A ninnau ar gychwyn blwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, mae Côr yr Eisteddfod yn ail-gychwyn ymarfer yn barod ar gyfer perfformiad arbennig yn y Brifwyl yn Nhregaron ddechrau mis Awst
‘Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ymuno â’r côr, ac os oes gan unrhyw un ddiddordeb, yna mae croeso mawr i chi ddod i’r ymarfer nesaf yn Ysgol Gyfun Aberaeron, nos Lun 20 Ionawr am 19.30. Mae’r trefnwyr yn awyddus i recriwtio rhagor o ddynion i ymuno â’r côr er mwyn sicrhau cydbwysedd lleisiol, felly bydd croeso arbennig ar y noson i denoriaid a baswyr o bob rhan o’r dalgylch!
Fflur Dafydd, Griff Lynch a Lewys Wyn sy’n gyfrifol am Lloergan, sy’n cyfuno’r celfyddydau a gwyddoniaeth mewn ffordd ddyfeisgar a newydd, ac mae’r prosiect yn binacl partneriaeth pum mlynedd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd, Prifysgolion Cymru a’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol, fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant y gymdeithas.
Gyda gwreiddiau’r stori’n ddwfn yng nghefn gwlad Ceredigion, mae’r Eisteddfod yn awyddus i ddenu pobl o bob rhan o’r sir i fod yn rhan o’r cyfanwaith cerddorol a geiriol amlgyfrwng hwn, wedi’i ysbrydoli gan seryddiaeth a’r ardal leol.
Crëwyd y stori a’r sgript gan Fflur Dafydd, gyda’r caneuon gan Griff Lynch a Lewys Wyn. Trefnir y gerddoriaeth gan Rhys Taylor, ac mae Hefin Jones yn ddylunydd cyfranogi creadigol ar y prosiect. Rhys Taylor sydd hefyd yn arwain yr ymarferion yn Ysgol Gyfun Aberaeron.
Ond cyn i ymarferion côr Lloergan ail-gychwyn, mae cyfle hefyd i ymuno â chôr newydd arall, Côr Cymanfa Ganu’r Eisteddfod. Bydd yr ymarferion yma hefyd yn cael eu cynnal yn Ysgol Gyfun Aberaeron ar nos Lun am 19.30, gyda’r cyfle cyntaf i ddod ynghyd nos Lun nesaf, 13 Ionawr. Delyth Hopkin Evans sy’n arwain y côr hwn, ac mae croeso cynnes i aelodau o bob oed.
Medai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod, “Rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o aelodau côr Lloergan hefyd yn awyddus i ymuno gyda chôr y Gymanfa. Mae cael canu ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr Eisteddfod yn gyfle gwych, ac rydym yn gobeithio y daw nifer dda iawn o gantorion atom i fod yn rhan o’r hwyl.
“Mae ymarferion cyntaf Lloergan wedi mynd yn arbennig o dda, ac rydym yn falch iawn ein bod ni’n gallu cynnig cyfleoedd ychwanegol i gantorion y fro. Mae ‘na draddodiad arbennig o ganu corawl ar draws y dalgylch, ac rydan ni’n awyddus i ddenu cantorion profiadol – a newydd – i ymuno gyda ni dros y misoedd nesaf.
“Felly, cofiwch am yr ymarferion ar nosweithiau Llun yn Ysgol Gyfun Aberaeron, ac mae croeso mawr i bawb.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.