Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy

13 Mehefin 2019

Heno (13 Mehefin) cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst.

Mae Coron yr Eisteddfod eleni, a noddir gan y gymdeithas dai, Grŵp Cynefin, wedi’i dylunio a’i chreu gan y gemydd cyfoes Angela Evans o Gaernarfon. Bu creu Coron yn freuddwyd i Angela erioed, ac eleni, cafodd gyfle i wireddu’i breuddwyd drwy greu Coron gywrain, hardd.

Cyflwynir y Goron am ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd, ac heb fod dros 250 o linellau, ar y pwnc Cilfachau.  Y beirniaid yw Manon Rhys, Ceri Wyn Jones a Cen Williams.  Rhoddir y wobr ariannol gan John Arthur a Margaret Glyn Jones a’r teulu, Llanrwst.

Mae tair elfen allweddol yn rhan o gynllun y Goron, gyda’r tair haen o amlinellau metel yn creu delwedd gyffrous a modern sy’n gysylltiedig ag egwyddorion sylfaenol cymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Yn yr haen gyntaf gwelir siapiau o dai arddulliannol, ond maen nhw, wrth gwrs, yn fwy na thai – dyma gartrefi i unigolion a theuluoedd yr ardal. Meddai Angela, “Mae ein diwylliant yn cael ei gynnal drwy ein cymunedau: yn y cartrefi hyn y mae ein pobl, ein hiaith a’n diwylliant yn ffynnu. Dyma sail y Goron, y rhan dalaf a’r cryfaf.”

Yn ail haen y Goron ceir trionglau – siâp sydd â chryfder naturiol – fel toeau i’r tai, yn cefnogi strwythurau yn erbyn pwysau ochrol, ac yn cynrychioli cynaliadwyedd yr ardal. Ac i goroni pob pinacl mae pêl gopr, un o nodweddion amlwg gwaith Angela fel gemydd proffesiynol. Tarddodd y copr hwn o hen fwynfeydd copr y Gogarth, Llandudno, ac fe gyflwynwyd ciwb 2cm o gopr llachar pur i’r Eisteddfod er mwyn ei ddefnyddio yng ngwneuthuriad y Goron.

Sir Conwy, y dyffryn gwledig a’r arfordir poblog yw ysbrydoliaeth y drydedd haen. Dŵr yw’r llewyrch sy’n llifo drwy’r ardaloedd o’r mynyddoedd i lawr y dyffryn ac i’r môr drwy Afon Conwy: daw â’i faeth fel cynhwysydd hanfodol i greu cymuned, amgylchedd a thirwedd llewyrchus, ac i sicrhau cynefin cadarn i ddyn ac anifail. Felly, llif y dŵr a welir yn yr haen olaf, yn fwa meddal llyfn i gyfleu symudiad y llif. Ac ar ei hyd, mae dafnau o ddŵr disglair wedi’u creu o garreg topas glas – lliw arwyddocaol gan ei fod yn efelychu lliwiau brand Grŵp Cynefin ei hun.

Nod Cyfrin Gorsedd y Beirdd sydd i’w weld ar flaen y Goron, o dan brif siâp triongl to’r tŷ, sydd wedi’i osod yno i’w amddiffyn. Ar waelod y goron, ysgathrwyd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Yn ogystal â’r Goron, mae’r Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith nos Iau.

Cyflwynir y Gadair am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd, heb fod dros 250 o linellau, ar y teitl Gorwelion. Y beirniaid yw Myrddin ap Dafydd, Llion Jones ac Ieuan Wyn.

Noddir y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru, Canghennau Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych.  Rhoddir y wobr ariannol eleni er cof am y Prifardd Gwynfor ab Ifor gan y teulu.

Gwenan Jones, merch ifanc o ddalgylch yr Eisteddfod, sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair eleni. Dywed, “Mae’n anrhydedd i gael cynllunio a chreu Cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny ym mro fy mebyd.  Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle ac wedi mwynhau’r profiad yn fawr.

“Afon Conwy a diwydiannau’r sir sydd wedi ysbrydoli’r cynllun. Yr afon yw asgwrn cefn y sir, yn llifo o’i tharddle yn Llyn Conwy ar fynydd y Migneint i’r aber yng Nghonwy, ac fe’i gwelir yn rhedeg i lawr y ddwy ffon fugail sy’n ffurfio ochrau’r Gadair. Mae siâp y ffon yn adlewyrchu cefndir amaethyddol y sir, a’r afon yn llifo’n frown er mwyn adlewyrchu mawndir yr ardal.”

Ar ochr uchaf y ddwy goes flaen, gosodwyd gwely llechen o chwarel Cwm Penmachno, a hwnnw wedi’i fframio gan haenau o gopr wedi’u mewnosod. Mae’r ysgrifen a’r dyddiad hefyd wedi’u gosod mewn copr.

“Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig defnyddio gwahanol ddeunyddiau o ardal Sir Conwy, felly mae lle amlwg i lechen leol ac i gopr, gan fod chwarel gopr hanesyddol ym Mynydd y Gogarth, Llandudno. Mae’r copr hefyd i’w weld ar y Nod Cyfrin ar banel cefn y Gadair.

“Yn ogystal, mae tref Llanrwst yn weledol bwysig, a phont y dref, gyda’i gwrthgyferbyniad o siapiau crwn ac onglog ysbrydolodd gynllun y ddwy goes flaen. Rydw i hefyd wedi creu cerflun o’r bont ar banel cefn y Gadair: mae ‘na orffeniad gwyn i hwn er mwyn adlewyrchu technegau adeiladu calch a sment yr hen oes. Yna, mae tair gwythïen liw yn rhedeg o waelod cefn y gadair, yn anelu at dri bwa’r bont ac yn ymestyn tua’r gorwel. Wrth ddilyn y gwythiennau lliw, sy’n cynrychioli’r Cymry, i fyny’r gadair, cawn ymdeimlad o chwilio am y gorwel, sef adlewyrchiad o destun ysgrifenedig y Gadair eleni.”

Defnyddiodd Gwenan dechneg gyfoes o resin clir er mwyn creu’r sedd, gyda dau damaid o dderw gydag ochrau amrwd yn adlewyrchiad o lan Afon Conwy. Rhwng y ddau ddarn o bren, mae hi wedi crynhoi cerrig Afon Conwy o’r tarddle at y glannau, gan gynrychioli’r sir gyfan. Mae pysgod hefyd wedi’u cloi yn y resin hwn, sy’n symboleiddio bywyd yr afon a’r sir.

Gwnaethpwyd y Gadair â llaw gan Gwenan yn ei gweithle ym Maerdy, Corwen.

Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Lleol, Trystan Lewis, “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran y Brifwyl. 

Mae’r seremonïau’n ddwy o uchafbwyntiau’r wythnos, ac rydym yn mawr obeithio y bydd beirdd haeddiannol yn derbyn y Goron a’r Gadair yma yn Sir Conwy ymhen rhai wythnosau.  Diolch i Angela Evans am ei gwaith cywrain ar y Goron, i Grŵp Cynefin am ei chyflwyno ac i John Arthur a Margaret Glyn Jones a’r teulu, Llanrwst am y wobr ariannol. 

“Yr un yw’r diolch i Gwenan Jones am ei gwaith ar y Gadair, ac i Undeb Amaethwyr Cymru, Canghennau Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych am ei chyflwyno, ac i deulu’r Prifardd Gwynfor ab Ifor am y wobr ariannol.  Diolch o waelod calon ar ran y Pwyllgor, yr Eisteddfod, a Sir Conwy.”

Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 5 Awst am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 9 Awst am 16.30. 

Gellir prynu tocynnau ymlaen llawn drwy fynd i’r wefan, www.eisteddfod.cymru, neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau, 0845 4090 800.  Gellir hefyd brynu tocynnau wrth gyrraedd y Maes ar y diwrnod.

Ewch ar-lein am wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy a gynhelir ar gyrion Llanrwst o 3-10 Awst.

-diwedd-

 

Mae’r Archdderwydd newydd, Myrddin, wedi creu ymateb i’r Goron a’r Gadair isod:

Y Goron

Mae Angela Evans wedi siapio awen rymus i fetel y Goron. Yn ffurfiau'r tai a'r toeau, mae yna hafan i gymdeithas a diwylliant ac mae'n cyfleu i mi ei bod hi'n rhaid parchu anghenion sylfaenol pobl cyn y gallwn ni gael gwareiddiad. Nid oes ystyr i gyfoeth os nad ydan ni yn gyntaf yn trysori ein gilydd, ein cymuned, ein cenedl. Coron pob gwlad ydi ei bod yn rhoi'r un cyfle teg i bawb – y cryf a'r gwan, y mawr a'r bach.

 

To a wal yw hawl teulu

A gobaith iaith yw ei thŷ:

Aelwyd deg sy'n creu gwlad wen,

Aelwyd yw llafn yr heulwen;

Dyna sail pob dinas wâr,

Dyna'r da ar wyneb daear;

Cyfoethog, drwy'n cymdogaeth

Yr ydym, o'r Drum i draeth.

 

Y Gadair

Mae delweddau a deunyddiau Gwenan Jones yng nghelf y Gadair eleni yn hynod o gyffrous. Maen nhw'n clymu cynnyrch y canrifoedd yn y sir hon ac ehangderau masnach ein pysgotwyr, amaethwyr, chwarelwyr a mwyngloddwyr. Aeth copr y Gogarth ar hyd glannau gorllewin Ewrop; aeth llechi'r Cwm i wledydd pell; mae cig oen y bryniau a chregyn gleision Conwy ar fyrddau gwledd sawl cyfandir. Gwlad eang ei gorwelion ydi Cymru ers cyn hanes. Mae'n addas iawn cofio a gweld hynny heddiw.

 

Dros gerrig, ar draws geiriau – y down ni;

                Daw rhyw don o wefrau

     Erioed wrth groesi ffrydiau.

 

Conwy o'i mawn sy'n canu – a galw'r

                Bugeiliaid i'r Foty;

     Seiniau gŵyl sy'n ei gwely.

 

Yn y ddaear a'r chwarel, – y derw

                A'r dŵr, a'r bont uchel,

     Mae'r gwir i Gymru'r gorwel.