Eisteddfod 2018

Yn dilyn cyfarfod diweddar y Cyngor, mae’r Eisteddfod yn symud ymlaen gyda’r bwriad o gynnal yr ŵyl ym Mae Caerdydd yn 2018.

Eisoes wedi’i chrybwyll fel Eisteddfod ‘ddi-ffens’, bydd yn brofiad gwahanol i’r ŵyl draddodiadol a gynhelir mewn cae.  Mae’r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, yn trafod yr heriau a’r cyfleoedd a all godi gydag Eisteddfod o’r fath.

“Rwy’n credu bod y gair ‘arbrawf’ yn eithriadol o bwysig wrth i ni drafod y cysyniadau ar gyfer Eisteddfod 2018, ac yn bersonol, rwy’n gyffrous iawn am y syniad.  Cynhaliwyd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2008, a hyd yn oed bryd hynny, roedd y Cyngor yn sôn eu bod nhw’n awyddus i ni ddychwelyd ymhen deng mlynedd, sef 2018.

“Ond mae llawer o bethau wedi newid ers 2008, gan gynnwys yr economi yma yng Nghymru, a bydd y bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod a’r Cyngor yn wahanol iawn y tro hwn.  Mae’r dirwasgiad economaidd wedi taro llywodraeth leol ar draws Cymru’n galed, ac rydym yn parhau i weld ei effaith.

“Mae llawer o waith hefyd wedi’i wneud ar hen faes yr Eisteddfod ym Mhontcanna, gan drawsnewid y tir i gaeau criced y brifddinas, ac mae hyn yn gwneud y safle yn opsiwn afrealistig ar gyfer cynnal yr ŵyl.  Rhwng costau rent a chostau adnewyddu’r tir ar y diwedd, gallai’r Eisteddfod fod yn edrych ar fil o hanner miliwn o bunnoedd, a does dim ffordd y gallwn fforddio hyn.  Rydym hefyd wedi edrych ar nifer o opsiynau eraill ar draws y ddinas, gan gynnwys gŵyl yng nghanol y ddinas, ond eto, ar ôl ystyried a thrafod, roedd yn amlwg nad oedd y rhain am weithio.

“Efallai bod llai na deng mlynedd ers 2008, ond mae Caerdydd wedi newid cymaint yn ystod y cyfnod hwn.  Erbyn heddiw mae’n brifddinas hyderus a bywiog, ac mae’r Bae yn un o ganolfannau cymdeithasol y ddinas, a’r cyfle i fynd â’r Eisteddfod i’r Bae yn arbrawf hynod gyffrous.

“Fe fydd teimlad ‘gwahanol’ i’r wythnos, ond fe fyddwn yn dod â’r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n arfer digwydd yn yr Eisteddfod i’r Bae.  Rydym yn credu bod y lonydd hir a llydan yn yr ardal yn berffaith er mwyn creu Maes ardderchog a chroesawgar.  Mae’r Bae bron yn bentref o fewn y ddinas, a bydd hyn yn ein helpu ni i greu’r profiad Eisteddfodol unigryw a’r awyrgylch mae pobl yn ei hoffi.

“Mae llawer wedi’i ddweud am y cysyniad o Eisteddfod ‘ddi-ffens’, ac ar hyn o bryd, rydym yn teimlo mai dyma’r opsiwn mwyaf ymarferol.  Mae nifer fawr o bobl yn byw yn y Bae, a rydym yn credu y byddai codi ffens o amgylch yr ardal yn creu drwgdeimlad ac yn amharu ar bobl.  Ond, nid yw gŵyl ‘ddi-ffens’ yn golygu y bydd hi’n rhad ac am ddim.  Efallai y bydd y Maes ei hun am ddim, ond rydym yn dal i edrych ar nifer o opsiynau tocynnau a fydd yn cael eu cyhoeddi mewn da bryd.

“Rydym hefyd yn edrych ar dir ar gyfer y maes carafanau a gwersylla, a gobeithio y bydd hwn mewn lleoliad canolog yn y ddinas, er mwyn i’n hymwelwyr fod yn agos at ganol y ddinas a’r Bae, gan sicrhau bod y budd economaidd a ddaw yn sgil yr ŵyl yn cael ei rannu’n eang ar draws y ddinas.  Mae ein carafanwyr a’n gwersyllwyr yn eithriadol o bwysig i ni a byddwn yn sicrhau ein bod yn darparu safle diogel a hygyrch yn y ddinas a fydd yn apelio atynt.

“Mae Canolfan y Mileniwm yn un o’r neuaddau perfformio gorau drwy Gymru a’r DU, gydag enw da yn rhyngwladol.  Ac maen nhw’n hynod o awyddus i roi cartref i’r Pafiliwn a nifer o’r gweithgareddau eraill.  Mae’n gyfle gwych i’n cystadleuwyr, ac mae’r ymateb i’r syniad o gystadlu a pherfformio ar lwyfan y Ganolfan wedi bod yn hynod bositif ers cyhoeddi ein bwriad.

“Mae’r Eisteddfod yn adnabyddus am feithrin perfformwyr y dyfodol.  Bydd lleoli’r cystadlaethau yn y Ganolfan yn rhoi profiad bythgofiadwy i’r cystadleuwyr a’r gynulleidfa yn y neuadd ac yn gwylio gartref.  Y tro diwethaf y daeth yr Eisteddfod i Gaerdydd, roedd y Ganolfan yn weddol newydd, ond erbyn heddiw, mae wedi hen ennill ei phlwyf ac enw da.  Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein cystadleuwyr a’r gynulleidfa’n cael ei mwynhau fel rhan o’r Eisteddfo ymhen dwy flynedd.

“Er y byddwn yn arbed peth arian drwy beidio ag adeiladu Pafiliwn a’r adeiladau eraill sydd ar y Maes arferol, bydd yr arbedion hyn yn cael eu defnyddio i gydweddu unrhyw golledion a all godi yn sgil peidio codi tâl mynediad i’r Maes ac unrhyw gostau ychwanegol fel diogelwch.  Nid diben yr arbrawf hwn yw cynnal Eisteddfod ‘rad’; y bwriad yw profi syniad newydd, gan ddefnyddio lleoliadau o’r safon uchaf a gweithio i ddenu cynulleidfa newydd i’r ŵyl a’r Gymraeg ym mhrifddinas Cymru.

“Mae llawer o gwestiynau wedi’u gofyn dros yr wythnosau diwethaf.  Lle fydd y stondinau’n mynd?  Fydd yr Eisteddfod yn apelio at deuluoedd?  Mae gan y Bae brofiad eang o gynnal pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau.  Byddwn yn cydweithio gyda’r Cyngor a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio arfer da rhai digwyddiadau ac yn dysgu gwersi eraill er mwyn osgoi problemau.  Bydd digonedd o le ar gyfer stondinau, ac mae staff yn gweithio ar y cynllun Maes cyntaf, gyda’r gobaith o allu’i rannu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

“Mae’r penderfyniad hwn yn benllanw misoedd o drafodaethau cychwynnol ac ymchwil gofalus, gan gynnwys trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghaerdydd.  Roedd eu cefnogaeth dros groesawu’r Eisteddfod yn ôl i’r ddinas yn unfrydol, a nodwyd bod rhaid i leoliadau eiconig gael rôl eiconig yn yr ŵyl.  Rwy’n credu y bydd cynnal yr Eisteddfod yn y Bae yn gwireddu hyn.

“Rydym am i bobl weld yr arbrawf hwn fel cyfle cyffrous i brofi rhywbeth gwahanol.  Nid dyma ddiwedd yr Eisteddfod fel ag y mae.  Byddwn mewn cae ym Môn yn 2017 ac mewn cae unwaith eto yn sir Conwy yn 2019, a’r bwriad yw parhau i gynnal yr ŵyl mewn cae yn y dyfodol.  Ond, fe fyddem yn annoeth iawn i beidio â chymryd y cyfle hwn i gynnal yr Eisteddfod yn un o’r lleoliadau mwyaf cyffrous yn ein prifddinas a’n gwlad.

“Heb arbrofi ac edrych ar syniadau newydd byddai’r Eisteddfod wedi aros yn ei hunfan a chronni yn hytrach nag edrych i’r dyfodol.  Roedd y bar a Llwyfan y Maes yn arbrofion yn eu dydd.  Felly hefyd y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B.  Mae’n anodd dychmygu Maes heb yr ardaloedd yma heddiw.  Byddwn, felly, yn parhau i arbrofi, esblygu a datblygu dros y blynyddoedd nesaf, gan sicrhau bod yr Eisteddfod yn ŵyl sy’n deilwng ac yn gweddu i ofynion Cymru a’r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.”