Gawsoch chi’ch ysbrydoli i fynd ati i gyfansoddi gan gystadleuaeth Cân i Gymru eleni?
Os felly, bachwch y cyfle i gystadlu am Dlws Sbardun yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion.
Mae’r gystadleuaeth yn ddathliad o gyfraniad Alun ‘Sbardun’ Huws i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Cymru, fel un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr enillydd yn derbyn tlws hardd gan yr artist, Carwyn Evans, i’w gadw am flwyddyn a £500, a chyflwynir y wobr am gân werinol ac acwstig ei naws.
Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r gystadleuaeth hon wedi cydio yn nychymyg rhai o gyfansoddwyr a pherfformwyr gorau Cymru. Ry’n ni’n falch iawn o gynnig cyfle i gyfansoddwyr greu caneuon acwstig a gwerinol fel rhan o gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y math yma o gerddoriaeth i fynd amdani eleni yng Ngheredigion.
“Roedd cyfraniad Sbardun i’r sîn ac i Gymru yn enfawr, a braf yw gwybod bod modd dathlu hyn unwaith eto eleni, ac ry’n ni’n ddiolchgar i Gwenno a chyfeillion Sbardun am eu holl gefnogaeth unwaith eto eleni.
1 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth a dylid cyflwyno’r gân ar gryno-ddisg neu MP3. Caniateir cywaith. Mae ffurflenni cais ar gael yn y rhestr testunau neu ar-lein, https://eisteddfod.cymru/cystadlu/testunau. Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Tecwyn Ifan a Siân James.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.
Lawr lwythwch ffurflen gais drwy glicio ar y PDF uchod.