Dros gyfnod o 8 diwrnod llawn, mae’r Maes 35 acer yn gartref i 250 o stondinau – yn fusnesau, crefftwyr, elusennau, sefydliadau – ychydig o bopeth – mecca ar gyfer siopwyr – a’r siop dros dro orau y cewch chi byth!
Gyda channoedd o weithgareddau o bob math yn ystod yr wythnos ac ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr i ddenu ymwelwyr, gallwch chi fod yn rhan o’r bwrlwm a’r hwyl i gyd – yn gwerthu’ch cynnyrch neu wasanaeth – yn ehangu’ch busnes a denu cwsmeriaid newydd.
Ein gobaith yw denu mwy o siopau, busnesau a chrefftwyr o Gymru i’r Maes a hyrwyddo’r Eisteddfod fel ffenestr siop i bopeth Cymraeg a Chymreig. Os ydych chi’n meddwl y gallai’ch cwmni chi elwa o’r cyfle hwn, cysylltwch. Gellir gwneud cais am stondin o 1 Chwefror ymlaen bob blwyddyn.
Pam cael stondin?
Yr iaith a’r Eisteddfod
Hanfod yr Eisteddfod yw hybu iaith a diwylliant Cymru. Mae angen o leiaf un siaradwr Cymraeg ar y stondin drwy’r amser – gall y person yma fod yn rhugl, yn ddysgwr profiadol neu’n dechrau dysgu.
Bydd angen i’ch arwyddion a’ch pamffledi fod yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg a bydd hefyd rhaid i bob digwyddiad o fewn y stondin fod yn y Gymraeg, boed yn siaradwr gwadd neu'n gor neu grwp yn perfformio.
Y cam nesaf
Mae cost stondin yn yr Eisteddfod yn gystadleuol iawn ac yn gyfle busnes arbennig. Cyhoeddir y prisiau ddechrau’r flwyddyn a bydd y manylion i gyd yn ymddangos ar ein gwefan o dan 'Stondinau'
Os hoffech chi drafod anghenion eich cwmni, anfonwch ebost atom – eira@eisteddfod.org.uk - a byddwn yn hapus i’ch cynghori a’ch helpu i ddewis stondin sy’n gweithio i chi.