Cyhoeddi Eisteddfod Caerdydd ar y gorwel

8 Mehefin 2017

Gyda phythefnos a hanner i fynd cyn Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, fu’n edrych ymlaen at ŵyl wahanol yn ein prifddinas y flwyddyn nesaf.

“Fe fydd yr Eisteddfod yn 2018 yn wahanol i’r arfer, ac mi oedd ‘na dipyn o waith i argyhoeddi ein hymwelwyr o’r peth ar y cychwyn, ond erbyn hyn, ac yn arbennig wrth siarad gyda’r criw arbennig o wirfoddolwyr sy’n gweithio ar draws Caerdydd, rwy’n credu bod y syniad wedi cydio, a bod pobl yn edrych ymlaen at fod yn rhan o rywbeth newydd, ac i weld sut mae modd i ni sicrhau esblygiad a datblygiad yr Eisteddfod i’r dyfodol.

“Rydan ni wedi dweud o’r cychwyn mai arbrawf fydd cynnal Eisteddfod drefol, neu ddinesig yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf, ac mae hyn yn bwynt pwysig.  Nid symud i ffwrdd o’r Maes traddodiadol yw’r syniad, ond gweld a oes ‘na ffordd o wneud pethau’n wahanol mewn rhai ardaloedd, agor yr Eisteddfod allan, ei gwneud yn fwy hygyrch a chynhwysol, sicrhau ei ffyniant a cheisio rhoi cyfle i ardaloedd gwahanol ei gwahodd yn y dyfodol. 

“Mae Caerdydd wedi hen arfer â chynnal gweithgareddau yn y ddinas, ac rydym yn ffodus i fod yn cydweithio’n agos gyda’r Cyngor wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Wythnos yn ôl, roedd degau o filoedd o bobl wedi tyrru i’r ddinas, ac roedd yr ymateb gan ymwelwyr a thrigolion yr ardal i’r trefniadau’n arbennig o dda.  Rydym ni’n astudio gweithgareddau a digwyddiadau fel hyn yn ofalus er mwyn i ni gael sicrhau llwyddiant tebyg o ran ein trefniadau ni ymhen y flwyddyn.

“Er bod yr Eisteddfod am fod yn wahanol, fe fydd ‘na ddigon o elfennau tebyg i’r arfer yno hefyd.  Rydan ni’n dal i weithio ar y manylion i gyd, ond gallwn ddweud y byddwn yn defnyddio cymysgedd o adeiladau parhaol y Bae ynghyd â nifer o strwythurau dros-dro i greu’r Maes.  Fe fydd ‘na deimlad o Faes, ac fe fydd ‘na lwybrau pendant ar gyfer ein hymwelwyr er mwyn iddyn nhw grwydro o le i le gan deimlo’n bendant eu bod nhw’n rhan o’r Eisteddfod. 

Bydd awyrgylch y strwythurau dros dro’n debyg iawn i’r hyn a geir mewn Eisteddfod arferol, ond wrth gwrs, bydd awyrgylch wahanol mewn adeiladau fel Canolfan y Mileniwm, lle bydd y cystadlaethau’n cael eu cynnal.  Rydym eisoes yn gwybod bod nifer fawr o gystadleuwyr yn gyffrous iawn am y cysyniad o berfformio ar lwyfan Theatr Donald Gordon – un o lwyfannau mawr y byd – ac mae’n sicr o fod yn brofiad bythgofiadwy i unigolion, partïon, bandiau a chorau.

“Rydan ni eisoes wedi sôn mai arbrawf fydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.  A dyna sut mae nifer fawr o’r datblygiadau sydd wedi’u croesawu yn yr Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf wedi cychwyn.  Rwy’n cofio ni’n rhedeg arbrawf o greu rhywle i bobl ifanc ar y Maes ychydig flynyddoedd yn ôl, ac erbyn hyn, mae Caffi Maes B yn rhan annatod o’r hyn sydd ar gael yn yr Eisteddfod. 

Arbrawf hefyd oedd y Tŷ Gwerin - ein hawydd i roi llwyfan amlwg i draddodiadau gwerin yn ystod yr wythnos - ac mae hwn wedi talu ar ei ganfed, nid yn unig i’r Eisteddfod ond i’r sîn werin ei hun, sydd wedi gweld twf a datblygiad aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf.  Ac wrth gwrs, arbrofion oedd Llwyfan y Maes a hyd yn oed y bar ar y cychwyn, ond mae’n anodd iawn dychmygu sut ŵyl fyddai’r Eisteddfod erbyn hyn heb i ni arbrofi, dysgu, datblygu ac esblygu ar ôl rhoi tro ar syniadau newydd.  A dyna y byddwn yn ei wneud dros y flwyddyn nesaf ac wrth werthuso’r prosiect ar y diwedd.  Beth weithiodd?  Beth y gallwn ei wneud yn wahanol?  Sut y gallwn ddefnyddio elfennau o’r hyn rydym wedi’i ddysgu ar faes traddodiadol yn y dyfodol – ac yn y blaen.

“Mae gennym dîm ardderchog o wirfoddolwyr yma yng Nghaerdydd, ac am y tro cyntaf, mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n ifanc.  Mae’r gwaith codi ymwybyddiaeth ac arian ar hyd a lled y ddinas wedi hen gychwyn, ac mae ‘na weithgareddau uchelgeisiol a gwahanol wedi’u cynnal a’u cynllunio.  Mae gweld timau o bobl ifanc yn trafod syniadau yn wych o beth, ac yn rhoi gobaith o’r newydd i ni fel Cymry.  Mae datblygu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mor bwysig, ac mae prosiect cymunedol yr Eisteddfod yn creu’r cyfleoedd yma mewn awyrgylch hollol naturiol.

“Dydd Llun nesaf, bydd y gwaith ar Faes Eisteddfod 2017 yn cychwyn, ac yna, ddiwedd yr wythnos, byddwn yn nodi mai 50 diwrnod yn unig sydd i fynd tan i’r Eisteddfod gychwyn.  Mae Môn, wrth gwrs, yn ardal gwbl wahanol i Gaerdydd, ond eto, mae ‘na elfennau pendant o’r hyn rydan ni’n ei ddysgu yno’n mynd i fod yn berthnasol i ni yn ein gwaith yng Nghaerdydd dros y flwyddyn nesaf.  Peth felly ydi trefnu’r Eisteddfod, dysgu wrth i ni deithio Cymru a mynd ag arfer da o wahanol ardaloedd gyda ni i’r ardal nesaf - a cheisio osgoi ailadrodd ambell beth wrth gwrs!

“Mae’r gwaith gyda dysgwyr yn mynd i fod yn gwbl allweddol yng Nghaerdydd, fel yr oedd yn Sir Fynwy, ac fel mae wedi bod ym Môn.  Cyflwyno pobl i’r iaith am y tro cyntaf oedd y bwriad yn Sir Fynwy tra ein bod ni wedi bod yn annog pobl i ail-gydio yn eu Cymraeg a chael yr hyder i ddefnyddio’r iaith ym Môn eleni.  Rwy’n meddwl y byddwn angen rhoi’r ddau beth ar waith yng Nghaerdydd dros y flwyddyn nesaf – a sicrhau bod pawb yn teimlo balchder yn yr iaith a’n diwylliant ac yn gweld yr Eisteddfod fel dathliad cenedlaethol.

“Ar 24 Mehefin, bydd yr Orsedd yn gorymdeithio drwy’r ddinas fel rhan o ‘Gyhoeddi’ bod yr Eisteddfod ar ei ffordd.  Dyma un o draddodiadau’r Eisteddfod, yn ddathliad lliwgar o’r hyn sydd i ddod.  Ychydig iawn sydd wedi newid yn y digwyddiad yma dros y blynyddoedd, a dyma sy’n ei wneud yn unigryw ac yn hynod draddodiadol. 

“Ein gwaith ni dros y flwyddyn nesaf yw darbwyllo pobl Caerdydd bod yr Eisteddfod ei hun, yr wythnos ym mis Awst, yn bell o fod yn draddodiadol, ein bod ni wedi newid cymaint dros y blynyddoedd diwethaf, a’n bod ni erbyn hyn yn cael ein hystyried fel un o’r gwyliau mawr, gyda’r cystadlu yn galon iddi, a gweithgareddau eraill o bob math yn digwydd o’i chwmpas.

“Ac mae gwaith i’w wneud yn bendant, ond mae’n argoeli’n dda.  Rydym wedi gweld gwahaniaeth mawr yn agweddau pobl, sefydliadau, cwmnïau a gwleidyddion dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae’r drysau rydym yn eu curo eisoes yn gilagored, a llawer mwy yn gweld yr Eisteddfod fel cyfle i gydweithio nac erioed o’r blaen.  Ond mae mwy i’w wneud.  Ac rydym yn dal i chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i sicrhau llwyddiant y Cyhoeddi ynghyd â’r Eisteddfod ei hun yng Nghaerdydd.  Heb wirfoddolwyr, fyddai dim Eisteddfod, a heb Eisteddfod, byddai’r iaith a’n diwylliant yn llawer tlotach.”

Cynhelir Seremoni’r Cyhoeddi ar Lawnt Neuadd y Ddinas ddydd Sadwrn 24 Mehefin am 15:00, gyda’r orymdaith ddinesig yn cychwyn am 14:00.  Bydd artistiaid a grwpiau lleol yn perfformio ar lwyfan awyr agored yn ystod y dydd.  Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd o 3-11 Awst 2018.  Am fwy o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.