Trafod Paul Robeson, yr actor

Ganed Paul Robeson 120 o flynyddoedd yn ôl yn 1898 yn Princeton, New Jersey. Yn ystod ei yrfa amrywiol fe ymddangosodd fel actor mewn 15 ffilm. Un o’r rhai mwya’ pwysig iddo fo oedd The Proud Valley (1940) a ffimiwyd ar leoliad yn Ne Cymru. Mererid Hopwood, awdur cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod eleni, fydd yn trafod gyrfa Paul ac effaith y ffilm hon a’i gysylltiad â Chymru ar ei fywyd gyda Beverley Humphreys a Harry Ernest o Ymddiriedolaeth Paul Robeson a cyfansoddwr cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Robat Arwyn.

 

Lleoliad : Ystafell Preseli (Canolfan Mileniwm Cymru)

4 Awst 2018 / 19:00

Tocynnau : Am ddim (Ond rhaid archebu tocyn)