Arddangosfa Agored

Yng Nghaerdydd lleolir Y Lle Celf yn Y Senedd lle’r cynhelir arddangosfa aml-gyfrwng fawr. Croesewir ceisiadau ym mhob disgyblaeth. Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno gwaith ar ffurf delweddau JPG ynghyd â datganiad clir ynglŷn â’r gwaith.

Anrhydeddir rhagoriaeth fel a ganlyn:

CELFYDDYD GAIN

Y FEDAL AUR AM GELFYDDYD GAIN

Gwobr Medal Aur am Gelfyddyd Gain a £5,000 i’w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.

 

CREFFT A DYLUNIO

Y FEDAL AUR AM GREFFT A DYLUNIO

Gwobr: Medal Aur am Grefft a Dylunio a £5,000 i’w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.

           

YSGOLORIAETH ARTIST IFANC

Ysgoloriaeth: £1,500

 

 

Detholir yr Arddangosfa Agored gan:

Marc Rees (Curadur a Chyfarwyddwr Artistig Annibynnol)

Karen MacKinnon (Cyfarwyddwr a Churadur Artes Mundi)

Ingrid Murphy (Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd)

PDF icon Ffurflen Gais Arddangosfa Agored.pdf