Araith Llywydd yr Wyl

10 Awst 2019

Y newyddiadurwr Dylan Jones oedd llywydd yr wyl yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.  Dyma'i araith:

Diolch yn fawr iawn….

Wel dyma fi di cael Llwyfan yn y Genedlaethol yr wythnos yma, am y tro cynta rioed yn fy hanes a'r tro ola mae'n siwr !

Braint ac anrhydedd mwya fy mywyd ydi cael sefyll yma heddiw fel Llywydd yr Wyl yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, rhyw ddwy filltir o le geshi magu ym mhentre Capel Garmon fyny ffordd acw.

Pan ffoniodd Elen Elis, trefnydd yr Eisteddfod yn gynharach eleni i ddeud wrthai mod i wedi cael fy ethol yn Llywydd yr Wyl, mi o'n i ar fin mynd i gysgu am rhyw awr ar ol cinio, gan mod i'n codi'n gynnar i gyflwyno'r Post Cyntaf ar Radio Cymru. Ond ar ol iddi ddeuthai'r fath beth, mi allwch chi fentro nes i ddim cysgu winc. Dylan Tyddyn Iolyn medda fi yn Llywydd y Brifwyl !! Do ni ddim yn coelio'r peth.

Mi nesh i feddwl i ddechrau pa mor falch fasa dad, mi oedd o wrth ei fodd hefo Steddfodau a chanu, yn aelod o Gor Bro Aled Llansannan ac yn nghorau'r Eisteddfod pan gafodd ei chynnal yma yn Llanrwst yn 1951, ei dad ei frodyr a'i chwaer yn canu yn y cor hwnnw, yna Steddfod 1989 a Steddfod Dinbych yn 2001.

Ac mae mam, sy'n methu bod yma heddiw, ond sy'n gwylio ar y teledu yng nghartre'r Borth Llanrwst yn reit falch hefyd medde nhw wrtha fi. Welai chi nes mlaen mam a'r gofalwyr yn y carte. Mi fyddai'n barod am baned erbyn hynny !!

A chydig feddyliaias pan gafodd y llywyddion anrhydeddus eu henwi, na fyddai un ohonyn nhw, Maureen Hughes hefo ni yr wythnos yma.

Colled enfawr i'w theulu i'r ardal ac i ddiwylliant Cymru. Mi yda ni'n cydymdeimlo'n ddwys hefo Bleddyn, Aled a Gareth a'r teulu cyfan. 

Wrth edrych yn ol mi fuodd Irfon fy mrawd a finna yn hynod lwcus yn cael ein magu mewn ardal fel hon. Ardal Gymreig llawn diwylliant a thrigolion agos atoch chi. Ac ym mhentre Capel Garmon, gan mai ffermwr a dyn llefrith oedd dad, ag Irfon a finna yn mynd ar y rownd lefrith bob penwythnos, mi oedde ni'n nabod pawb yn y plwy.

A'r plwy hwnnw roddodd y sylfaen i ni, y bobl, yr ysgol Sul, y band of hope, yr Eisteddfodau Tai,  Aelwyd yr Urdd, Dramau'r Odyn, y swyddi haf ym Metws y Coed a'r Ysgol. Rhyw ugain o blant oedd yna yn ysgol Capel Garmon, ond mi gatha ni'r addysg orau bosib ac mae'n nyled i'n fawr i'r athrawon, Mrs Gwyneth Davies yn y blynyddoedd cynnar a Mr Brian Morris wedyn.  Pob dim yn Gymraeg, ac os oedd yna blant di Gymraeg yn ymuno  a'r ysgol, o Gaer neu Lerpwl deudwch, wel mi oedde nhw'n rhugl yn eu Cymraeg o fewn ychydig wythnosau. Doedd ganddyn nhw ddim dewis, doedd gyno ni fawr o Saeseng a chan eu bod nhw mor ifanc doedd dysgu iaith newydd ddim yn anodd...yn enwedig a hwythau yn cael eu trochi yn y Gymraeg drwy'r dydd bob dydd. Mae yna neges yn fana yn rhywle os yda ni am gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. I ddeud y gwir dwi'n cofio un beirniad Steddfod yr Urdd yn amau os oedd un dysgwr yn ddysgwr go iawn mewn cystadleuaeth adrodd, gan ei fod yn swnio fatha rhywun oedd wedi ei eni a'i fagu yng Nghapel Gaps !

Ac o son am fod yn rhugl yn yr iaith, rhywbeth sydd yn fy nhristau i yn fy ngwaith ar adegau ydi pobl sy'n deud nad ydi eu Cymraeg nhw yn ddigon da i neud cyfweliadau ar y radio neu deledu....teimlo'n ddi hyder rhag ofn iddyn nhw gael eu beirniadu. Fy neges i heddiw ydi, peidiwch a bod ofn ei siarad, cyfrwng i gyfathrebu yn naturiol ydi iaith nid prawf gramadegol. Ei siarad hi sy'n bwysig.

Ac ella mod i di siarad gormod cofiwch yn Ysgol Dyffryn Conwy ar ol gadael ysgol Capel Garmon. Ond unwaith eto mi oedde ni'n cael yr addysg gyflawn ymysg llu o ffrindiau. Ac er fod mathemateg a'r pynciau gwyddonol yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg pan o'n i yno yn y saithdegau, diolch i'r drefn ma hynny wedi newid ers blynyddoedd. A diolch i'r holl athrawon am eu hamynedd a'u dyfalbarhad, mae yna ormod ohonyn nhw i mi eu henwi o fan hyn heddiw.Mae'n ddrwg iawn gennai fod gennai fwy o ddiddordeb mewn pel droed a Leeds United nag yn y gwersi !

A finna o Gapel Garmon....dwi di bod yn meddwl. Er mai Steddfod Sir Conwy, Llanrwst ydi hon, Eisteddfod Sir Conwy, Capel Garmon ddylsa hi fod. Mae'r troead am y pentre ar gornel y maes yma, a rhain cofiwch ydi'r caeau gwastad agosa at Gapel Garmon ac mae gan Lanrwst ddigon o gaea gwastad addas nes at y dre na'r rhein i gynnal Steddfod. Ond eto erbyn meddwl ella ddim !! Dawn ni ddim lawr y lon yna !!

Ac i neud yr achos yn gryfach, lle nath yr arch dderwydd newydd benderfynu lleoli Gwasg Carreg Gwalch yn nechrau'r wythdegau ? I na chi Capel Garmon...yn Llannerch Goch, led cae oddi wrtha ni yn Nhyddyn Iolyn !!

Nid mod i isho creu rhaniadau cofiwch. Oherwydd mae yna ddigon o hynny'n yn digwydd yn y byd yma heddiw yn does hefo'r holl begynu barn. Fel y gwyddoch chi efallai, dwi'n cyflwyno rhaglen y Post Cynta ar Radio Cymru bob bore a chyn hynny mi o'n i'n Taro'r Post bob amser cinio.

Ac wrth gwrs da ni'n yn trio'n gorau i glywed amrywiaeth barn ar ein rhaglenni

Ond wyddoch chi ma pobl yn gofyn wrthai weithia pam andros ti'n gadael i'r garfan yna ddod ar y radio i siarad a gneud drwg i ni.

Hynny ydi, rhywun ma nhw'n anghytuno a nhw….er enghraifft dwi di clywed  ffermwyr yn deuthai... Dylan ti'n fab fferm ...pam ti'n rhoi llwyfan i'r lleill ?

Ond mi yda ni'n gneud hynny er mwyn creu y darlun cyflawn a dangos nad ydi pawb yn meddwl run fath.

Y gwir amdani ydi, os yda ni am drio tawleu rhai safbwyntiau ar ein cyfryngau, mi yda ni'n gofyn am drwbwl. Mae Cymru yn wlad ddemocrataidd a rhyddid i fynegi barn. A siawns fod gyno ni ddigon o hyder fel cenedl i barchu safbwyntiau sy'n wahanol i rai ni ein hunain a chael trafodaeth synhwyrol. Yn enwedig y dyddia yma lle mae yna gymaint o bolareiddio gwleidyddol yn digwydd.

"Fydd na'n ffraeo dim ond cytuno" medda Maharishi...a nach wych oedde nhw Nos Sadwrn dwytha.

Ond does dim rhaid cytuno a'r farn arall ac mae gwrando'n holl bwysig. 

Fel yr ysgrifennodd Evelyn Beatrice Hall yn ei chofaint o'r athronydd Ffrengig Voltaire yn 1906. I ddisgrifio ffordd o feddwl yr athronydd o'r Ddeunawfed Ganrif ynglyn a rhyddid i fynegi barn. Mi ysgrifennodd hi hyn…"Dwi'n ang-hymedawyo'r hyn ti'n ddeud, ond mi nai amddiffyn hyd y diwedd i ti gael yr hawl i ddeud o"

Ac mae hynny yr un mor berthnasol heddiw ag oedd o yn y gorffennol. Ac ar ben hynny yn oes y cyfryngau cymdeithasol mae pobl yn gallu dewis y safbwyntiau ma nhw am eu clywed yn y newyddion...ac felly yn dewis anwybyddu yr ochor arall yn fwriadol. A does dim dal os ydi'r newyddion yna yn wir hyd yn oed.

Mi oedd yna adroddiad yr wythnos yma gan OFCOM,y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant cyfathrebu, fod pedwar o bob deg o bobl yng Nghymru bellach yn defnyddio Facebook i gael eu newyddion.

Y broblem ar adegau wrth gwrs ydi, drwy gael amrwyiaeth barn ar raglenni, lle da chi'n tynnu'r llinell a faint o sylw yda chi'n roi i safbwyntiau eithafol...a be di eithafol ?

Ond ma hi'n holl bwysig clywed mwy nag un farn, wedi'r cwbwl mae clywed llais chi'ch hun yn unig yn gallu bod yn ddigon diflas ar ol ychydig.

Sy'n awgrymu y dylwn ni ddod a'r araith yma i ben, ond cyn hynny, gai  achub ar y cyfle i longyfarch a diolch i drefnwyr a phyllgorau'r Eisteddfod yma eleni am lwyddo i greu  Prifwyl mor lwyddiannus er gwaetha'r problemau ma nhw wedi gael dros y misoedd dwytha.

Ar ochor y llethr yn y coed y tu ol i chi'n fancw mae yna i dy mawr o'r enw Hendre House. Mi oedd o'n wag pan oedde ni'n blant, a'r son oedd, fod yna ysbryd yn byw yno…i'n cadw ni draw mae'n siwr ! Ond wyddoch chi ysbryd Sir Conwy da ni di gael yng Nghysgod Hendre House yr wythnos yma, ysbryd o ddycnwch a dyfal barhad sydd wedi golygu fod pobl yr ardal wedi cael eu dymuniad a chynnal yr Eisteddfod ger Llanrwst. A honno yn Steddfod i'w chofio, fydd a'i dylanwad yn para am flynyddoedd.

Dwi di addo wrth Elen fy ngwraig na fyddai'n chwarae ar eiriau yma pnawn ma, fathag ydwi ar raglen Ar y Marc o bryd i'w gilydd ! Ond mai'n ddydd Sadwrn, a gan i mi son am Hendre House ag ysbryd....a'r trafferthion o gynnal yr Eisteddfod ma. Nai mond deud hyn.

O ran yr HEN-DRE...HAWS efallai fyddai di peidio a chynnal yr eisteddfod yma, ond wrth edrych yn ol heddiw mai di bod werth y GOST !!

Ta waeth am hynny, fel dyn pel droed...Gyda'n Gilydd yn Gryfach ydi arwyddair tim pel droed Cymru, neu Gorau Chwarae Cyd Chwarae, er bod hwnnw ar gefn y crysau erbyn hyn. Ond dyna'r teimlad rhwng y chwaraewyr ar cefnogwyr lle bynnag ma nhw'n chware o Fodfforrdd i Forocco !!!

A'r un ydi'r teimlad wedi bod yn Sir Conwy, rhwng yr holl gymunedau, o'r gwledig i'r trefol, i sicrhau croeso mor gynnes i bawb yr wsnos yma yn Nyffryn Conwy.

Ac os ydi Mark Cyrff yn gwrando, fydd yn perfformio gyda Mr yn yr Eagles heno….cofia am leoliad y Steddfod a chana drwy "son amdan Cymru Lloegr a Chapel Garmon" !!

Diolch am yr anrhydedd a diolch am wrando