoedd y rosette - gwyn yn cynrychioli cymeriad di-ystaen y bechgyn, a'r du i ddangos ein gofid a'n galar ninnau. Ni allai feddwl am neb mwy priodol i binio'r ysnoden na'r Cadfridog Syr Owen Thomas. Trwy gymorth ei ffon cododd Evans ar ei draed, camodd Syr Owen Thomas ymlaen, ac yn reddfol cododd yr holl dorf hithau ar ei thraed gan sefyll tra y piniodd y marchog yr ysnoden ar fynwes y milwr clwyfedig ynghanol distawrwydd dwys, ac yn ddilynol rhoddwyd banllefau o gymeradwyaeth i'r milwr ieuanc dewr a gollodd ei gyfoedion.”

Ac yna, ar lwyfan y Pafiliwn ym Mhenbedw, daw diwedd ar yr hyn rydym yn ei wybod.  Nid oes gennym ragor o wybodaeth am yr Is-gorporal Samuel Evans o’r Rhos nac unrhyw aelod arall o gôr yr 17eg Bataliwn, ar wahân i lythyr yn rhifyn 25 Medi o’r Cambria Leader, oddi wrth y Parch. J Evans Jones, gweinidog o Sgiwen, yn cywiro’r stori wreiddiol a ryddhawyd a oedd wedi honni mai’r 17eg Bataliwn oedd wedi ennill, gan ddweud mai’r 16eg Bataliwn ddaeth i’r brig mewn gwirionedd.  Enw’r 16eg Bataliwn sydd hefyd yn nogfennaeth a chofnodion yr Eisteddfod ei hun.

Dengys cofnodion milwrol bod yr 17eg Bataliwn (2il Gogledd Cymru) wedi’i chreu yn Llandudno ar 2 Chwefror 1915, ac wedi dod dan adain y 128ain Brigâd, Adran 43, gan lanio yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915.  Roedd nifer o’r recriwtiaid ifanc yn dod o ardal Llandudno, Blaenau Ffestiniog a Wrecsam.

Ond beth ddigwyddodd i ddynion ifanc yr 17eg Bataliwn dros y misoedd canlynol?  O fewn dwy flynedd, mae’n ymddangos bod pob aelod o gôr Samuel Evans wedi’u lladd ymhell o’u cartrefi a’u teuluoedd.

Ganrif yn ddiweddarach, wrth i’r Eisteddfod baratoi i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn a’r rheiny a gollodd eu bywydau, mae apêl wedi’i lansio i ddarganfod cantorion coll yr 17eg Bataliwn.  Mae trefnwyr yn awyddus i nodi canmlwyddiant y seremoni drist a gynhaliwyd ar lwyfan y Pafiliwn, ac yn awyddus i gael hyd i ddisgynyddion y côr.

Ydych chi’n perthyn i un o’r aelodau? Oes gennych chi hen stori deuluol sy’n eich cysylltu chi â’r gystadleuaeth yn 1915?  Neu a oes gennych chi unrhyw wybodaeth am beth ddigwyddodd i’r bechgyn a’r dynion ifanc ar ôl iddyn nhw adael yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor?  Os felly, rydym yn awyddus i glywed gennych chi.  Rydym yn credu bod nifer o’r teuluoedd yn byw yn ardal gogledd Cymru, ac yn hyderus bod gan nifer ohonynt ddisgynyddion a theuluoedd sy’n dal i fyw yn lleol.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y côr, cysylltwch gyda Gwenllïan Carr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, naill ai drwy ffonio 0845 4090 400, e-bostio gwenllian@eisteddfod.org.uk neu drwy lenwi’r ffurflen wybodaeth ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru/cor-1915.  Y bwriad yw cyhoeddi mwy am y côr yn agosach at yr Eisteddfod, ac i gasglu enwau’r aelodau er mwyn iddyn nhw gael eu cofio yn yr Eisteddfod ym Môn o 4-12 Awst.