Cyhoeddi rhestr fer Medal Aur am Bensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru

4 Gorffennaf 2019

Mae dwy ysgol, canolfan cefnogi cleifion â chanser, oriel a gweithdy mewn amgueddfa, canolfan adnoddau diwylliannol, hyb diwydiannau creadigol a thŷ preifat yn y ras dros ennill Y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Heddiw (Iau, 4 Gorffennaf) mewn digwyddiad yn y MOSTYN, Llandudno cyhoeddwyd bod Ysgol Trimsaran; Ysgol Pen Rhos, Llanelli; canolfan Maggie’s, Caerdydd; Tŷ Pawb, Wrecsam; Y Gweithdy, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan;  Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin a Silver How, Llanhenwg yn y gystadleuaeth dros ennill yr anrhydedd fawr. (Enillodd yr oriel gelf Y Fedal Aur am Bensaernïaeth i benseiri Ellis Williams, Warrington nôl yn 2011).

Gyda chefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru, ac mewn cydweithrediad â Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, mae’r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn cydnabod pwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac yn cydnabod y penseiri hynny sy’n cyrraedd y safonau dylunio uchaf. Fe’i dyfernir i adeiladau a gwblhawyd rhwng 1 Ionawr 2016 a 1 Mawrth 2019.

Mae’r rhestr lawn yn cynnwys: Ysgol Trimsaran; Ysgol Pen Rhos, Llanelli; canolfan Maggie’s, Caerdydd; Tŷ Pawb, Wrecsam; Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin; Y Gweithdy, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan a Silver How, Llanhenwg.

Ysgol Trimsaran

Ysgol Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin yw’r adeilad ysgol cyfan cyntaf yng Nghymru i gael ei ddylunio’n unol â safonau Passivhaus (sef y safon ryngwladol ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn adeilad.) Mae’r adeilad yn gartref i ysgol gynradd un dosbarth mynediad ac ysgol feithrin. Mae’r cynllun aml-lefel fel petai’n eistedd yn daclus ar ochr y bryn. Gorffennwyd y waliau â chymysgedd o lechi, ynghyd â llarwydd Cymreig a bywlys. Lluniwyd y strwythur pren o goed wedi’u tyfu yn y wlad hon. Nod Ysgol Trimsaran yw darparu amgylchedd dysgu o’r radd uchaf sy’n cefnogi iechyd a lles y sawl sy’n ei defnyddio, a lle mae disgyblion eisiau dysgu. Mae maint a hyblygrwydd y gofodau yn caniatáu i’r athrawon ddefnyddio gwahanol ddulliau addysgu nad oedd yn bosibl yn flaenorol. Dyluniwyd gan gwmni Architype Ltd o Henffordd.         

Ysgol Pen Rhos 

Mae Ysgol Pen Rhos yn Llanelli yn ysgol gynradd newydd sy’n disodli dwy ysgol bresennol a oedd mewn cyflwr gwael a diffygiol. Mae’r terasau to a’r cyrtiau ynghyd â’r cymysgedd o dirweddau caled a meddal ac ecoleg amrywiol yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau dysgu. Mae’r cyfleuster yn adfywio safle diwydiannol adfeiliedig ac ail-fodelwyd y dirwedd allanol i ddarparu amgylchedd addysgol croesawus a chynhwysol sydd â chyswllt cryf â’r gymuned leol. Gyda chynaliadwyedd yn ystyriaeth ysgogol, mabwysiadodd y cynllun egwyddorion Passivhaus er mwyn derbyn gradd Ragorol BREEAM 2008. Dyluniwyd gan swyddfa Caerdydd HLM Architects.

Maggie’s, Caerdydd

Nod canolfannau Maggie’s yw darparu cefnogaeth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol i bobl sydd â chanser. Mae’r adeilad yn Ysbyty Felindre, Caerdydd, wedi’i leoli ar safle trionglog dinod yng nghornel maes parcio. Mae ei ffurf a’i ddefnydd o ddeunyddiau yn ceisio adlewyrchu’r olygfa o’i amgylch a darparu amrywiaeth o ofodau dyrchafol sydd â pherthynas gref â natur.  Mae silwét yr adeilad yn adleisio ffurfiau’r mynyddoedd lleol, ac mae’r cladin dur rhydlyd, crychiog, yr un lliw â’r rhedyn. Mae’r gofodau mewnol wedi’u ffurfio rhwng waliau wedi’u leinio â ffynidwydd Douglas ag iddynt gynhesrwydd a meddalwch, ac sy’n cyferbynnu â’r llawr concrid llathredig llyfn. Yng nghalon yr adeilad y mae’r cwtsh, sef gofod tal, agos-atoch, wedi’i oleuo o’r to, a ysbrydolwyd gan y simnai fawr ym mhensaernïaeth werin Cymru. Dyluniwyd gan Dow Jones Architects, Llundain.

Tŷ Pawb

Mae Tŷ̂ Pawb yn adleoli oriel gelf y dref i faes parcio aml-lawr a neuadd farchnad a godwyd at y diben yn y 1980au. Mae’r cyfleusterau newydd yn cynnwys orielau celf, stondinau marchnad, gofod perfformio, canolfan ddysgu, caffis a bariau. Mae stiwdios ac ystafelloedd cyfarfod i artistiaid a staff yr oriel yn edrych i lawr dros ofodau uchder dwbl a grëwyd o’r newydd. Mae’r maes parcio yn dal i gael ei ddefnyddio ar y lloriau uwch.

Mae’r dyluniad ôl-ffitio yn torri i mewn i ffabrig concrit presennol yr adeilad, gan ddod â golau naturiol i mewn yn ddwfn i’r cynllun a chreu cysylltiadau fertigol trawiadol rhwng y lloriau. Mae Tŷ Pawb yn estyniad i ganol tref Wrecsam, ac yn chwarae ar yr arfer poblogaidd, hirsefydlog, o ddefnyddio’r adeilad fel ffordd hawdd i groesi’r dref. Dyluniwyd gan gwmni Featherstone Young, Llundain.

Canolfan S4C Yr Egin

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ganolfan newydd i’r cyfryngau ar gampws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r adeilad yn darparu gofod i sianel deledu S4C ynghyd ag ymarferwyr creadigol, digidol a diwylliannol eraill. Y canolbwynt i batrwm mewnol yr adeilad trionglog, tri llawr, yw’r cyntedd cyhoeddus a’r atriwm sy’n cysylltu’r tri llawr. Ar y llawr gwaelod y mae caffi helaeth a gofod darlledu a pherfformio at ddefnydd tenantiaid a grwpiau cymunedol. Mae’r lloriau uchaf yn cynnwys swyddfeydd hyblyg ar gyfer y tenantiaid creadigol ynghyd â phresenoldeb S4C ar y llawr cyntaf. Mae golwg yr adeilad yn newid wrth ichi symud o gwmpas ynddo. Mae’r llen wydr sy’n lapio’r swyddfeydd wedi’i dylunio i ‘arnofio’ dros blinth solet y llawr gwaelod, gan hefyd adlewyrchu’r dirwedd o amgylch. Mae’r cyfansoddiad cyffredinol yn ‘tywynnu’ yn y nos ac yn atgyfnerthu cysylltedd y gofodau. Dyluniwyd gan BDP, Bryste gyda’r Rural Office for Architecture, Caerfyrddin.

Y Gweithdy

Mae’r Gweithdy yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn ddathliad o ddiwylliant, treftadaeth a sgiliau crefftau Cymru mewn oriel, gweithdy a chanolfan ymwelwyr newydd sy’n darparu gofodau hyblyg i gynnal gweithdai ac arddangosiadau. Y mae hefyd yn cynnwys siop goffi a thoiledau ymwelwyr. Mae’r adeilad, sydd wedi’i integreiddio i safle wedi’i adnewyddu o goetir y 19eg ganrif, wedi’i leoli’r drws nesaf i amffitheatr risiog ac ar bwynt lle mae llwybrau’n croesi, gan greu canolbwynt i’r rhan hon o barc yr amgueddfa. Mae’r ffurf drionglog wedi’i hamgylchynu â chroen sy’n newid o ran adlewyrched, tryloywder a didreiddedd. Mae llinellau llym y gwydr yn cyferbynnu â llystyfiant y safle ac yn lleihau crynswth yr adeilad drwy adlewyrchu’r hyn sydd o’i amgylch. Caiff yr adeilad ei feddalu hefyd gan estyll pren fertigol sy’n pylu’r ymylon rhwng y rhannau adlewyrchol golau a thywyll. Dyluniwyd gan benseiri Feilden Clegg Bradley Studios, Caerfaddon.

Silver How

Mae’r annedd hon ger Caerllion, ag iddi bum ystafell wely, yn disodli tŷ adfeiliedig o’r 1960au a adeiladwyd y drws nesaf i stabl Celf a Chrefft. Mae’r safle yn rhan o Ardal Gadwraeth Llanhenwg lle mae’r coed yn amlwg iawn, yn arbennig sawl derwen enfawr sydd wedi’u diogelu gan y gyfraith. Barnwyd mai hanfodol oedd cadw’r stabl o ddechrau’r 20fed ganrif yn ogystal â’r coed sy’n ased pwysig i’r pentref. Mae’r dyluniad yn troi’r stabl i fod yn gegin helaeth i’r teulu, ac mae elfen wydr yn gyswllt rhwng y gegin ac adain newydd wedi’i chodi o gerrig. Mae’r ddau floc yn cyfuno i greu cynllun ar ffurf ‘L’ sy’n cofleidio clos sy’n wynebu’r de. Mae’r ffrâm ddur yn golygu bod y cynllun yn hyblyg i fanteisio ar rychwantau mawr a strwythur main gan gyfuno ysgafnder a thryloywder adeilad modern â swmp a sefydlogrwydd tywodfaen o chwarel leol. Dyluniwyd gan gwmni Hall + Bednarczyk, Cas-gwent

Mae tri o’r prosiectau ar y rhestr fer - Y Gweithdy, Ysgol Trimsaran a Silver How eisoes wedi ennill Gwobrau Pensaernïaeth Gymreig Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW).

Dyfarnwyd Gwobr Gynaliadwyedd RSAW i Ysgol Trimsaran ac enillodd benseiri Silver How Martin Hall a Kelly Bednarczyk glod ychwanegol Penseiri Prosiect y Flwyddyn.

Meddai Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru: “Eleni ryden ni eisoes wedi gweld nifer o’r prosiectau yma’n cael cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru a Chymdeithas Frenhinol Syrfëwyr Siartredig. Mae eu hansawdd a dyfeisgarwch y timau dylunio yn wirioneddol ragorol. Mae’n rhestr fer nodedig sy’n dangos cleientiaid gyda gweledigaeth a thimau dylunio’n gweithio gyda dawn a chreadigrwydd wrth ddatrys problemau. Mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig a bydd ennill Y Fedal Aur yn dipyn o frwydr.”

Tynnwyd y rhestr fer gan y detholwyr, y penseiri Wendy James a Trevor Skempton. Ar ôl trafod ymhellach y mis hwn, mae’n bosib y dyfernir Y Fedal Aur am Bensaernïaeth i un o’r adeiladau ar 3 Awst 2019 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Meddai un o’r detholwyr Trevor Skempton, “Mae eleni yn flwyddyn nodedig yn y nifer o gynigion ddaeth i law - saith ar hugain i gyd - a’r ansawdd yn gyffredinol. Cyfunodd sawl cynllun gefnogaeth weithredol i’r Gymraeg gyda diwylliant pensaernïol clir a synnwyr arbennig o le. Yn y cyfamser, yn ein trefi a’n strydoedd mawr, mae ‘dylunio trefol’ - ‘creu lle’, cynaliadwyedd, pen-gynllunio,  wyneb stryd gweithredol, defnydd cymysg hyblyg a photensial am ailgylchu ac ôl-ffitio hen adeiladau wedi symud i fyny’r agenda.

“Wrth ddethol rhestr fer ar gyfer arddangos, dyma ni’n cael ein hunain wedi’n denu tuag at y prosiectau hynny lle mae’r pensaer wedi llwyddo i ddarparu rhywbeth arbennig ychwanegol, y tu hwnt i’r disgwyl efallai. Gall hwn fod yn werth ychwanegol, cynaliadwyedd hir dymor, neu hyd yn oed yn drawsnewidiad go iawn i gymdogaeth.

“Yn anad dim, uwchlaw popeth, mae hyfrydwch mewn adeiladau wedi’u saernïo’n gain sy’n rhoi i’r cleient a’r defnyddiwr mwy nad oeddynt wedi dychmygu.”

Meddai Mary Wrenn, Cyfarwyddwr Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru: “Gall Gymru fod yn wirioneddol falch o’r rhestr fer ryfeddol hon. Unwaith eto, mae penseiri yng Nghymru wedi rhoi cynaliadwyedd ar frig yr agenda a rhoi gwerth am arian amlwg i’w cleientiaid.”

Bydd y ffotograffydd James Morris a’r bardd Beth Celyn yn ymweld â’r saith adeilad ar y rhestr fer. Eu hymateb nhw fydd sail yr arddangosfa bensaernïaeth yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, 3 - 10 Awst. Nod yr arddangosfa, a wireddir drwy’r bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Comisiwn Dylunio Cymru a Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru yw codi proffil pensaernïaeth yng Nghymru a chyfleu cyfraniad yr amgylchedd adeiledig i’r wlad.

Sefydlwyd Medal Aur am Bensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru drwy ymdrechion y pensaer a’r cynllunydd trefol Thomas Alwyn Lloyd (1881 - 1960). Cynigwyd hi gyntaf ym 1954 ond ni ddyfarnwyd hi yn ystod ei oes. Dyfarnwyd y fedal gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 i Baines & Hargreaves, Preston am Warws a Swyddfeydd H J Heinz Ltd., Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd. Dyfernir y wobr mewn cydweithrediad â Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru. Mae Comisiwn Dylunio Cymru wedi cefnogi’r fedal ers 2009.