Cymanfa Ganu Y Cyhoeddi

Margaret Daniel a Delyth Hopkins Evans fydd yn arwain y canu â Sarah-Jane Absalom yn organydd gydag eitemau gwadd gan yr enillydd Rhuban Glas, Kees Huysmans. 

Mynediad trwy Raglen yn £5 ar gael yn Sianti (Aberaeron); Awen Teifi (Aberteifi); Siop y Pethe a Siop Inc (Aberystwyth); Smotyn Du (Llanbed); Siop Ffab (Llandysul); Anrhegaron, Rhiannon a Medical Hall (Tregaron). 

Bydd y Gymanfa yn cael ei recordio gan gwmni Rondo ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol S4C.

Dyddiad ac amser 
27 Mehefin 2019 - 7:00pm
Lleoliad 
Capel Soar, Llanbed
Pris Tocyn / Mynediad 
£5
Ffôn gwerthwyr tocynnau 
0845 40 90 400
E-bost gwerthwyr tocynnau