Dathlwch ŵyl y gaeaf ac ymunwch â’r 2Dathon - ein cystadleuaeth ddarlunio ar-lein a chyfle i ennill bach o galennig. Bydd y gweithgaredd yn digwydd ble bynnag rydych chi’n digwydd bod a bydd modd i chi gymryd rhan drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Cynhelir y 2Dathon ar-lein ar ôl yr Adfent AmGen - rhwng Gŵyl San Steffan tan wythnos gyntaf y Flwyddyn Newydd. Yr her fydd ymateb o fewn 48 awr mewn dau ddimensiwn i bum thema wahanol. Mae gwobr o £50 ar gael i enillydd pob sialens, a £50 am y casgliad gorau o ddarluniau ar ddiwedd y gystadleuaeth.
Gwenllian Beynon (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) ac Aled Wyn Davies (Ysgol Bensaernïaeth Cymru) fydd yn gosod y themâu ac yn beirniadu’r darluniau.
Cyhoeddir y thema gyntaf ar gyfrifon Twitter ac Instagram Y Lle Celf am 19:00 ar noson Gŵyl San Steffan. Datgelir y nesaf am 19:00 ddeuddydd yn ddiweddarach … ac yn y blaen.
Wedi cwblhau’r darlun bydd gofyn i chi ei gyflwyno ar Twitter neu Instagram gan dagio @yllecelf a defnyddio’r hashnod #2D-athon cyn yr amser cau o 19:00 ddeuddydd wedi cyhoeddi’r thema.
Datgelir enwau’r enillwyr ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Y Lle Celf dridiau wedi cyhoeddi’r thema.
A chofiwch, yma mae ‘darlunio’ yn cael ei ystyried yn y modd eangaf posib.
Rheolau a Threfn Gystadlu’r 2D-athon
- Cyhoeddir pob thema am 19:00 ar Twitter ac Instagram @yllecelf.
- Bydd gennych 48 awr i gystadlu drwy dynnu darluniau yn ymateb i thema’r deuddydd hwnnw.
- Dewiswch UN DARLUN yn unig i’w gyflwyno yn ymateb i thema’r deuddydd.
- Cyflwynwch eich llun drwy gyfrif Twitter neu Instagram yn unig.
- Rhaid i gyfrifon preifat ganiatáu i gyfrif @yllecelf eu dilyn dros gyfnod y 2Dathon.
- Rhowch enw’r cystadleuydd yn y neges gyda’r darlun, ac oedran os mai plentyn sy’n cystadlu.
- Cyflwynwch y darlun cyn 19:00. Ni ystyrir cynigion sy’n cyrraedd yn hwyrach.
- Tagiwch @yllecelf a defnyddio’r hashnod #2Dathon.
- Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar Twitter ac Instagram.
- Bydd yr Eisteddfod yn dyfarnu gwobr o £50 i enillydd pob thema a’r set orau o ddarluniau ddiwedd y gystadleuaeth
- Bydd hawlfraint y darluniau yn aros gyda’r cystadleuydd ond bydd yr hawl gan yr Eisteddfod i’w defnyddio at ddibenion hyrwyddo.
[Diolch i Ystâd William Brown am ganiatâd i ddefnyddio delweddau’r artist o’r Fari Lwyd. Yn aml William Brown (1953-2008) oedd y cyntaf i gyflwyno cais i’w ystyried ar gyfer yr Arddangosfa Agored ac yn fynych rhoddwyd Rhif Cais 001 iddo. O dro i dro byddai ei waith yn cael ei ddethol hefyd]