Y môr o Uwchmynydd

CILFACHAU

Guto Dafydd

Lluniau gan Carys Huws

Carreg Llam

Llwybr Arfordir Llŷn

Ar bnawn pan nad oes dim i’w wneud,
pan mae rhai’n honni — er mwyn yr heip —
nad oes gen ti a dy deip
ddim byd i’w ddweud,

mewn bro sy’n bell allan o ffasiwn,
a gwynt o bob cyfeiriad yn brathu,
pan mae cymathu’n
anochel, ac yn dipyn o demtasiwn,

pan mae’r boncyrs a’r byddar yn bigitan â’r dall
a neb yn y wlad yn siarad sens,
mae’n bryd camu dros ffens
a rhoi un droed o flaen y llall.

Ar bnawn oer, od, pan mae’r lleuad
yn wyn yn yr awyr olau, laith
mae dechrau’r daith
ar ben draw lôn ben-gaead.

Ynys Gachu, Trefor

Mae’r garreg hon
yn edrych yn wyn o bell,
fel petai’n eithriad balch o farmor,
yn sgleinio gyferbyn â’r clogwyn llwyd.

Heidia’r adar yn ôl ati o’r môr,
i fwydo’u cywion, i grawcian,
ac i stompian yn warchodol
o gwmpas eu cartref gloyw
heb sylweddoli

mai’r cwbl sy’n gwneud y garreg yn wyn
yw eu baw eu hunain.

Carreg Llam

Mae’r gerdd hon yn cyfeirio at hunanladdiad. Cofiwch fod cymorth ar gael gan y Samariaid.

Cyn i’r deyrnas syrthio,
cyn y neidio,
cyn i’r ysfa i beidio â byw
ddechrau cydio,
beth oedd y graig?

Cyn i’r goron lithro,
cyn i ddyn fynd yno
am nad oedd nunlle arall ar ôl,
cyn i’r siâp apelio
at ŵr a oedd eisiau tranc
cyflym, terfynol,
gwefreiddiol,
oedd ganddi enw arall?

Cyn i’r cwymp serth, syth edrych
fel petai’n datrys pob dim,
cyn i’r sgrechian atsain yn y nant,
cyn i’r benglog ffrwydro,
cyn i’r perfedd rwygo,
wnaeth rhywun feddwl ei bod hi’n hardd?

Tu mewn Eglwys Beuno, Pistyll

Eglwys Beuno, Pistyll

Am mai’n anaml y bydd pererinion
yn dewis dilyn y llwybr union,

am fod troedio’r tywyrch rhwng y garn a’r genlli’n
bwysicach o lawer na chyrraedd Enlli,

am fod ywen a llawryf a gwenith a grug
mor sanctaidd ag adnod ac emyn cryg,

am y bydd rhywbeth yn para wedi i’r tir erydu
ac ar ôl i’r giatiau orffen rhydu,

am nad oes gwahaniaeth rhwng ffydd a hunan-dwyll
wrth frysio ’mlaen er mwyn ennill pwyll,

am fod Twix a Fanta yn y gangell gul
yn gwella’r enaid fel cymun y Sul,

er bod pawb yn gwybod nad yw Duw’n bodoli
mae hyn yn teimlo fel addoli.

Tu allan Eglwys Beuno, Pistyll
Olion traed ar draeth Porthor

Porthor

Mae symud yn llonydd: gadael tŷ a theulu a thasgau,
mynd o’r gegin lle mae sgrechian
yn sgramblo pob synnwyr, a ffeirio’r swyddfa
am unigrwydd llwybr.

Ond dydy llonydd ddim yn bod: wrth gamu i lawr
dyma glywed Nain yn sôn, ers talwm,
am y traeth yr oedd ei dywod,
drwy hudoliaeth, yn canu.

Mae’n job trio gwneud y chwedl yn wir:
pwyso ar sawdl; arafu; cyflymu; llusgo traed —
trio bob sut, a’r tywod naill ai’n fud
neu’r gwichian (honedig) ar goll yn y gwynt.

Wedyn, ar ôl anghofio am y sôn am sŵn,
ac ailddechrau cerdded yn gyffredin,
dyma fo: griddfan y gronynnau’n
troi’n chwiban sydd mor glir
ag addewid Nain.

Gyda’r gwichian, dyma hiraeth
am dwrw tŷ a theulu:
y mwydro sy’n troi’n draddodiadau,
y celwydd sy’n troi’n chwedlau yn y cof.

Creigiau Porthor
Cerddwyr ym Mhorthor
Clogwyni o draeth Porthor
Ynys Enlli o Uwchmynydd

Uwchmynydd

Annwyl haneswyr fory,
   Nid yn sgil
dyletswydd i gofnodi diwedd hil
dwi’n sgwennu hyn i gyd;
dydy o’n ddim ond sbîl
un sy’n sbio’n chwil
i lawr clogwyn
ym mhen
draw’r
byd.

Ynys Enlli
Y môr o Borth Meudwy
Tywod, cerrig a gwymon

Porth Meudwy

Roedd, unwaith, ddyn
a oedd am blannu gwinllan yn Llŷn.
Nid da ganddo fewnforio.
Roedd ganddo lethr a wynebai’r de,
ac awydd yn ei galon
i wneud pethau drosto’i hun.
Doedd blas poteli tramor ddim yn plesio:
llyncu balchder oedd llowcio
gwydreidiau o wledydd pell. Onid gwell
plannu’n annibynnol,
meithrin ein grawnwin ni ein hunain,
eu gwasgu gartref, ac eplesu’r sudd
yn win cynhenid?

Gosododd ei ddôl â gofal gŵr
a ddarllenodd lyfrau am y pwnc —
rhoi ffensys a gwifrau i gynnal canghennau
cyn plannu’r prennau
mewn pridd nad oedd isio gwybod,
i dderbyn haul gwan, anfynych,
a hyrddiadau hallt awel y môr.

Gwnaeth hyn oll — treulio pnawniau hir
yn tocio â bysedd cochion, cyn gweld
y gwinwydd yn cynhyrchu siomiau sur —
er bod Albariño a Tokaji a Sauvignon
a Liebfraumilch a Chateauneuf du Pape
i gyd dan ddecpunt yn Lidl.

Cwch ym Mhorth Meudwy

Tŷ yn Rhiw

Mae bron yn braf,
jest iawn yn rhyddhad,
gweld tŷ rhywun sy’n goncwerwr,
heb g’wilydd nac amheuaeth.

Plannodd faner San Siôr
yng ngolwg y môr — dyn sarrug
â locsyn crîp, a bathodyn pabi ar ei het;
yn ffenest ei jîp mae sticer
fflag y Confederate.

Dyn yw hwn y mae’n rhwydd
gludo arno label
yn dweud ‘GELYN’.

Dydy hi ddim mor hawdd â hyn, bob amser:
ti’n gwybod yn iawn fod ’na oresgyniad
ond sgen ti’m syniad, wastad,
lle’n union mae o.
Mae’r mewnlifiad yn cuddiad
mewn pobl neis sy’n bywiogi bwytai
ac yn ailgodi toeau.

Weithiau, mae’r darfod mor llechwraidd
â Custard Creams, Malted Milk a Nice
yn meddalu mewn tuniau bisgets
yn nhai neiniau achos nad oes neb
yn galw ryw lawer, bellach.

Ffenest siop gwerthwr tai
Traeth Porth Neigwl

Cytiau rhyfel, Porth Neigwl

Mae’n od eu gweld nhw yma,
mewn gwyrddni sydd heb newid
ers milenia: waliau a tho a godwyd
at bwrpas militaraidd nad oes neb, y dyddiau hyn,
yn siŵr ohono. Go brin fod pobl ffordd hyn
yn gwybod ar y pryd i be roedden nhw’n da.
Rŵan, a’u diben ar ben,
maen nhw’n gwrthod pydru.

Mae’n od eu gweld nhw yma,
mor bell o ganol pethau: ni yw’r hem
sy’n raflo ar lawes iwnifform y wlad.
Bro yw hon yr oedd hanes yn digwydd iddi,
a hithau’n brysur â’i harferion a’i chwedlau.

Ond dyma goncrid cyfnod
pan na wnaeth hanes ein hesgusodi:
rasiwns, faciwîs, a phawb yn gorfod
cau eu llenni rhag denu boms.
Hyd yn oed wedyn, go brin i bobl ffordd hyn
newid rhyw lawer ar eu ffordd.

A’r nos yn dew o Dorniers a Heinkels
anweledig, yn cael eu herlid gan beiriannau
poeri tân, gwyddent mai breuddwyd ffŵl
oedd perchnogi’r awyr: gwyddent mai gwell
oedd caru cerrig eu cartrefi, trin y tir
dan eu traed.

Abersoch

Mae gen i ffrind sy, ar bnawniau segur,
yn mynd i faes parcio Travelodge Port
i weld pwy ddaw allan drwy’r drws pan egyr,
a’u hwynebau’n fflysh ar ôl awran o sbort,
gan chwarae â’u gwallt a rhoi cip dros eu gwarrau.
Ni lenwir fy ffrind â barn na chenfigen —
dim ond twtsh o chwilfrydedd i weld pwy yw’r parau
a logodd stafell dros dro, er mwyn ei throi’n swigen
o chwant am ddim byd heblaw cyrff ei gilydd:
gwlypter a griddfan, blowjobs a blys —
oedi’r rwtîn ddigalon i gael noethni dig’wilydd,
oferedd heb fory, chwarae a chwys;
ffeirio cega, cwyno, ac atebion siort
am bnawn o bleser yn Travelodge Port.

Ro’n i’n arfer meddwl bod Abersoch
yn syniad da. Mae ’na sens mewn geto —
troi cornel o’r winllan yn dwlc twt i’r moch
(a defnyddio trosiad di-chwaeth). Ond dwi’n meddwl eto
wrth i’r prisiau godi ac i’r ardal wagio:
fydd y storm ddim yn stopio cyn pasio trwyn Cilan
ac os wyt ti’n llogi stafell i shagio
fydd yr ogla’n dy ddilyn fel yr awel fila’n.

Mae’n aeaf yma rŵan — gwag ac oer,
a dim ond un neu ddau sy’n llyfu hufen iâ.
Wrth blygu dros faw ci, mae dyn yn llyncu’i boer
gan weld mor hyll yw pentre hardd yr ha’,
fel petai’n ŵr mewn stafell gwesty rad
yn sylwi nad yw’r cyffro werth y brad.

Abersoch
Porth Neigwl

Castellmarch

‘Mae clustiau march gan March ap Meirchion.’
Pwy fu’n bregliach wrth y brwyn? Diolch, mêt,
am ddweud y blincin amlwg. Pam arall
fyddai o’n torri ei wallt fel hyn?
Doedd yr enw ddim yn gliw?

Roedden ni’n gwybod. Ac yntau’n gwybod
ein bod ni’n gwybod. A phawb
yn ddigon bodlon dweud dim byd.

Rŵan, rhaid ffugio syndod
a chuddio embaras, a cheisio
peidio â sbio ar ochrau ei ben.

Pan mae’r prognosis
mor amlwg â gwaed mewn piso,
calla dawo.

Pan fyddai’r gwir
yn suro swper,
taweler.

Pan nad oes gwahaniaeth
y gall neb ei wneud,
paid â dweud.

Porth Neigwl
Cerflun dyn haearn

Y dyn haearn, Mynydd Tir Cwmwd

Ydw i’n ynfyd
yn ceisio dyfalu pa iaith sydd ar wefusau
delw sydd heb dafod na gwefus na glotis
nac ysgyfaint nac ymennydd
na dim byd arall sy’n help i siarad?

Efallai nad yw’n ddim ond gwifrau metal
mewn plinth concrid, a finnau’n
wallgo’n hidio am ei hil.

Efallai nad ydw innau’n ddim ond genynnau
mewn gwisg o gelloedd, yn bod
er mwyn gadael i god amlhau,
a lleferydd yn ddim ond cyfleustra.

Efallai fod modd sefyll
yn ddi-iaith, niwtral ar y pentir hwn
wrth sbio’n stond o’r Eifl at Bwllheli,
ond fedra i ddim.

Llanbedrog

Whitehall

Bob tro dwi’n dod yma am gig a llysiau
a sbeisys a chaws a saim a chwrw,
dwi’n Googlo atgof o adnod:
‘Bwytewch a byddwch lawen
canys yfory byddwch farw.’
A dwi’n methu â’i ffendio.
Nid yw yn y Beibl.

Dwi’n falch o hynny, achos
beth os mai drwy droedio’r tir hallt
o draeth i draeth, a straeon y lle’n
torri’n drochion wrth fynd, beth os mai
drwy chwysu a chwerthin a chofio
â phen-gliniau’n brifo’n braf,
beth os mai drwy erlid y gorwel
yr holl ffordd adre, gan alw
mewn tafarn wen ar waelod y stryd,
a bwyta
a bod lawen
y mae

byw?