Mae’r Goron ar goll ar faes y Brifwyl – ac mae cyfle i chi, aelodau’r cyhoedd, ddod ynghyd i groesholi actorion adnabyddus er mwyn datrys y dirgelwch ...
Sioe ryngweithiol Trio ac Antur y Goron yn steil Whodunnit, mewn partneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a gwasg Atebol, fydd y digwyddiad digidol cyntaf o’i fath yn y Gymraeg. Bydd cyfle i blant, teuluoedd ac oedolion ymuno â chymeriadau gwreiddiol a doniol i holi cwestiynau a chwilio am gliwiau i ddatrys dirgelwch Coron yr Eisteddfod dros blatfform Zoom – a hynny i gyd am ddim.
Mae’r sioe wedi’i hawduro gan Manon Steffan Ros ac yn serennu’r actorion Ffion Wyn Bowen, Iwan Charles, Mali Ann Rees ac Owain Llŷr Edwards.
Mae digwyddiad Trio ac Antur y Goron yn cael ei gynnal yn ystod Eisteddfod AmGen rhwng 2-4 Awst.