Cyngor yr Eisteddfod yn dathlu llwyddiant a pharatoi am y dyfodol

25 Tachwedd 2017

Yn ei gyfarfod Cyngor yn Aberystwyth heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai Llanrwst fydd lleoliad yr ŵyl ymhen dwy flynedd yn 2019.

Meddai’r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, “Ymhen dwy flynedd bydd deng mlynedd ar hugain ers cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Dyffryn Conwy, ac mae pawb yn edrych ymlaen i ddychwelyd i ardal a fu’n gartref arbennig i’r ŵyl nol yn 1989.

“Cyhoeddi’r lleoliad heddiw yw’r cam nesaf yn y gwaith o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod, gyda’r pwyllgorau i gyd wedi’u creu ac wedi cychwyn ar eu gwaith.  Rydym yn edrych ymlaen i gychwyn ar y gwaith ar lawr gwlad ym mhob rhan o Sir Conwy er mwyn sicrhau prosiect ac Eisteddfod lwyddiannus iawn yn yr ardal.”

Croesawyd y newyddion gan y Cynghorydd Gareth Jones, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,  “Rydym wrth ein bodd y bydd Eisteddfod 2019 yn cael ei chynnal ym Mwrdeistref Sirol Conwy, a hoffem longyfarch Llanrwst am gael ei dewis i gynnal y digwyddiad cenedlaethol hwn.

“Byddwn yn cefnogi Pwyllgor yr Eisteddfod gyda’u trefniadau dros y deunaw mis nesaf wrth iddynt baratoi eu digwyddiad.”

Yn ogystal â chyhoeddi lleoliad 2019, clywodd Cyngor yr Eisteddfod fod yr ŵyl yn Ynys Môn eleni wedi gadael gweddill o £93,200.

Dywedodd Elfed Roberts, "Mae heddiw’n gyfle i edrych yn ôl ar yr wythnos ym Modedern ddechrau Awst eleni.  Er y tywydd gwael ar y penwythnos cyntaf, roedd hi’n Eisteddfod gofiadwy, ac mae ein diolch ni’n fawr i drigolion Môn, ein gwirfoddolwyr arbennig a’n hymwelwyr am hynny.

“O’r cychwyn, bwriad Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Derec Llwyd Morgan, oedd sicrhau bod lle i bobl ifanc yr ynys ym mhob elfen o’r gwaith o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod.  Braf felly oedd gweld y cydweithio ardderchog rhwng pobl o bob oed ar draws y prosiect, o lywio’r gwaith o ddewis testunau a chystadlaethau i drefnu a chynnal cannoedd o weithgareddau cymunedol ym mhob rhan o’r ynys.

“Roedd tîm Ynys Môn yn benderfynol o gyrraedd nod y Gronfa Leol, a dyna a wnaethpwyd, a’i basio o bron i £90,000 erbyn diwedd wythnos yr Eisteddfod.  Llwyddwyd i wneud hyn dan arweiniad gofalus a threfnus Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Haydn Edwards, ynghyd â phwyllgorau lleol hynod weithgar a llawn syniadau, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw oll am eu gwaith.

“Braf oedd gweld cynifer o gystadleuwyr torfol ac unigol yn cymryd rhan eleni, gyda 15 côr mewn un gystadleuaeth yn unig yn ystod y penwythnos cyntaf!  Gwelwyd nifer fawr o gystadleuwyr ifanc ar y llwyfan hefyd, gyda Chôr Ieuenctid Môn yn llwyddo i gipio gwobr Côr yr Ŵyl ddiwedd yr wythnos.

“Ac mae’n rhaid sôn am brosiect Côr yr Eisteddfod, a phrosiect A Oes Heddwch?  Crëwyd cyfanwaith i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr gan Aled a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), Guto Dafydd, Paul Mealor a Grahame Davies, gan gymryd ysbrydoliaeth o hanes Hedd Wyn a straeon am fechgyn o wahanol ardaloedd o amgylch Môn a Gwynedd a fu’n ymladd yn y rhyfel.  Braf oedd cael cyflwyno gwaith cwbl newydd a gwreiddiol, a hynny ar ddechrau’r wythnos, gyda chôr o bron i 250 o leisiau lleol a fu’n gymaint ran o’r prosiect i gyd.

"Mae heddiw hefyd yn gyfle i ddiolch i’n holl bartneriaid, ac yn arbennig i Gyngor Sir Ynys Môn, yn aelodau etholedig a staff, am eu holl gefnogaeth a chymorth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.  Rydym hefyd am ddiolch i’r gwasanaethau brys ac i’r cwmnïau bysiau a fu mor greiddiol i’r gwaith o weithredu’r cynllun bysiau gwennol am ran helaeth o’r wythnos.  Bu eleni’n bartneriaeth go iawn, a diolch am bob cydweithrediad.

“Ac mae ein golygon yn troi at Gaerdydd a’r Eisteddfod arbrofol drefol a gynhelir yn y Bae o 3-11 Awst y flwyddyn nesaf.  Rydym yn edrych ymlaen at gael defnyddio cyfuniad o adeiladau eiconig y Bae, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm a’r Senedd, ynghyd â’r strwythurau deniadol dros-dro, sy’n gysylltiedig gyda’r Eisteddfod erbyn hyn.  Fe fydd yn wahanol yn ddi-os, ond fe fydd yn sicr yn dal i deimlo fel Eisteddfod.  Y gobaith yw cymysgu’r hen a’r newydd, y cyfarwydd a’r anghyfarwydd a chreu gŵyl sy’n cynnig rhywbeth i bawb.  Mae’n her, ond mae hefyd yn gyfle, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd barn pobl unwaith y daw Awst y flwyddyn nesaf.

“Bydd safleoedd ar y maes carafanau ar gael o 1 Chwefror, gyda’r maes wedi’i leoli ar gaeau Pontcanna. Fe gofiwch i’r maes carafanau werthu’n eithriadol o gyflym ym Môn, felly ewch ati i logi safle’n syth er mwyn sicrhau lle.  Byddwn hefyd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd dros y misoedd nesaf.

Ceir rhagor o wybodaeth a chopi o adroddiad gwerthuso Eisteddfod Ynys Môn, ynghyd â holl ganlyniadau’r wythnos ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.

PDF icon Adroddiad Gwerthuso 2017PDF icon Canlyniadau Eisteddfod 2017