Trigolion Ceredigion i'w Hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Môn

4 Mai 2017

Heddiw (4 Mai), cyhoeddir enwau'r rheiny o Geredigion a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Ynys Môn eleni, fore Llun 7 Awst a fore Gwener 11 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd. 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

 

Y Wisg Las

Gwynfryn Evans

Mae Gwynfryn Evans, Rhydypennau, yn arweinydd cymdeithasol ac yn uchel ei barch ym mhob cylch, gan fod yn hynod weithgar yn ei gymuned a’i gapel.  Bu’n gweithio yn y sector llaeth drwy gydol ei yrfa, gan gychwyn yn Llangefni a Maldwyn cyn dod yn rheolwr Ffatri Laeth Felin-fach ac yna’n rheolwr De Cymru a Chanolbarth Lloegr i’r Bwrdd Marchnata Llaeth.  Mae’n ymwneud yn wirfoddol gyda llu o wahanol sefydliadau lleol a chenedlaethol, ac yn Gadeirydd Bwrdd Golwg 360 ar hyn o bryd.

Huw Ceiriog Jones

Un a roddodd oes o wasanaeth i Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yw Huw Ceiriog Jones, Llandre, Rhydypennau.  Ar hyn o bryd, mae’n Dderwydd Gweinyddol yr Eisteddfod, ac mae hefyd wrthi’n brysur yn cofnodi hanes Eisteddfod Powys o’i dyddiau cynnar hyd heddiw.  Gyda chefndir oes o weithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dyma ddyn sy’n fwy na chymwys i ymgymryd ag unrhyw brosiect ymchwil.  Mae hefyd yn berchen ar wasg fach hynafol, ac argraffodd ‘Y Gwir Degwch’, casgliad o gywyddau serch Iolo Morganwg, cyfrol a olygwyd gan Tegwyn Jones.  Mae’n Gyn-lywydd Cymdeithas Carafanwyr Cymru ac yn gyn-olygydd eu cylchgrawn, ‘Y Nomad’.

 

Y Wisg Werdd

Richard ac Wyn Jones

Mae Richard ac Wyn Jones, Aberteifi, yn adnabyddus fel sylfaenwyr label annibynnol Fflach, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r sîn gerddorol Gymraeg ers degawdau erbyn hyn.  Gyda’r sîn yn datblygu, sefydlwyd is-labeli er mwyn canolbwyntio ar gynnwys mwy arbenigol, Rasp, yn gyfrwng i annog a chyhoeddi artistiaid newydd arbrofol a Fflach:tradd yn adlewyrchu deunydd gan gorau, bandiau pres yn ogystal ag artistiaid gwerin.  Mae ganddynt stiwdio recordio bwrpasol yn Aberteifi, sy’n cyfrannu at economi, diwylliant ac achosion da yn eu cymuned a thu hwnt.  Yn aelodau o’r band ‘Ail Symudiad’ eu hunain, mae’r brodyr hefyd yn gerddorion llwyddiannus a phoblogaidd, gyda’u caneuon yn parhau i gael eu clywed ar y radio’n rheolaidd. 

Mari Rhian Owen

Actores, awdures ac addysgwraig yw Mari Rhian Owen, Aberystwyth, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym myd y theatr broffesiynol.  Mae ganddi arbenigedd ym maes theatr ysgolion a theatr gymunedol, ac yn gweithio i Gwmni Theatr Arad Goch fel Actores Rheoli, sy’n arwain gweithdai drwy ddrama.  Mae’n arwain cyrsiau ysgrifennu creadigol i fyfyrwyr israddedig a dysgwyr mewn ysgolion, ynghyd â chynnal cyrsiau hyfforddi penodol i athrawon.  Mae’n diwtor cwrs TAR Drama Uwchradd ym Mhrifysgol Aberystwyth ers deng mlynedd.  Yn ogystal, bu’n gyfrifol am ddyfeisio a hwyluso gweithgareddau iaith trwy ddrama ers pymtheng mlynedd yng Ngheredigion a Phowys.

Jeremy Turner

Mae Jeremy Turner, Aberystwyth, yn fwyaf adnabyddus fel Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Arad Goch, gyda thros 20,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn mwynhau perfformiadau’r cwmni’n flynyddol ym mhob rhan o Gymru.  Yn ogystal â hyn, mae’n ddarlithydd gwadd mewn prifysgolion yng Nghymru, a’i arbenigedd ym maes y theatr wedi’i gydnabod ar lefel ryngwladol, gyda chyfleoedd i ddarlithio a chyflwyno mewn seminarau dros y byd yn flynyddol.  Mae’i waith wedi’i berfformio mewn gwledydd ym mhob rhan o’r byd dros y blynyddoedd.  Mae hefyd yn gyflenwr hyfforddiant proffesiynol ar gyfer awdurdodau addysg a mudiadau cenedlaethol.