Trigolion y de orllewin i'w Hurddo gan yr Orsedd yn Eisteddfod Ynys Môn

4 Mai 2017

Heddiw (4 Mai), cyhoeddir enwau'r rheiny o’r de orllewin a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Ynys Môn eleni, fore Llun 7 Awst a fore Gwener 11 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd. 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

 

Y Wisg Las

Tony Davies

Er bod ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Sir Benfro, De Affrica yw cartref Tony Davies ers blynyddoedd bellach.  Bu’n Llywydd y ‘Welsh Cambrian Society’ ac mae’n Gadeirydd y Gymdeithas Gymraeg yn Ne Affrica ers deng mlynedd ar hugain.  Ef yw Cadeirydd Côr Cymry De Affrica ers ugain mlynedd, ac mae ganddo gysylltiadau lu gyda chymdeithasau Cymraeg ar draws y byd.  Bu’n Arweinydd Cymru a’r Byd yn Eisteddfod Casnewydd, 2004, ac mae wedi dychwelyd i Gymru er mwyn ymweld â phob Eisteddfod ers deng mlynedd ar hugain.

Lisa Lewis Jones

Mae Lisa Lewis Jones, Brynaman, wedi bod yn weithgar yn lleol ar hyd y blynyddoedd.  Bu’n aelod ffyddlon o Gymdeithas Ddrama’r Gwter Fawr, cymdeithas sydd wedi cefnogi’r Eisteddfod ers blynyddol drwy gystadlu yn y cystadlaethau actio drama.  Mae wedi bod yn diddanu cymdeithasau lleol drwy gyflwyniadau, adrodd ac actio.  Mae bob amser yn barod i gefnogi elusennau gan godi arian i Gymorth Cristnogol a chymryd rhan mewn teithiau cerdded i godi arian i’r RNIB.  Mae hefyd wedi cydweithio gydag elusennau i godi ymwybyddiaeth trafferthion byd gwaith.  Hi oedd Mam y Fro yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 2006.

Siân Merlys

Mae Siân Merlys, Pontiets, Llanelli, wedi cyfrannu llawer iawn i fyd Cymraeg i Oedolion ers blynyddoedd, gan drefnu a hyrwyddo cyrsiau dysgu Cymraeg yn ardal Sir Gâr.  Mae’n aelod o Banel Canolog Dysgwyr yr Eisteddfod, a bu’n Gadeirydd am nifer o flynyddoedd, gan arwain y gwaith a’r agenda dysgu Cymraeg o fewn yr Eisteddfod yn ddyheuig.  Hi hefyd fu’n gyfrifol am ofalu am enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn ystod yr oriau hollbwysig ar ôl iddynt ennill y wobr, gan eu cynghori a’u helpu a’u paratoi i fynd ar lwyfan y Pafiliwn.  Mae llawer enillydd wedi cael budd o’i chyngor dros y blynyddoedd ar Faes yr Eisteddfod.

Jean Parri-Roberts

Efallai mai fel cyn-bostfeistres Tegryn, Crymych a HendyGwyn-ar-Daf mae Jean Parri-Roberts, HendyGwyn-ar-Daf, yn fwyaf adnabyddus, gan iddi hi roi 55 mlynedd o wasanaeth i’r gymuned leol yn gosod ei stamp drwy’i chyfraniad diymhongar gan drin pawb â pharch a gofal.  Ond, mae’i chyfraniad i’r iaith, diwylliant a’i milltir sgwâr yn llawer ehangach na hyn.  Yn Ynad Heddwch am 30 mlynedd yn Sir Gaerfyrddin, bu hefyd yn drefnydd a thrysorydd pwyllgor Pryd ar Glud HendyGwyn-ar-Daf am flynyddoedd, gan sicrhau gofal a chymorth i bobl mewn angen.  Mae’n flaenllaw yng Nghapel y Bedyddwyr Nazareth, ac yn aelod ffyddlon a diwyd o Ferched y Wawr, ac wedi gweithredu fel Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd ei changen, ynghyd â thrysorydd Rhanbarth Caerfyrddin.

Wyn Thomas

Mae Caerfyrddin yn ddyledus iawn i Wyn Thomas, am ei ymroddiad i’r Gymraeg a byd busnes yn y dref dros y blynyddoedd. Mentrodd yn ifanc drwy agor Siop y Pentan, siop a ddaeth yn Ganolfan Gymraeg i’r dref, gan werthu llyfrau, recordiau, cardiau, posteri, tocynnau – popeth a oedd yn ymwneud gyda’r iaith yn lleol a chenedlaethol.  Bu hyn yn hollbwysig i fywyd diwylliannol Cymraeg y dref am gyfnod o bron i hanner canrif.  Roedd Wyn a Siop y Pentan hefyd yn ganolog i lwyddiant y papur bro lleol, Cwlwm, gan mai’r siop fyddai’n derbyn a chasglu’r newyddion cymunedol yn rheolaidd.  Mae hefyd wedi gweithredu fel Maer Tref Caerfyrddin, gyda’i Gymreictod ar y Cyngor ac fel Maer yn gosod statws i’r iaith bob amser yn ei gymuned.

 

Y Wisg Werdd

Elonwy Davies

Mae cyfraniad Elonwy Davies, Llanybydder, i ddiwylliant a Chymreictod ei hardal yn amhrisiadwy.  Mae’n gweithio’n ddygn gyda CFFI a’r Urdd yn lleol a sirol, a phob amser yn fwy na pharod i gyfeilio a hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu mewn eisteddfodau a chystadlaethau lu, gan gredu bod trosglwyddo’i doniau cerddorol i’r genhedlaeth nesaf yn bwysig tu hwnt.  Mae’n un o hoelion wyth Capel Rhyd y Bont, Llanybydder, yn ddiacon, ysgrifennydd, athrawes Ysgol Sul a’r organydd.  Mae’n gysylltiedig gyda Chôr Meibion Cwmann a’r Cylch ers blynyddoedd, ac yn arweinydd Lleisiau’r Werin ers pymtheng mlynedd, dau gôr sy’n perfformio’n rheolaidd ar Lwyfan Maes yr Eisteddfod. 

Richard ac Wyn Jones

Mae Richard ac Wyn Jones, Aberteifi, yn adnabyddus fel sylfaenwyr label annibynnol Fflach, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r sîn gerddorol Gymraeg ers degawdau erbyn hyn.  Gyda’r sîn yn datblygu, sefydlwyd is-labeli er mwyn canolbwyntio ar gynnwys mwy arbenigol, Rasp, yn gyfrwng i annog a chyhoeddi artistiaid newydd arbrofol a Fflach:tradd yn adlewyrchu deunydd gan gorau, bandiau pres yn ogystal ag artistiaid gwerin.  Mae ganddynt stiwdio recordio bwrpasol yn Aberteifi, sy’n cyfrannu at economi, diwylliant ac achosion da yn eu cymuned a thu hwnt.  Yn aelodau o’r band ‘Ail Symudiad’ eu hunain, mae’r brodyr hefyd yn gerddorion llwyddiannus a phoblogaidd, gyda’u caneuon yn parhau i gael eu clywed ar y radio’n rheolaidd.