Mae'r Eisteddfod yn wyl unigryw sy'n cael ei chynnal yn flynyddol.
Mae’r iaith yn greiddiol a phwysig i’r Eisteddfod, ond mae’r Brifwyl yn llawer mwy na digwyddiad Cymraeg – mae’n cynnig rhywbeth i bawb o bob oed. Does dim rhaid siarad Cymraeg i fwynhau’r hyn sydd gan yr Eisteddfod i’w chynnig, ac mae’r Maes yn llawn o weithgareddau a digwyddiadau i’w mwynhau. Ond beth am fachu’r cyfle i ddatblygu’ch gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog?
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynllunio taith y Brifwyl dros y blynyddoedd nesaf, a rydym hefyd yn cydweithio gydag awdurdodau lleol am o leiaf dwy flynedd cyn ymweliad yr Eisteddfod. Rydym yn cyhoeddi ein bwriad i ymweld ag ardal ddwy flynedd ymlaen llaw, gyda’r pwyllgorau a’r strwythurau codi arian yn cael eu creu cyn i’r gwaith lleol gychwyn. Mae’r Eisteddfod yn costio dros £4miliwn yn flynyddol, gyda tharged o tua £325,000 i’r gronfa leol.
Gwnewch yn siwr eich bod yn chwarae rhan yn ymweliad yr Eisteddfod â’ch ardal leol – mae’n gyfle gwych i fyd busnes – peidiwch â’i golli!