Byddwn yn cyhoeddi cerdd newydd gan un o brifeirdd yr Eisteddfod ddwy waith yr wythnos.
Am 16:30 ar brynhawn Llun, byddwn yn cyhoeddi cerdd gan un o enillwyr y Goron ac ar ddydd Gwener am 16:30, tro un o enillwyr y Gadair fydd hi i gyflwyno cerdd newydd.
Mae'r cerddi wedi'u hysbrydoli gan eu gwaith buddugol, ac yn rhoi gwedd newydd ar y testun flynyddoedd yn ddiweddarach.