Gorsedd y Beirdd

I lawer, mae seremonïau lliwgar yr Orsedd yn ran annatod o ŵyl yr Eisteddfod, ond mewn gwirionedd, mae’r Orsedd a’r Eisteddfod yn ddau sefydliad ar wahân, gyda’u gweithdrefnau eu hunain.  Dim ond blas o’r hyn a wneir gan yr Orsedd a geir yma, ac mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefan www.gorsedd.cymru.

Mae hanes hir a diddorol i Orsedd Beirdd Ynys Prydain, sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Efallai y bydd yn syndod i rai nad yng Nghymru y crëwyd Gorsedd y Beirdd ond yn hytrach yn Llundain, a hynny ar Fryn Briallu yng ngogledd orllewin Llundain ym Mehefin 1792.  Syniad Iolo Morganwg, ysgolhaig a ddaeth yn wreiddiol o Lancarfan, Morgannwg, oedd yr Orsedd, gan ei fod yn credu bod angen pwysleisio’r ffaith bod diwylliant a threftadaeth y Celtiaid yn perthyn i’r Cymry ac y byddai creu Gorsedd yn ffordd ardderchog o adlewyrchu hynny.

Cafwyd y cysylltiad cyntaf rhwng yr Eisteddfod a’r Orsedd yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819, pan gynhaliodd Iolo Morganwg seremoni yng ngerddi Gwesty’r Llwyn Iorwg.  Tynnodd swp o gerrig mân o’i boced a’u gosod mewn cylch, a chynhaliwyd y seremoni orseddol o fewn y cylch hwn. 

Dyma oedd cychwyn y cysylltiad agos a gwerthfawr rhwng yr Eisteddfod a’r Orsedd, cysylltiad sydd wedi parhau ers sefydlu’r Eisteddfod ar ei ffurf bresennol yn 1861.