Croeso i'r adran Fusnes. Yma, cewch wybodaeth am sut mae modd cydweithio gyda ni'n lleol.
Yr Eisteddfod yw un o wyliau celfyddydol mawr y byd ac mae’n denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae’r Eisteddfod yn ŵyl deithiol, sy’n ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail, gan roi cyfle i drigolion gwahanol rannau o’r wlad roi cartref i’r ŵyl ac elwa o gyfle arbennig i hyrwyddo ardal fel mangre ymwelwyr arbennig.
Mae cyfle i fusnesau a chwmnїau elwa o ymweliad y Brifwyl, ac mae’r Eisteddfod yn gyfle arbennig i’r ardal leol elwa’n ddiwylliannol ac yn economaidd yn ystod y cyfnod ymlaen llaw, yn ystod yr Ŵyl ei hun, ac yn y dyfodol, drwy ddenu Eisteddfodwyr i ddychwelyd i’r ardal.