Trigolion Powys i dderbyn anrhydedd gan yr Orsedd yn Eisteddfod Ynys Môn

4 Mai 2017

Heddiw (4 Mai), cyhoeddir enwau'r rheiny o Bowys, neu sy’n amlwg yn yr ardal, a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Ynys Môn eleni, fore Llun 7 Awst a fore Gwener 11 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd. 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

Y Wisg Las

David Ellis

Mae David Ellis, Y Dref Wen, Sir Amwythig, yn rhan allweddol o fywyd Cymraeg yr ardal.  Ef yw Llywydd Clwb Cymraeg Croesoswallt, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod ar bwyllgorau Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, gan weithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn 2016.  Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd Eisteddfod Powys ers blynyddoedd, ac mae’n cyflawni swydd banerwr.  Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Apêl Croesoswallt, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015.  Yn ddi-os, mae’n un o gefnogwyr mwyaf brwd y Gymraeg a’n diwylliant yn yr ardal.

Helena Jones

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cofio un o sêr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau'r llynedd, Helena Jones, Aberhonddu, a oedd fisoedd yn unig yn fyr o’i phen blwydd yn gant oed, pan fu’n cystadlu ar lwyfan y Pafiliwn.  Cafodd ymateb gwresog bryd hynny, ac yn sicr bydd y gymuned leol yn ymfalchïo yn yr anrhydedd hwn hefyd, gan iddi fod yn ymroddedig a hynod weithgar yn ei hardal leol am flynyddoedd lawer.  Dysgodd Gymraeg yn eithaf hwyr yn ei hoes, ac mae wedi ymroi’n gyfan gwbl i gefnogi’r iaith a’r Eisteddfod.  Mae’n fardd a llenor dawnus, a dengys y gwobrau niferus mae wedi’u hennill hynny’n glir.  Mae wedi gweithio’n ddiflino dros nifer fawr o elusennau a sefydliadau dros y blynyddoedd gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, Tenovus ac Ambiwlans Sant Ioan.

Huw Ceiriog Jones

Un a roddodd oes o wasanaeth i Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yw Huw Ceiriog Jones, Llandre, Rhydypennau.  Ar hyn o bryd, mae’n Dderwydd Gweinyddol yr Eisteddfod, ac mae hefyd wrthi’n brysur yn cofnodi hanes Eisteddfod Powys o’i dyddiau cynnar hyd heddiw.  Gyda chefndir oes o weithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dyma ddyn sy’n fwy na chymwys i ymgymryd ag unrhyw brosiect ymchwil.  Mae hefyd yn berchen ar wasg fach hynafol, ac argraffodd ‘Y Gwir Degwch’, casgliad o gywyddau serch Iolo Morganwg, cyfrol a olygwyd gan Tegwyn Jones.  Mae’n Gyn-lywydd Cymdeithas Carafanwyr Cymru ac yn gyn-olygydd eu cylchgrawn, ‘Y Nomad’.

 

Y Wisg Werdd

Ieuan Jones

Yn wreiddiol o Feifod, mae’r telynor amlwg, Ieuan Jones, Llundain, yn enw adnabyddus mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, gyda chynulleidfaoedd yn Sbaen yn ei adnabod fel ‘Esplendoroso Jones’ oherwydd ei ddawn arbennig.  Yn Athro Telyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac yn aelod rheolaidd o banelau cystadlaethau rhyngwladol ym mhob rhan o’r byd, mae’n llysgennad ardderchog i Gymru.  Mae wedi glynu’n dynn wrth ei wreiddiau gan ddychwelyd i fro ei febyd yn rheolaidd i hyfforddi a chefnogi ieuenctid yr ardal.