(053) Gwobr Goffa Osborne Roberts – Y Rhuban Glas

Dyddiad Cau
 8 Mehefin 2018

Bydd y panel beirniaid yn dewis pedwar cystadleuydd ar draws y categorïau yng nghystadlaethau 49-52 i gystadlu ar lwyfan y pafiliwn.

(a) Yr unawd (Rhan A) yn y dosbarth

(b) Hunanddewisiad o unawd gan gyfansoddwr o Gymro ac eithrio dewisiadau Rhan B yn y Rhestr Testunau

Gwobr:
Medal Goffa Osborne Roberts (Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf) a £150 (Delwyn Tibbott, Llandaf)

Gwobr Sefydliad Cymru Gogledd America. Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr gan Sefydliad Cymru Gogledd America i’w (g)alluogi i berfformio yn yr ŵyl yn Milwaukee, Wisconsin penwythnos ddiwedd Awst/ddechrau Medi 2019.

Gwobr Cronfa Goffa Violet Mary Lewis. Cynigir gwobr Cronfa Goffa Violet Mary Lewis, gwerth £220, rhoddedig gan ei mab, Dr Cyril David Jones, Michigan, U.D.A., a’i merch Phyllis Marie Jones-Gaide, Florida, U.D.A., i’r soprano fwyaf disglair yng nghystadlaethau 49-52 i gael hyfforddiant pellach.

Gwobr Cronfeydd Coffa David Lloyd a Jean Skidmore, Aberdyfi. Cynigir £160 o Gronfa Gwobr Goffa David Lloyd a £60 o Gronfa Goffa Jean Skidmore, Aberdyfi, er cof am David Lloyd, i’r tenor mwyaf disglair yng nghystadlaethau 49-52 i gael hyfforddiant pellach.

Ysgoloriaethau:
Mae’r ysgoloriaethau isod i’w defnyddio i hyrwyddo gyrfa yr enillydd. Ni all neb dderbyn yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith, ond gellir cystadlu i ennill y gwobrau. Gweler Rheolau ac Amodau Cyffredinol, rhif 21.


Ysgoloriaeth William Park-Jones gwerth £2,000 i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts

Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Llundain gwerth £500 i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts

Ysgoloriaeth William Park-Jones gwerth £1,000 i’r unawdydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau 49-52 i’w galluogi i dderbyn hyfforddiant pellach mewn ysgol neu goleg cerdd cydnabyddedig neu gan athro llais cydnabyddedig.

Gwobrau
  1. Medal Goffa Osborne Roberts (Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf) a £150 (Delwyn Tibbott, Llandaf) Gwobr Sefydliad Cymru Gogledd America. Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr gan Sefydliad Cymru Gogledd America i’w (g)alluogi i berfformio yn yr ŵyl yn Milwaukee, Wisconsin penwythnos ddiwedd Awst/ddechrau Medi 2019. Gwobr Cronfa Goffa Violet Mary Lewis. Cynigir gwobr Cronfa Goffa Violet Mary Lewis, gwerth £220, rhoddedig gan ei mab, Dr Cyril David Jones, Michigan, U.D.A., a’i merch Phyllis Marie Jones-Gaide, Florida, U.D.A., i’r soprano fwyaf disglair yng nghystadlaethau 49-52 i gael hyfforddiant pellach. Gwobr Cronfeydd Coffa David Lloyd a Jean Skidmore, Aberdyfi. Cynigir £160 o Gronfa Gwobr Goffa David Lloyd a £60 o Gronfa Goffa Jean Skidmore, Aberdyfi, er cof am David Lloyd, i’r tenor mwyaf disglair yng nghystadlaethau 49-52 i gael hyfforddiant pellach. Ysgoloriaethau: Mae’r ysgoloriaethau isod i’w defnyddio i hyrwyddo gyrfa yr enillydd. Ni all neb dderbyn yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith, ond gellir cystadlu i ennill y gwobrau. Gweler Rheolau ac Amodau Cyffredinol, rhif 21. Ysgoloriaeth William Park-Jones gwerth £2,000 i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Llundain gwerth £500 i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts Ysgoloriaeth William Park-Jones gwerth £1,000 i’r unawdydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau 49-52 i’w galluogi i dderbyn hyfforddiant pellach mewn ysgol neu goleg cerdd cydnabyddedig neu gan athro llais cydnabyddedig.