Dyddiad: 3 – 11 Awst 2018
(stondinwyr i agor am 10:00
ar 4 Awst)
Lleoliad: O gwmpas Bae Caerdydd
(CF10 5AL)
Fe fydd Eisteddfod Caerdydd yn wahanol iawn i’r arfer ac felly fe fydd newidiadau i’r drefn arferol.
Roeddem yn derbyn ceisiadau am wythnos yn unig o ddydd Iau, 1 Mawrth – 7 Mawrth 2018.
Mae'r unedau 3m x 6m yn llawn ond mae gennym nifer o gytiau pren sy'n mesur 3m x 2.5m ar ol ac mae croeso i chi wneud cais am rheini. Mae'r manylion i gyn yn y Llyfryn Gwybodaeth sydd ar waelod y dudalen.
Ni fydd modd i chi ddewis eich union leoliad eleni, ond yn hytrach byddwn yn gofyn i chi ddewis eich ‘ardal’.
Nid ydym yn gofyn am unrhyw flaendal gyda’r cais eleni.
Byddwn yn edrych drwy’r holl geisiadau ar ôl y dyddiad cau ac yn ceisio lleoli pawb yn ôl eu dymuniad. Yna byddwn yn cysylltu nôl gyda beth sydd ar gael i chi, ac yn gofyn i chi gadarnhau os byddwch yn derbyn y cynnig cyn gynted â phosib. Byddwn hefyd yn gofyn i chi dalu 50 % o’r gost am y stondin ar yr adeg yma.
Mae’r Llyfryn Gwybodaeth a’r Ffurflenni Cais ar waelod y dudalen ynghyd â chynllun drafft o’r Maes.
Cymerwch ychydig o amser i ddarllen y Llyfryn Gwybodaeth cyn cwblhau’r ffurflenni os gwelwch yn dda.
Byddwn yn defnyddio nifer o adeiladau parhaol y Bae ar gyfer ein gwahanol bafiliynau gan gynnwys Theatr Donald Gordon ar gyfer y Pafiliwn, Y Senedd ar gyfer Y Lle Celf ac adeilad Pierhead ar gyfer Shwmae Caerdydd (Maes D), a bydd Llwyfan y Maes yn Plass Roald Dahl.
Fe fydd y stondinau wedi eu gosod ogwmpas y Bae yn ymestyn o Rhodfa Lloyd George i lawr tuag at yr Eglwys Norwyaidd. Gan na fydd y ffens arferol ogwmpas y Maes, fe fydd yr Eisteddfod yn agor y drws i gynulleidfa newydd, ac yn rhoi cyfle i dwristiaid a thrigolion Caerdydd sy’n ymweld â’r Bae i gael blas o’r Eisteddfod, diwylliant Cymreig a’r llu o gynnyrch Cymreig sydd ar gael. Fe fydd yn ffenestr siop wych am wythnos!