A Oes Heddwch? - Cyngerdd Agoriadol yr Eisteddfod

24 Mai 2017

“Mae’r ymateb wedi bod yn wych.  Dwi’n gwybod bod y côr i gyd yn teimlo’n freintiedig iawn i gael bod yn rhan o’r cynllun arbennig hwn ac yn rhoi o’u calon ym mhob ymarfer. Dwi’n falch o ddweud hefyd ein bod yn cael lot o hwyl wrth ymarfer a phawb wedi gwirioni â’r gerddoriaeth!” 

Geiriau Mari Lloyd Pritchard, Cydlynydd ‘A Oes Heddwch?’, cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.  Bu Mari’n rhan o’r cynllun ers y cychwyn, a chyda llai na thri mis i fynd tan y perfformiad ar lwyfan y Pafiliwn, mae llawer o sôn ym Môn a thu hwnt am y noson sydd wedi’i hysbrydoli gan hanes Hedd Wyn ac yn gyfle i gofio’r rheiny a gollwyd yn y Rhyfel Mawr.

“Dwi’n meddwl ein bod ni’n ymwybodol o’r cychwyn cyntaf bod ‘na gyfrifoldeb arnom ni i greu prosiect arbennig.  Mae nodi canmlwyddiant y Rhyfel yn hynod bwysig ac mae’r hanes yn perthyn i bob un ohonom ni. Rydan ni yma ym Môn yn teimlo balchder mai yma, yn ein hardal ni, y bydd y cofio’n digwydd. 

“Mae’n fwy na hanes Hedd Wyn wrth gwrs, ac mae Siwan Llynor, sy’n cyfarwyddo’r perfformiad, wedi ymchwilio’n drylwyr i’r hanes ac wedi darllen cannoedd o adroddiadau a llythyrau, rhai ohonyn nhw gan fechgyn o Fôn, er mwyn sicrhau ein bod ni’n llwyddo i ddal naws y cyfnod, ac i gofio am brofiadau cynifer o bobl, yn filwyr ac yn gymunedau yma yng Nghymru.”

Dau o dri brawd adnabyddus yn y sîn gerddorol yng Nghymru fu’n gyfrifol am lywio’r prosiect cerddorol, Aled a Dafydd Hughes.  Mae’r ddau gerddor, sy’n aelodau o Gowbois Rhos Botwnnog, ynghyd â nifer fawr o fandiau a grwpiau eraill Cymru, wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio ar y prosiect, gan gyfuno elfennau o waith cymunedol gyda hanes er mwyn eu hysbrydoli i greu cyfanwaith newydd sy’n sicr o aros yng nghof pawb fydd yn y Pafiliwn nos Wener 4 Awst. 

Meddai Aled, “Mae’r profiad wedi bod yn un bythgofiadwy, nid yn unig oherwydd ein bod yn creu’r perfformiad sy’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel, a hynny ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod, yr union fan lle y digwyddodd un o ddigwyddiadau mwyaf eiconig ein cenedl, Seremoni’r Gadair Ddu yn Eisteddfod Penbedw, ond hefyd oherwydd ein bod ni wedi cael y cyfle i greu gwaith cwbl newydd a gwahanol.

“Doedden ni erioed wedi creu gwaith cerddorfaol na gwaith ar gyfer côr o’r blaen, ac mae gweld ein halawon ni’n cael eu trawsnewid a’u perfformio gan gôr llawn wedi bod yn brofiad arbennig.  A bydd clywed y cyfanwaith gyda’r gerddorfa yn ei lle yn sicr yn uchafbwynt, ac rydym yn edrych ymlaen at hynny.  Rydan ni’n falch ein bod ni wedi cael cyfle i gydweithio gyda chymunedau gan gynnwys ymateb plant ifanc a phobl ifanc i’r hanes ac wedi gallu defnyddio ffynonellau hanesyddol o bapurau newydd a llythyrau, gan fod hyn wedi ein helpu i weld effaith y Rhyfel ar bawb. 

“Mae’n bwysig cofio am y teuluoedd adref, am y ffaith bod rhaid i fywyd fynd yn ei flaen er bod y meibion a’r gwŷr yn y ffosydd, a bod cael elfen o normalrwydd yng nghanol yr holl ladd a dioddefaint nol yma yng Nghymru mor bwysig.  A gobeithio bod y perfformiad yn dangos hyn yn ogystal ag erchylltra’r Rhyfel.”

Guto Dafydd sy’n gyfrifol am y rhan helaeth o’r geiriau, a bu Guto’n cydweithio gydag Aled a Dafydd dros y flwyddyn ddiwethaf, ac fel y ddau frawd, mae’r prosiect wedi cael effaith arno yntau.  “All neb weithio ar brosiect a siarad gyda chynifer o bobl am y Rhyfel heb deimlo rhyw fath o gysylltiad gyda’r cyfnod a chyda’r cymunedau ar draws Cymru a gollodd gynifer o’u bechgyn ifanc.  Bu’r cyfle i gydweithio gydag Aled a Dafydd o Cowbois Rhos Botwnnog yn arbennig o braf ac rwy’n sicr y bydd y gynulleidfa yn y Pafiliwn a’r rheiny adref yn mwynhau’r perfformiad. 

“Bu hefyd yn werthfawr cydweithio gyda Siwan Llynor a gweld ei syniadau hi’n cael eu gwireddu a’r gerddoriaeth - a’r geiriau, gobeithio - yn ei hysbrydoli.  Er mai fel geiriau i ganeuon y crëwyd y gwaith, rwy’n gobeithio eu bod hefyd yn gerddi, ac y bydd pobl yn cael cyfle i’w darllen yn y dyfodol, a gweld ein hymateb ni, ganrif yn ddiweddarach, i’r Rhyfel.”

Yn ei hanfod, mae’r noson yn gyfle i gofio, i adlewyrchu ar ddigwyddiadau canrif yn ôl, ac i feddwl am effaith y Rhyfel ar ein bywydau ni gan mlynedd yn ddiweddarach.  Ac yng nghanol cyfanwaith Aled, Dafydd a Guto, bydd cyfle i wneud hyn a chamu’n ôl, gyda Requiem arbennig sydd wedi’i chyfansoddi’n unswydd ar gyfer y noson gan y cyfansoddwr arobryn sydd â’i wreiddiau yng Nghymru, Paul Mealor, a’r bardd, Grahame Davies.

Roedd cael bod yn rhan o brosiect sydd wedi’i ysbrydoli gan hanes Hedd Wyn yn apelio at Paul Mealor yn syth, a dywedodd, “Mae hanes Hedd Wyn yn adnabyddus i unrhyw un sydd wedi’i fagu yng Nghymru, ac mae’n anrhydedd mawr i gael bod yn rhan o’r gwaith hwn sy’n ei goffau drwy gerddoriaeth. 

“Bwriad y gwaith hwn, gyda geiriau gwreiddiol a dirdynnol Grahame Davies, yw cynnig ambell funud o heddwch a myfyrdod ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, i goffau’r dyn, ei hanes a’i farddoniaeth.”

Mae gan deulu’r bardd Grahame Davies gysylltiad agos gyda’r Rhyfel Mawr, gan i’w daid, John William Davies, ymladd yn y Ffiwsilwyr Cymreig yn ystod y cyfnod, ac meddai, “Mae hanes Hedd Wyn yn rhan annatod o'n profiad fel Cymry, yn un o storïau mwyaf dirdynnol y Rhyfel Byd Cyntaf fel y cyfryw, ac yn symbol o golli cenhedlaeth o fechgyn ifanc.  Braint fawr oedd ceisio canfod geiriau newydd i adlewyrchu'r profiad o golled ac i gydweithio eto gyda chyfansoddwr mor hynod dalentog â Paul Mealor."

“Mae’r Requiem wyth munud yn gyfle i’r gynulleidfa fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd,” yn ôl Mari Lloyd Pritchard.  Mae’n waith corawl bendigedig, sy’n gyfle i gofio’r golled a’r effaith a gafwyd ar bob elfen o’n cymdeithas.  Mae cael canu gwaith corawl gan Paul Mealor a Grahame Davies wedi bod yn fraint eithriadol i Gôr yr Eisteddfod. 

“Nid yn aml mae côr yn cael cyfle i ganu premiere un o gyfansoddwyr corawl pwysicaf ein cyfnod, ac rydym i gyd yn ymwybodol iawn ein bod ni’n mynd i fod yn perfformio cyfanwaith arbennig iawn i agor yr Eisteddfod eleni.  A gwn fy mod i a Catrin Angharad Jones wedi cael pleser wrth ymarfer gwaith Paul a Grahame yn ogystal ag Aled, Dafydd a Guto, gyda’r côr dros y misoedd diwethaf ac yn edrych ymlaen at rannu’r gweithiau gyda Chymru gyfan ar ddechrau’r Eisteddfod ym Môn.”

Yn ogystal â chôr o bron i 250 o leisiau, bydd amryw o unawdwyr hefyd yn perfformio ar y noson, sef Osian Huw Williams, Casi Wyn, Emyr Gibson a Lleuwen Steffan, a hyn oll i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, dan arweiniad John Quirk, sydd wedi trefnu’r gerddoriaeth ar gyfer y Gerddorfa. 

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Cyngor Ynys Môn, Cyngor Celfyddydau Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae ychydig o docynnau ar ôl ar gyfer y perfformiad.  Gellir archebu’r rhain drwy wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau ar 0845 4090 800.