Beic Disgo #maesb20

5 Awst 17 - 11:00, Street Theatre

Dewch i ddathlu pen-blwydd Maes B yn 20 oed gyda’r Beic Disgo!

Bydd gennym ni gasgliad o recordiau sy’n cynnwys rhai o’r bandiau sydd wedi perfformio ym Maes B dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Hoffi Big Leaves, Diffiniad neu’r Ods?

Beth bynnag yw’ch dewis rydym yn sicr o gael hyd i rywbeth i’ch plesio a rhoi cyfle i hel atgofion am Faes B y gorffennol wrth ddawnsio gyda’r Beic Disgo ar draws y Maes!

Bydd y beic yn crwydro'n ystod y dydd.

Trefnir y rhaglen theatr stryd gan yr Eisteddfod