Gyda'r gaeaf yn hir a chymaint ohonom ni'n gaeth i'r tŷ ers wythnosau lawer, beth am ymuno â ni ar Zoom bob pnawn Mawrth am sesiwn ganu a sgwrsio hwyliog ac ysgafn?
Mari Pritchard sy’n arwain sesiynau Cadw Cwmni AmGen am 13:30 pob dydd Mawrth. Y bwriad yw annog pobl o bob oed i ddod at ei gilydd am ychydig o ganu amser cinio i godi’r galon.
‘Does dim rhaid bod yn aelod o gôr nac yn ganwr profiadol, y bwriad yw cael sgwrs a chyfle i ganu a thipyn o hwyl gyda ffrindiau hen a newydd.
Mae'r sesiynau'n addas i ddysgwyr.
Sut i ymuno
Defnyddiwch y cod Zoom yma i ymuno gyda'r sesiwn bnawn Mawrth: https://us02web.zoom.us/j/85496605444
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar ddefnyddio Zoom.