Hwn yw fy Mrawd - cyngerdd mawreddog i agor Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

9 Gorffennaf 2018

Dwy noson wedi gwerthu allan!

Syr Bryn Terfel yw seren cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni, ac am y tro cyntaf erioed, bydd y cyngerdd yn cael ei berfformio ddwywaith, y tro cyntaf ar nos Wener 3 Awst, ac yna eto ar y noson ganlynol, ym Mhafiliwn HSBC yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru.

Mae’r noson agoriadol yn cyd-daro â nodi trigain mlynedd ers i Paul Robeson ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn 1958.  Roedd hwn yn un o symbolau mwyaf amlwg perthynas bwysig a gwerthfawr Robeson gyda Chymru. 

Pan ddychwelodd yr ŵyl i Lyn Ebwy yn 2010, roedd yn amlwg fod pobl Cymru’n dal i deimlo cysylltiad cryf gyda Paul Robeson ac yn parhau’n falch o’i gysylltiad cryf gyda Chymru.

Mae Hwn yw fy Mrawd yn gyfanwaith newydd a gwreiddiol wedi’i gomisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.  Crëwyd y libreto gan y Prifardd Mererid Hopwood, sydd wedi ennill pob un o brif wobrau llenyddol yr ŵyl.  Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn, sydd wedi gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod ar nifer o brosiectau pwysig dros y blynyddoedd.

Mae’r cynhyrchiad yn ddathliad o berthynas bwysig a phwerus Paul Robeson gyda Chymru, perthynas a ddechreuodd yn Llundain yn ystod Gorymdeithiau Newyn glowyr de Cymru yn 1927, ac a barhaodd tan ei farwolaeth.  Llwyddodd ei gysylltiad agos gyda phobl y Cymoedd, ac yn arbennig y glowyr i daro tant ar draws Cymru, a dyma brif ffocws Hwn yw fy Mrawd.

Gyda Syr Bryn Terfel yn y brif ran fel Mr Jones, athro cerddoriaeth sy’n eilunaddoli Robeson a phopeth mae’n ei gynrychioli, mae Hwn yw fy Mrawd yn dangos sut y daeth dau ddiwylliant gwahanol ynghyd drwy gryfder a chefnogaeth un dyn, Paul Robeson, a sut y llwyddodd ei ddealltwriaeth o frwydr y glowyr a’r ffordd ormesol y cawsant eu trin, i greu cysylltiad gydol-oes gyda Chymoedd y de.

Daw bywyd Robeson yn fyw ar y llwyfan, wrth i Syr Bryn adrodd sut y crëwyd y cysylltiad agos rhwng yr actor a Chymru, wrth Twm, bachgen 16 oed sy’n chwilio am arwr ei hun.  .Cynrychiolir Robeson ar y llwyfan drwy luniau, recordiadau llais, dawns a cherddoriaeth offerynnol, wrth i Syr Bryn egluro pam fod Robeson yn gymaint o arwr i ni’r Cymry.

Mae gan y cynhyrchiad sêl bendith teulu Paul Robeson, a ddaeth i’r Eisteddfod yng Nglyn Ebwy yn 2010, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Paul Robeson yng Nghymru, sydd wedi astudio cymaint ar ei fywyd a’i waith.  Mae arddangosfa ar Paul Robeson i’w gweld yng Nghanolfan y Mileniwm a chynhelir sesiynau eraill sy’n trafod y cynhyrchiad, y dyn a’i gysylltiad â Chymru’n ystod yr wythnos.

Mae Prifysgol Abertawe’n un o noddwyr Hwn yw fy Mrawd, ac meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, 

“Mae perthynas Prifysgol Abertawe a’r Eisteddfod Genedlaethol yn datblygu a dyfnhau’n flynyddol ac rydym yn hynod o falch eleni o fedru noddi cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

“Mae’r cyngerdd, Hwn yw Fy Mrawd yn arbennig o addas fel digwyddiad i’r brifysgol hon ei noddi o gofio ein perthynas agos gyda’r teulu Robeson a’n hedmygedd o’r arwr arbennig hwn, ein ethos o brifysgol Gymreig sy’n rhyngwladol ei golygon, a’n dyheadau i ddatblygu ein diwylliant cerddorol. Mae’n fraint cael cefnogi cynhyrchiad o waith Mererid Hopwood, Robat Arwyn a Betsan Llwyd fydd yn lwyfan i ddoniau aruthrol Syr Bryn Terfel, Steffan Cennydd ac eraill.”

Y noddwr arall yw Pŵer Niwclear Horizon, ac mae’r cwmni hefyd yn un o brif noddwyr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg eleni.  Dywedodd Gwen Parry-Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Niwclear y cwmni, "Gyda'r stori ysbrydoledig, lleoliad theatrig a safon y perfformwyr, mae’n debyg y bydd cyngherddau agoriadol eleni gyda’r mwyaf mawreddog eto.

“Rydym yn falch o fod yn cefnogi'r sioeau fel noddwr ac yn edrych ymlaen at adloniant arbennig.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym Mae Caerdydd o 3-11 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i wwww.eisteddfod.cymru.