Cyhoeddi Urddau'r Orsedd Ynys Môn i drigolion y de ddwyrain

4 Mai 2017

Heddiw (4 Mai), cyhoeddir enwau'r rheiny o’r de ddwyrain a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Ynys Môn eleni, fore Llun 7 Awst a fore Gwener 11 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd. 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

 

Y Wisg Las

Richard Crowe

Urddir Richard Crowe, Caerdydd, am ei arbenigedd ym myd y gyfraith i’r broses o greu deddfwriaeth i’r Gymraeg yng nghyd-destun datganoli, ynghyd â’i feistrolaeth o’r Gymraeg.  Yn wreiddiol o Sir Dorset, dysgodd y Gymraeg ar ei liwt ei hun cyn mynd i’r brifysgol yn Aberystwyth.  Bu’n Olygydd Cynorthwyol gyda Geiriadur Prifysgol Cymru am flynyddoedd, cyn derbyn swydd fel cyfieithydd cyfreithiol yn y Cynulliad Cenedlaethol.  Bu’n drafftio deddfwriaeth yn y Gymraeg, ac aeth ati i astudio er mwyn ennill cymwysterau yn y gyfraith.  Ers 2005, ef yw Prif Ieithydd Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, ac mae wedi llywio datblygiad y Gymraeg fel iaith ddeddfu ers bron i ugain mlynedd bellach.

Ian Gwyn Hughes

Bu Ian Gwyn Hughes, Caerdydd, yn ohebydd chwaraeon gyda’r BBC yng Nghymru am flynyddoedd.  Ond daeth i sylw’r rhan fwyaf o bobl y llynedd yn rhinwedd ei waith fel Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl Droed Cymru yn ystod pencampwriaeth yr Ewros.  Mae wedi sicrhau lle canolog i’r Gymraeg yng ngwaith y Gymdeithas, gan ddangos balchder y tîm a’r swyddogion yn yr iaith.  Rhoddodd hyn lwyfan rhyngwladol i’r iaith yn ystod y gystadleuaeth, a thrwy hynny crëwyd teimlad o berchnogaeth o’r iaith yn ogystal â’r tîm.  Yn ogystal, bu’n flaengar yn hyrwyddo pêl droed mewn cymunedau Cymreig a Chymraeg ar draws y wlad.

Michael Jones

Un sydd wedi gweithio’n ddiflino dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol yw Michael Jones, Caerdydd, gan ymgyrchu’n hir a llwyddiannus i ehangu addysg Gymraeg yn y brifddinas ac ymladd dros ymgyrchoedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd.  Mae’n adnabyddus iawn ym myd y gyfraith yma yng Nghymru, ac wedi gweithio ar nifer o achosion llys sy’n ymwneud â’r iaith yn ystod ei yrfa.  Mae’n parhau’n aelod o fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, ar ôl cyfnod hir ar y Pwyllgor Gwaith a Chadeirydd, ac yn llywodraethwr amlwg yn rhai o ysgolion Cymraeg y ddinas.  Bu’n Llywydd ac Ysgrifennydd Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd, ac mae wedi gweithio’n galed i hybu’r Gymraeg ym myd busnes yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Jeremy Randles

Bu Jeremy Randles, Y Fenni, yn allweddol yn y gwaith o ddenu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2016.  Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu’r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi’r achos.  Unwaith y daeth y newyddion bod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol, bu Jeremy’n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o’r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod.  Bu’n Gadeirydd yr Is-bwyllgor Technegol, ac yn Brif Stiward yn ystod yr wythnos.  Erbyn hyn, mae’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau gwaddol teilwng i’r Eisteddfod yn Sir Fynwy.  Yn wreiddiol o Wrecsam ac yn fab i deulu di-gymraeg, mae wedi dysgu’r iaith yn rhugl ac mae ef a’i deulu’n chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Cymraeg y Fenni.

Nia Roberts

Fel merch o Fôn yr adnabyddir y cyflwynydd Nia Roberts, Y Bontfaen, a hithau’n ferch i’r diweddar actor ac athro, JO Roberts.  Mae’n un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C ac yn un o leisiau poblogaidd Radio Cymru, gyda phrofiad helaeth o gyflwyno digwyddiadau byw a chelfyddydol o bob math, gan gynnwys y darlledu o’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Chôr Cymru.  Hi hefyd yw cyflwynydd rhaglen gelfyddydol wythnosol Radio Cymru, Stiwdio.  Derbyniodd Gymrodoriaeth er anrhydedd am ei chyfraniad i faes darlledu gan Brifysgol Bangor llynedd.

Osian Roberts

Gyda’i wreiddiau’n ddwfn ym Modffordd, Ynys Môn, pêl droed fu bywyd Osian Roberts ers pan yn fachgen ysgol, gan lwyddo ar y lefel uchaf o’r cychwyn. Yn dilyn cyfnod yn UDA, dychwelodd i Gymru i weithio ym myd pêl droed, ac ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n rhan greiddiol o dîm hyfforddi Cymru.  Roedd ei brofiad a’i arbenigedd yn ganolog i lwyddiant mawr y tîm yng nghystadleuaeth yr Ewros y llynedd, pan lwyddodd y bechgyn i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth.  Bu’n rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau bod y Gymraeg i’w gweld a’i chlywed yn ystod y gystadleuaeth, gan godi proffil yr iaith yn rhyngwladol ar draws y byd.  Yn ogystal â’r anrhydedd hwn, Osian Roberts yw Llywydd yr Ŵyl yn yr Eisteddfod eleni.

David a Ruth Roberts

Bu David a Ruth Roberts, Llanelen, Y Fenni, yn gwbl allweddol i lwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau'r llynedd.  Roedd y ddau’n gyd-gadeiryddion Pwyllgor Apêl y Fenni, gan weithio’n ddi-ffael am gyfnod o ddwy flynedd i godi arian at yr Eisteddfod.  Gyda tharged o £100,000 mewn ardal sydd ar y cyfan yn ddi-gymraeg, a chyda chriw bychan a gweithgar, bu’r ddau’n gweithio ar lefel ymarferol a strategol, gan chwalu’r targed a chyrraedd bron i £120,000.  Mae’r ddau hefyd yn rhan ganolog o weithgareddau Cymraeg a Chymreig yr ardal, gyda David yn Is-gadeirydd y Fenter Iaith leol, Ruth yn Ysgrifennydd Merched y Wawr, a’r ddau’n hynod weithgar gyda Chymreigyddion y Fenni.

 

Y Wisg Werdd

Iwan Guy

Mae Iwan Guy, Y Bontfaen, yn adnabyddus fel canwr, arweinydd ac athro.  Yn gyn-enillydd cenedlaethol, bu’n gweithio fel canwr opera proffesiynol am flynyddoedd, gan berfformio gydag amryw o gwmnïau opera.  Yn dilyn damwain, aeth ati i hyfforddi fel athro cynradd, a bu’n ddylanwadol iawn fel athro ac yna bennaeth yn y sector gynradd yn ardal y de ddwyrain cyn mynd i weithio fel cyfarwyddwr undeb penaethiaid NAHT Cymru.  Parhaodd ei ddiddordeb ym myd cerddoriaeth a bu’n gyfrifol am sefydlu ac arwain nifer o gorau ynghyd â Chymdeithas Gorawl Y Bontfaen. 

Geraint Jarman (i’w urddo yn 2018)

Mae cyfraniad Geraint Jarman, Caerdydd, fel cyfansoddwr a bardd wedi bod o ddylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru.  Mae’n rhan allweddol o’r sîn Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â deunaw o recordiau hir rhwng 1976 a 2016.  Yn ddi-os, mae’n un sydd wedi cyfrannu cymaint i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, gyda chenedlaethau o unigolion a bandiau wedi’u dylanwadu ganddo ac wedi mwynhau’i gerddoriaeth drwy’r blynyddoedd.

Rhodri Jones

Rhoddodd Rhodri Jones, Penarth, oes o wasanaeth i addysg Cymraeg ail iaith yn ne ddwyrain Cymru, gan dreulio ugain mlynedd fel Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Fechgyn y Barri, fel athro ymgynghorol gyda chyfrifoldeb am ail iaith yn ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro ac fel Arolygwr gydag Estyn.  Ond mae’i gyfraniad yn llawer ehangach na hyn, gyda’i ddiddordeb yn nhraddodiadau Cymru, yn arbennig dawnsio gwerin.  Mae’n aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru ers degawdau ac yn un o sylfaenwyr Cwmni Dawns Caerdydd.  Mae hefyd yn trefnu cyrsiau hyfforddi cenedlaethol, ac yn syml, yn gweithio’n ddiwyd i gadw un o’n traddodiadau cynhenid yn fyw.

Jeanette Massocchi

Mae Jeanette Massocchi, Y Fenni, yn rhan o fyd cerddorol Cymru ers blynyddoedd ac wedi cyfrannu’n sylweddol i’r maes, fel cyfeilydd, beirniad a hyfforddwraig.  Bu’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd tan 2004, ond gyda’r Eisteddfod yn Y Fenni'r llynedd, penderfynodd ail-gydio yn ei gwaith a chyfeilio a hyfforddi Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chyfeilio’n ystod yr wythnos ei hun.  Dros y blynyddoedd mae wedi annog a meithrin talentau cannoedd o bobl, nifer ohonynt yn enillwyr y Rhuban Glas ac wedi mynd ymlaen i yrfaoedd cerddorol llwyddiannus.  Mae hefyd yn cyfeilio neu’n beirniadu mewn nifer o eisteddfodau ar draws Cymru, gan gynnwys yr eisteddfod leol yn Y Fenni, lle mae’n aelod o’r pwyllgor ers i’r digwyddiad gael ei adfywio yn 2002.

Wynford Ellis Owen

I genedlaethau o Gymry, mae Wynford Ellis Owen, Creigiau, Caerdydd, yn adnabyddus fel Syr Wynff o’r gyfres enwog ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’, ac i eraill, Donald, y gweinidog o gyfres ‘Porc Peis’ ydyw.  Ond i gannoedd o unigolion sy’n ddibynnol ar gyffuriau neu ddiod yn ardal Caerdydd, ef yw’r gŵr sy’n gyfrifol eu triniaeth, fel Prif Weithredwr yr elusen ‘Stafell Fyw’.  Aeth ati i ennill cymhwysedd academaidd yn y maes cyn sefydlu ac agor y ganolfan, sy’n ffynnu, ac mae’n fwriad ehangu’r prosiect ymhellach a sefydlu ‘Stafelloedd Byw’ eraill yng ngorllewin a gogledd Cymru.  Mae’r ganolfan yng Nghaerdydd wedi trawsnewid bywydau, a dyma oedd ei bwriad, yn dilyn ei brofiad ef ei hun.