Ffilm fer gan Osian Evans - Artist a Cherddor, Hedydd Ioan - Artist ac Awdur
Disgrifiad: Cyfres o ddelweddau a darn o lenyddiaeth yn myfyrio ar ddiffinio a derbyn o fewn diwylliant.
Gwybodaeth a Chyd-destun: Wrth greu'r darn roeddem yn ymwybodol ein bod eisio defnyddio ein profiadau ni fel calon y cysyniad i geisio sicrhau ei fod yn ddarn gonest a personol. Er hyn roeddem hefyd eisiau ymchwilio i mewn i unigolion ac artistiaid sydd wedi dylanwadu ar hanes y gymuned LHDT yng Nghymru. Y tri pherson a ysbrydolodd ni fwyaf oedd Angus McBean, Henry Cyril Paget a Gwen John. Roedd celf McBean a John yn ein taro ni fel delweddau anhygoel o gryf ac fe geisiom gymryd y teimlad o’r delweddau hyn i’n lluniau ni. Roedd yna gwpwl o luniau o Paget a oedd yn ysbrydoliaeth fawr i’r darn ac yn dal ein neges yn berffaith.
Mae Mas ar y Maes yn bartneriaeth rhwng y gymuned LDHT+ yng Nghymru, Stonewall Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol
Delweddau