Teilwng yw'r Oen

Nos Sul 5 Awst

Cawn fwynhau addasiad hollol newydd o hen ffefryn hynod boblogaidd, Teilwng yw’r Oen.  Mei Gwynedd a John Quirk sydd wedi cydweithio ar addasiad cwbl newydd o’r gerddoriaeth, ac mae John Gwilym Jones wedi addasu’r geiriau.  


Dyma gyngerdd Côr yr Eisteddfod eleni, côr sydd wedi denu mwy na 300 o aelodau i gyd-ymarfer dros y gaeaf.  Bydd cyfle hefyd i’w clywed yn perfformio addasiadau arbennig a newydd sbon o rai o oreuon y byd pop Cymraeg, a’r rheiny wedi’u cyfuno gyda rhai o alawon mwyaf adnabyddus y byd clasurol, gan y cerddor amryddawn Geraint Cynan.  Unawdwyr y noson yw Rebecca Trehearn, Mirain Haf a Daniel Lloyd.

Tocynnau o £18