Arddangosfa Agored

Yn Y Lle Celf yn Ynys Môn, fe gynhelir arddangosfa aml-gyfrwng fawr a chroesewir ceisiadau ym mhob disgyblaeth. Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno gwaith ar ffurf delweddau JPG ynghyd â datganiad clir ynglŷn â’r gwaith.

Anrhydeddir rhagoriaeth fel a ganlyn:            

CELFYDDYD GAIN

Y FEDAL AUR AM GELFYDDYD GAIN

Gwobr: Medal Aur am Gelfyddyd Gain a £5000 i’w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.

CREFFT A DYLUNIO

Y FEDAL AUR AM GREFFT A DYLUNIO

Gwobr: Medal Aur am Grefft a Dylunio a £5,000 i’w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.       

YSGOLORIAETH ARTIST IFANC

Ysgoloriaeth: £1,500

 

Detholir yr Arddangosfa Agored gan:

Carwyn Evans (Artist)

Jessica Hemmings (Ysgol Dylunio a Chrefftau, Prifysgol Göteborgs, Sweden)

Ceri Jones (Curadur Annibynnol)

 

PDF icon Ffurflen Gais Arddangosfa Agored 2017