Rydym yn chwilio am ddyfynbris ar gyfer y gwaith isod:
Llyfryn hyrwyddo 2018:
Taflen A3 yn plygu i lawr i 99 x 210mm
Plygiad 'concertina' - byddwn yn anfon copi o daflen debyg at yr argraffydd llwyddiannus cyn argraffu.
Papur 140gsm heb orchudd.
Dylid cynnig dyfynbris am 40,000 copi a phris am 5,000 copi ychwanegol.
Dyddiad cau i gynnig dyfynbris: 17.00, Dydd Llun 5 Mawrth 2018.
Anfonwch eich dyfynbris at gwenllian@eisteddfod.org.uk. Dylech ysgrifennu 'Llyfryn 2018' yn llinell 'pwnc' eich neges wrth anfon eich dyfynbris.
Byddwn yn anfon ffeiliau parod i'w hargraffu at y cwmni llwyddiannus.