Cynyrchiadau gwahanol ac uchelgeisiol yn rhaglen nos Eisteddfod Caerdydd

29 Mawrth 2018

Gyda chynhyrchiad cwbl newydd o un o glasuron mawr y Gymraeg, premiere byd eang o gyfanwaith gwreiddiol a dychweliad Gig y Pafiliwn, mae rhaglen nos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn cynnig arlwy uchelgeisiol ac unigryw.

Lleolir Pafiliwn yr Eisteddfod yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, ac mae’r lleoliad arobryn yma wedi cynnig ei hun i syniadau a chynyrchiadau newydd, gan fanteisio ar yr offer a’r adnoddau sydd ar gael mewn lleoliad parhaol o safon ryngwladol.

Meddai Pennaeth Artistig a Threfnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, “Rydym yn arbennig o falch o’r rhaglen eleni.  Wrth gwrs, mae gallu llwyfannu nosweithiau yn Theatr Donald Gordon wedi ein galluogi i fod yn fwy beiddgar ac anturus, ac rwy’n gobeithio y bydd y gynulleidfa’n mwynhau’r hyn sydd gennym i’w gynnig eleni.

“Dyma gyhoeddiad mawr cyntaf Eisteddfod Caerdydd, sydd yn mynd i fod yn ŵyl ychydig yn wahanol i’r arfer oherwydd ei natur arbrofol a threfol.  Ond wedi dweud hynny, mae Bae Caerdydd yn lleoliad ardderchog ar gyfer y Maes, a’r cyfuniad o adeiladau eiconig parhaol yr ardal fel Canolfan Mileniwm Cymru, Y Senedd ac Adeilad y Pierhead gyda strwythurau deniadol dros dro fel yurt y Tŷ Gwerin a tepees Caffi Maes B yn mynd i fod yn hynod gyffrous. 

“Mae hefyd yn gyfle i ni edrych ar yr Eisteddfod mewn ffordd wahanol ac amgen, ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Bae ymhen pedwar mis ac i glywed sylwadau a barn ein hymwelwyr ar yr arbrawf.

“Cyn hynny, mae tocynnau’n mynd ar werth yr wythnos nesaf, ar 3 Ebrill, ac mae gennym gyfres o nosweithiau amrywiol sy’n sicr o apelio at gynulleidfa eang iawn. 

“Mae’n bleser croesawu Syr Bryn Terfel yn ôl i lwyfan y Pafiliwn am y tro cyntaf ers degawd, a hynny i berfformio mewn gwaith cwbl newydd a gwreiddiol gan Mererid Hopwood a Robat Arwyn.  Ac wrth gwrs, fyddai hi ddim yn ‘Steddfod yn y Ddinas’ heb berfformiad gan Geraint Jarman – a dyma fydd uchafbwynt Gig y Pafiliwn a’r Eisteddfod gyfan i nifer fawr o’n cynulleidfa – gyda Band Pres Llareggub hefyd yn perfformio gyda Cherddorfa’r Welsh Pops.

“Mae’r grŵp Pendevig yn enw newydd, ond y perfformwyr yn adnabyddus i ni fel rhai o aelodau grwpiau fel Calan, Mabon a Plu ac eraill.  Bydd y band newydd hwn yn perfformio ar ôl dychwelyd o gyngerdd agoriadol Gŵyl Lorient yn Llydaw, wrth i’r Tŷ Gwerin ffrwydro ar lwyfan y Pafiliwn mewn ffordd hynod annisgwyl a thrawiadol. 

“Ac wrth gyplysu’r nosweithiau hyn gyda rhai o feirdd ifanc Cymru’n cyflwyno Siwpyr Stomp, addasiad newydd sbon o Teilwng yw’r Oen a gwedd gwbl wahanol ar rai o glasuron y byd pop Cymraeg, y gobaith yw ei bod yn rhaglen a fydd yn apelio at ein cynulleidfa flynyddol ac yn denu cynulleidfa newydd atom i gael blas o ddiwylliant Cymru ar ei gorau.”

Cynhelir yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd o 3-11 Awst.  Bydd tocynnau ar werth o 3 Ebrill, drwy fynd i www.eisteddfod.cymru neu drwy ffonio’r llinell docynnau ar 0845 4090 800.  Bydd archebion ar-lein yn agor am 08.30 a’r llinell docynnau ar gael o 10.00 ymlaen ar 3 Ebrill.

Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ewch ar-lein neu ffoniwch 0845 4090 900.

-diwedd-

 

MANYLION Y CYNGHERDDAU NOS

Nos Wener a Sadwrn, 3-4 Awst

Am y tro cyntaf, bydd dau berfformiad o gyngerdd agoriadol yr Eisteddfod.  Syr Bryn Terfel yw seren Hwn yw fy Mrawd: Paul Robeson - Arwr i Gymru, Arwr i’r Byd, beiopic o fywyd yr actor a’r canwr, Paul Robeson a’i gysylltiad cryf â Chymru.  Cawn olrhain bywyd Robeson drwy lygaid un o’i gefnogwyr pennaf, Mr Jones, a bortreadir gan Syr Bryn Terfel, wrth iddo adrodd yr hanes i Twm, bachgen ifanc sy’n chwilio am arwr. 

Portreadir Twm gan Steffan Cennydd.  Ymysg y perfformwyr eraill mae pump unawdydd ifanc, John Ieuan Jones, Elain Llwyd, Elin Llwyd, Steffan Prys Roberts a Mared Williams, pob un yn gyn-enillwyr cenedlaethol, ynghyd â Chôr yr Ŵyl Eisteddfod 2016, Côrdydd, côr o ieuenctid dalgylch Caerdydd, Ensemble Black Voices o Birmingham, a’r dawnsiwr Matthew Gough.

Awdur y libreto yw Mererid Hopwood, a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn.  Y cyfarwyddwr yw Betsan Llwyd.  Cynhelir perfformiad nos Wener drigain mlynedd i’r diwrnod ers i Paul Robeson annerch cynulleidfa Eisteddfod 1958 yng Nglyn Ebwy.

Nos Sul 5 Awst

Bydd ambell newid i amserlen y Pafiliwn ddydd Sul, gydag Oedfa’r Bore’n cael ei chynnal yn y Babell Lên a’r Gymanfa Ganu ar lwyfan y Pafiliwn fore Sul.  Nos Sul, cawn fwynhau addasiad hollol newydd o hen ffefryn hynod boblogaidd, Teilwng yw’r Oen.  Mei Gwynedd a John Quirk sydd wedi cydweithio ar addasiad cwbl newydd o’r gerddoriaeth, ac mae John Gwilym Jones wedi addasu’r geiriau. 

Dyma gyngerdd Côr yr Eisteddfod eleni, côr sydd wedi denu mwy na 300 o aelodau i gyd-ymarfer dros y gaeaf.  Bydd cyfle hefyd i’w clywed yn perfformio addasiadau arbennig a newydd sbon o rai o oreuon y byd pop Cymraeg, a’r rheiny wedi’u cyfuno gyda rhai o alawon mwyaf adnabyddus y byd clasurol, gan y cerddor amryddawn Geraint Cynan.  Unawdwyr y noson yw Rebecca Trehearn, Mirain Haf a Daniel Lloyd.

Nos Lun 6 Awst

Croeso i’r Siwper Stomp – cystadleuaeth farddol fwya’r mileniwm.  Perfformiadau dwys a digri, a chi’r gynulleidfa fydd wrth y llyw.

Ymunwch gyda Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury), Gwennan Evans, Gwyneth Glyn, Rhys Iorwerth, Osian Rhys Jones, Siân Northey, Gruffudd Owen, Iwan Rhys a Casia Wiliam - criw Bragdy’r Beirdd - am noson o farddoniaeth, cerddoriaeth ac ambell syrpreis. 

Nos Fawrth 7 Awst

Geraint Jarman sy’n dod â Phafiliwn yr Eisteddfod yn fyw heno wrth i Gig y Pafiliwn ddychwelyd am y trydydd tro. 

Huw Stephens sy’n cyflwyno’r noson eto eleni, a ffefrynnau mawr y sîn, Band Pres Llareggub yw’r band arall a fydd yn cael cyfle i berfformio gyda Cherddorfa’r Welsh Pops eleni.

Nos Iau 9 Awst

Pendevig sy’n gwthio ffiniau cerddoriaeth Gymreig ar lwyfan y Pafiliwn nos Iau wrth i aelodau o grwpiau fel Calan, Mabon a Plu ddod ynghyd i gyflwyno’u cyfuniad unigryw o gerddoriaeth draddodiadol, jazz, funk a drum’n’bass.  Daw ffidlau a phibau ynghyd gyda synths, pres a rhythmau grymus yn gyrru’r gân.

Yn dychwelyd o ddathlu Cymru yng Ngŵyl Ryngwladol Lorient yn unswydd ar gyfer y noson, dyma gerddoriaeth Gymreig ar ei newydd wedd, yn ffrwydro’n egnïol ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.