Cyhoeddi rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn

9 Mai 2016

Cynhaliwyd rownd gynderfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn dros y penwythnos, ac am yr eildro erioed, mae’r beirniaid wedi rhoi pum ymgeisydd ar y rhestr fer yn y gystadleuaeth. 

Bydd y rownd derfynol yn digwydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, a gynhelir yn Y Fenni yn yr haf.

Enwau’r rheini a ddaeth i’r brig eleni yw Rwth Evans, Caerdydd, Rachel Jones, Llanfair-ym-muallt, Naomi O’Brien, Bedlinog, Sarah Reynolds, Caerfyrddin a Hannah Roberts, Brynmawr

Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod, “Fel arfer, pedwar sy’n cyrraedd y rhestr fer yn y gystadleuaeth, ond roedd y beirniaid yn bendant, bod pum ymgeisydd yn llawn haeddu’u lle yn y rownd derfynol eleni.

“Erbyn hyn, mae Dysgwr y Flwyddyn yn un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod, ac mae gallu’r pum ymgeisydd eleni i ddysgu’r Gymraeg yn arbennig.   Mae gan y pum ymroddiad, egni, a dawn ieithyddol ardderchog, ac mae hon yn mynd i fod yn gystadleuaeth anodd iawn i’w beirniadu yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Roedd y safon yn uchel iawn eleni, a’r beirniaid yn bendant bod nifer o’r cystadleuwyr eraill hefyd yn haeddu lle ar y rhestr fer.  Ond yn anffodus, bu’n rhaid trafod yn hir, er mwyn dewis a dethol a thorri’r rhestr hir i lawr i bump.  Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n rhan o’r gystadleuaeth, ac mae mor braf gweld bod cymaint o frwdfrydedd tuag at yr iaith yn ardal yr Eisteddfod, ac mewn rhannau eraill o Gymru a thu hwnt.”

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Elwyn Hughes, Sandra De Pol ac Angharad Mair.  Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi nos Fercher 3 Awst mewn seremoni arbennig.  Bydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig a £300, yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent, ynghyd â thanysgrifiad blwyddyn i Golwg.  Bydd y pedwar arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlysau a £100 yr un, hefyd yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni, o 29 Gorffennaf – 6 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

-diwedd-

Rwth Evans

Roedd rhieni mam-gu Rwth yn siarad Cymraeg ond ni throsglwyddwyd yr iaith i blant iau'r teulu, gan gynnwys mam ei thad, gan fod pawb yn meddwl bryd hynny bod angen Saesneg i ddod ymlaen yn y byd. Diflannodd yr iaith yn nheulu ei mam yr un fath. Cafodd Rwth flas bach ar y Gymraeg yn yr ysgol gynradd ond dim byd yn yr ysgol uwchradd o gwbl. Serch hynny bu’r blas bach hwnnw yn ddigon i wneud iddi hi deimlo bod rhywbeth ar goll yn ei bywyd a phan deithiodd tramor gyda’r ysgol uwchradd teimlodd anfodlonrwydd mawr fod pobl yn ei hystyried yn Saesnes gan nad oedd iaith ei gwlad ganddi.

Aeth i’r brifysgol yng Nghaerfyrddin ac aeth ati’n syth i ailgydio yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae’n rhan ganolog o grŵp Clonc yn y Cwtsh, Menter Caerdydd, sy’n cwrdd yn wythnosol ac yn trefnu pob math o weithgareddau. Bob blwyddyn mae’n cynrychioli ei chyflogwr drwy weithio ar ei stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol neu’r Urdd ac mae’n gwirfoddoli ym Maes D. Mae ganddi swydd weinyddu mewn adran gyfieithu sydd wedi rhoi cyfle gwych iddi hi wella ei sgiliau iaith. Mae hefyd yn fentor Cymraeg i ferch arall ac mae wrth ei bodd yn tiwtora bachgen sydd mewn ysgol Saesneg ei hiaith, unwaith yr wythnos.  Defnyddia ei sgiliau Cymraeg hefyd yn wirfoddol gyda’r RNIB drwy recordio adnoddau Cymraeg er mwyn i blant dall mewn ysgolion prif ffrwd eu defnyddio.

Rachel Jones

Merch fferm o Lanfair-ym-muallt yw Rachel Jones, sy’n dal i fyw ar fferm y teulu yn Llanafan Fawr.  Dysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-muallt, ac wrth astudio ‘r pwnc ar gyfer Lefel A’ ail iaith, cafodd ei hysbrydoli gan ei hathro, Steve Mason, a oedd wedi dysgu Cymraeg ei hun pan yn yr ysgol.  Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Rachel i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg a Mathemateg. 

Bu’n byw yn Neuadd Pantycelyn yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol, ac roedd hyn o gymorth mawr iddi wrth iddi barhau i ddysgu’r iaith, a thrwy hynny, daeth yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg.  Ar ddiwedd ei chyfnod yn y coleg, cafodd gyfle i wneud ymarfer dysgu yn ei hen ysgol yn Llanfair-ym-muallt yn dysgu Mathemateg i’r ffrwd Gymraeg, gan roi cyfle iddi gydweithio gyda’r gŵr â’i hysbrydolodd i ddysgu Cymraeg, Steve Mason.  Mae wrth ei bodd yn defnyddio’r Gymraeg yn ei gwaith bob dydd, ac yn cael cyfle i ysbrydoli pobl ifanc ei hardal.

Naomi O’Brien

Merch o Fedlinog ger Merthyr Tudful yw Naomi sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg er 2010. Mae teulu Naomi o dras Tseiniaidd ac mae dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd hunaniaeth ganddi. Mae wedi gweithio’n galed i newid yr iaith mae’n ei defnyddio gyda’i phlant a’i llys blant. Erbyn hyn mae’r plant yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith y cartref ac ym mhob agwedd o’u bywydau. Mae Naomi wedi rhedeg grŵp Ti a Fi a Chylch Meithrin ac mae wedi dechrau gyrfa yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu mewn ysgolion cynradd a chyfun yr ardal.

Mae ganddi gwmni darlunio, ‘Neverbored’ sy’n gweithredu yn hollol ddwyieithog ac mae’r cwmni wedi derbyn Achrediad Lles ar gyfer ei defnydd o’r Gymraeg. Mae hi’n defnyddio’r iaith Gymraeg ar bob hysbyseb a gynhyrchir gan y cwmni er mai o Loegr ac o dramor y daw y rhan fwyaf o’i chleientiaid. Mae ei phenderfyniad i hyrwyddo’r iaith felly wedi ei seilio ar ei chariad at yr iaith yn hytrach na manteision masnachol.

Hannah Roberts

Mae Hannah yn gweithio i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy fel Swyddog Maes sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ym Mlaenau Gwent a Gogledd Sir Fynwy. Mae’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd a’r gymuned ac mae wrth ei bodd yn y swydd sy’n rhoi’r cyfle iddi hi ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ardaloedd hyn gan gynnwys ei chartref. Daeth at y Gymraeg drwy ddamwain pan oedd adref un haf o’r brifysgol ac yn chwilio am ‘rywbeth’ i’w wneud. Mynychodd gwrs blasu gyda Chymraeg i Oedolion ac fe gafodd ei bachu gan yr iaith.

Aeth nôl i Brifysgol Aberystwyth a phenderfynu newid ei chwrs o Ddaearyddiaeth i gwrs ar gyfer dechreuwyr pur yn yr Adran Gymraeg. Bu hi’n byw ym Mhantycelyn ac fe gafodd brofiad da yno, ond bu’n rhaid iddi hi frwydro a dyfalbarhau i gael pawb i siarad â hi yn Gymraeg. Felly dechreuodd Gymdeithas ar gyfer dysgwyr yn y Brifysgol er mwyn sefydlu amgylchedd lle gallai myfyrwyr ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg ac er mwyn hybu a hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr gymdeithasu yn Gymraeg.

Sarah Reynolds

A hithau wedi ysgrifennu nofel yn y Gymraeg sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Gomer, mae’n anodd credu mai dim ond ers tua saith mlynedd mae Sarah Reynolds wedi bod yn dysgu Cymraeg, gan fod y Gymraeg yn rhan annatod o’i bywyd. 

Bu’n gweithio ar raglenni teledu fel Big Brother a Strictly Come Dancing yn Llundain, cyn i’w bywyd newid yn llwyr pan drefnodd ei ffrindiau iddi gyfarfod â gŵr ifanc a ddaeth yn ŵr iddi, gan ei chyflwyno i fywyd a byd Cymraeg.  Cafodd swydd gyda chwmni Telesgop yn Abertawe, a chan bod y rhan fwyaf o’r staff yn siarad Cymraeg, aeth Sarah ati i ddysgu’r iaith.  Erbyn hyn, mae ganddi hi a Geraint ddau o blant, Lyra ac Atticus, a Chymraeg yw iaith y cartref. 

Mae Sarah wedi mwynhau ysgrifennu erioed, ac ar hyn o bryd, mae’n gorffen eu MA mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac wrthi’n ysgrifennu nofel yn Saesneg sy’n delio â’r iaith a hunaniaeth.

Hannah RobertsNaomi O'BrienRachel JonesSarah ReynoldsRwth Evans