Sinemaes

Mae Sinemaes yn cynnig gweithgareddau cysylltiedig â ffilm, dangosiadau, dangosiadau cyntaf a dosbarthiadau meistr drwy'r wythnos.

Cydlynir Sinemaes gan BAFTA Cymru gyda’r partneriaid canlynol: 

Into Film Cymru, RTS Cymru, Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru, Canolfan Ffilm Cymru, Chapter, BBC Cymru Wales, BFI NET.WORK, Gorilla ac S4C.  Darperir cynnwys ychwanegol gan It’s My Shout, Gŵyl Ffilm PICS, Coleg Cenedlaethol Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd 
 
gyda chefnogaeth yr Eisteddfod
 
Lleolir Sinemaes ar dir drws nesaf i'r Senedd.  Mae’r gweithgareddau i gyd yn rhad ac am ddim oni nodir yn wahanol yn y rhaglen weithgareddau.