Bwyd a Diod ar y Maes

Mae pob math o fwydydd blasus ar y Maes eleni.

Beth fyddwch chi'n ei fwyta'n ystod wythnos yr Eisteddfod?  Mae digonedd o ddewis!  O fwyd y dwyrain pell i fwyd cartref Cymreig, ac o bryd bwyd arbennig yn ein bwyty trwyddedig i lond plat o sglodion, cewch rywbeth i'ch plesio chi a'ch poced ym Modedern eleni.

Y Pentref Bwyd

Noddir y Pentref gan Castell Howell

Lleolir y Pentref Bwyd wrth ymyl Llwyfan y Maes, ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o arlwywyr a bwydydd o bob math.

Math o fwydEnw'r cwmni / gwefan
Pizza Ffwrn GoedAmber's Wood Fired Kitchen
Bwyd IndiaiddExpress Indian Cuisine
Bwyd MecsicanaiddEl Salsa
CrempogThe Welsh Creperie Co.
Sgod a SglodLighthouse Fish & Chips
Llysieuol a FeganNo Bones Jones
Paella a TapasSpanish Buffet
Cig EidionArlwyo Nant
Cig OenArlwyo Nant
Barbeciw GroegaiddMeat & Greek
Porc RhostHogi Hogi Hogi
Baguettes, powlenni salad a thatws pôbCrasyr Gader
Syched a Bar y MaesY Brodyr Stedman

 

O gwmpas y Maes...

Mae rhagor o ddewis o ddanteithion a diodydd ar gael wrth i chi grwydro'r Maes.

Math o fwydEnw'r cwmni / gwefan
Rhaeadr SiocledY Forwyn Siocled
Hufen IaMôn ar Lwy
YsgytlaethCalon Wen
WafflA Lot of Waffle
Pethau Da / LosinY Brodyr Stedman
Tango SlushY Brodyr Stedman
Brownies SiocledChock Shop
CoffiStreamline Leisure

 

Bwyty Trwyddedig

Dewch i Fwyty Platiad am gyfle i ymlacio a mwynhau pryd o fwyd o safon arbennig iawn.  Gyda thapas, carferi, prydau poeth, cacennau, pizzas a mwy, mae gwledd yn eich haros yn ein bwyty cyfforddus ar y Maes.  Cewch fwynhau glasiad o win a gwylio'r byd yn mynd heibio yn awyrgylch hyfryd  Platiad.   Rhagor o wybodaeth yma.

 

Maes B

Bydd pizzas, byrgyrs , cwn poeth, sglodion, brecwast a choffi ar gael ym Maes B, o 5-13 Awst.  Manylion yma.