Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

6 Mehefin 2018

Heno (6 Mehefin) cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig.

Rhoddir y Goron gan Brifysgol Caerdydd, a daw’r wobr ariannol gan Manon Rhys a Jim Parc Nest, â diolch ac er cof.  Cyflwynir y Goron eleni am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau, dan y teitl Olion.  Y beirniaid yw Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies.

Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Laura Thomas, Castell Nedd.  Mae Laura wedi treulio dros 400 awr yn cynhyrchu Coron unigryw sy'n fodern ac eto’n parchu traddodiadau'r Eisteddfod.

Deilliodd ei hysbrydoliaeth ar gyfer y dyluniad o'i thechneg adnabyddus – gwaith parquet – lle mae’n gosod argaenau pren mewn arian pur. Mae'r Goron yn cynnwys dros 600 o argaenau chweochrog, pob un wedi'i hychwanegu â llaw.

Ei thad-cu, Jack Owen, sy’n rhannol gyfrifol am gariad Laura at weithio gyda phren. Roedd yn arfer gwneud anifeiliaid bach wedi’u cerfio o bren solet a phren haenog.  Meddai Laura, "Rydw i wastad wedi mwynhau gweithio gyda phren, ac rydw i wrth fy modd gyda’r gwahanol raenau a’r lliwiau cyferbyniol.

“I greu’r Goron, mae pum math o argaenau pren a dorrwyd yn fanwl gywir, wedi’u gosod â llaw mewn arian sydd wedi'i strwythuro mewn modd geometrig, cyn eu cyd-osod i greu'r strwythur.  Roeddwn am i’r Goron adlewyrchu’r defnydd o argaenau cynaliadwy sy’n adleisio datblygiad parhaus technolegau cynaliadwy yn ardal Caerdydd – megis cynhyrchu pŵer sy'n seiliedig ar fio-màs.”

Daeth Laura i’r brig mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd, a ddenodd nifer o ddylunwyr o’r radd flaenaf. Roedd y Brifysgol yn awyddus i gynnig ei harbenigedd i gefnogi Laura yn y broses o greu'r Goron, ac fe gafodd nifer o’r patrymau geometregol eu creu’n arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd, “Mae wedi bod yn bleser cwrdd ag aelodau staff yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru a'r Ysgol Peirianneg, a’r Ysgol Cemeg yn enwedig, sydd wedi rhoi’r geometregau unigryw i mi i’w cynnwys yn nyluniad y Goron."

Yn ogystal â’r Goron, bydd y Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith nos Fercher. 

Eleni, cyflwynir y Gadair am awdl ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau o dan y teitl Porth.  Y beirniaid yw Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.  Noddir y Gadair gan Amgueddfa Cymru i dathlu pen blwydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 70 oed.

Roedd yr Amgueddfa’n awyddus i weld cynllun oedd yn cysylltu gyda Sain Ffagan, a dyma oedd yr her i Chris Williams, cerflynydd, sy’n byw yn Pentre ac yn gweithio yn Ynyshir, y Rhondda.  Ysbrydolwyd Chris gan ffurf y cadeiriau coedyn yng nghasgliad yr Amgueddfa, ac un gadair yn arbennig a wnaed yn Nhrealaw, nepell o’i weithdy.

Meddai Chris, “Mae fy nyluniad wedi’i ysbrydoli gan nifer o wahanol gadeiriau y bûm yn ymchwilio iddynt yng nghasgliad Sain Ffagan. Mae’r dyluniad yn fodern gyda chyffyrddiadau traddodiadol, ond eto mae iddi bresenoldeb cadair seremonïol, diolch i elfennau megis sedd lydan a throm, breichiau agored a chefn uchel.”

Dewisodd Chris greu cadair â sedd a chefn o bren llwyfen gyda choesau a breichiau o bren onnen. Mae’r sedd a’r cefn wedi’u hengrafu yn ysgafn â phatrwm gwlân traddodiadol sy’n seiliedig ar garthen yng nghasgliad Sain Ffagan, ac a wehyddwyd ym Melin Wlân Esgair Moel, un o’r adeiladau cyntaf i gael ei ail-godi yn yr Amgueddfa Werin ym 1952.

Llwyddodd Chris i gyfuno elfennau traddodiadol â thechnoleg newydd wrth greu’r Gadair. Cafodd nifer o’r darnau eu creu â llaw gan ddefnyddio offer traddodiadol, tra bod y patrwm ar y sedd a’r cefn wedi eu hengrafu ar beiriant laser.

Cafodd darnau o’r Gadair eu creu yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru mewn adeilad pwrpasol – Gweithdy. Mae Gweithdy yn adeilad cynaliadwy newydd sbon sy’n llwyfan i sgiliau crefftwyr ddoe a heddiw, a man lle gall ymwelwyr o bob oed gael profiad uniongyrchol o sgiliau traddodiadol. Yn Gweithdy, bu Chris yn arddangos ac yn rhannu’r broses o greu’r Gadair gydag ymwelwyr i’r Amgueddfa – rhywbeth newydd yn hanes creu Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rhoddir y wobr ariannol gan Gaynor a John Walter Jones er cof am eu merch Beca.

Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Lleol, Ashok Ahir, “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran y Brifwyl. 

“Mae’r seremonïau’n ddwy o uchafbwyntiau’r wythnos, ac rydym yn mawr obeithio y bydd beirdd haeddiannol yn derbyn y Goron a’r Gadair yma yng Nghaerdydd ymhen rhai wythnosau. 

“Braf yw cael noddwyr lleol i’r Goron a’r Gadair eleni, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru am eu haelioni.  Diolch hefyd i Manon Rhys a Jim Parc Nest am gyflwyno gwobr ariannol y Goron, a Gaynor a John Walter Jones am rodd ariannol y Gadair.

“Diolch o waelod calon ar ran y Pwyllgor, yr Eisteddfod, a phawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith yma yng Nghaerdydd.”

Noddir seremoni dydd Llun a’r gweithgareddau ar y Maes y diwrnod hwnnw gan Hugh James, un o’r 100 cwmni cyfreithiol mwyaf yn y DU.

Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 6 Awst am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 10 Awst am 16.30, yn y Pafiliwn a leolir yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru. 

Bydd y Gadair a’r Goron yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 12 Mehefin tan 2 Awst.

Bydd angen archebu bandiau garddwrn ar gyfer gweithgareddau’r dydd a gynhelir yn y Pafiliwn yn Theatr Donald Gordon ac yn yr is-bafiliynau a leolir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.  Gellir prynu’r rhain ymlaen llaw neu ar y diwrnod, a’r amcan yw ein galluogi i reoli niferoedd sy’n cael mynediad yn unol ag anghenion iechyd a diogelwch y Ganolfan.  Bydd mynediad i’r ardaloedd eraill y Maes, gan gynnwys yr adeiladau parhaol eraill, i gyd yn rhad ac am ddim.

Ewch i www.eisteddfod.cymru am ragor o wybodaeth.