Disgwylir i'r cystadleuwyr gyfeilio i ddatgeinydd Cerdd Dant ac i fod yn barod i drawsgyweirio’r ceinciau gosodedig, hyd at dôn yn uwch a thôn yn is. Anfonir copi o’r geiriau ar ôl dyddiad cau’r gystadleuaeth ar 1 Mai. Ceinciau:‘Brondeifi’, J Eirian Jones, Alawon Dwynant [Y Lolfa] ac ‘Ael y Bryn’, Owain Siôn, Ceinciau Llwydyrus [Sain]
Bydd yr enillydd yn cael gwahoddiad i fynychu'r cwrs cyfeilio blynyddol dan nawdd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru