Datganiad Preifatrwydd
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ymrwymedig i warchod eich gwybodaeth bersonol a bod yn gwbl eglur ynglyn â pha wybodaeth yr ydym yn ei ddal amdanoch.
Dan y CGDC (Cymhwysiad Gwarchod Data Cyffredinol) rydym yn gyfrifol am sicrhau:
Mae defnyddio gwybodaeth bersonol yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well ac felly eich darparu chi â gwybodaeth briodol ac amserol ynglyn â’r gwaith yr ydym yn ei wneud. Fel elusen, mae hefyd yn ein helpu i ymrwymo â noddwyr posib a chefnogwyr. Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â CGDC a’r holl gyfreithiau perthnasol eraill ynglyn â gwarchod gwybodaeth bersonol. Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio:
Caiff y wybodaeth bersonol a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn ei gasglu gennych trwy’r dulliau canlynol:
Ein gwefan yw un o’r prif fannau ble mae ein cwsmeriaid yn cyfathrebu â ni ac yn rhannu eu gwybodaeth bersonol. Os yr ydych yn gofidio ar unrhyw adeg fod eich cyfrif arlein wedi cael ei beryglu, cysylltwch â’n Swyddfa yn syth. Efallai bydd dolenni ar ein gwefan drwyddi draw i wefannau trydydd person sy’n atebol i’w polisiau preifatrwydd eu hunain ac a all ddefnyddio cwcis. Rydym yn awgrymu eich bod yn adolygu eu polisiau a’u cwcis pan yn ymweld â’u gwefannau ond nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros wefannau trydydd person. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau ynglŷn â’r hysbysiad hwn, cysylltwch â’r Swyddog Gwarchod Data - diogelu.data@eisteddfod.org.uk
Pwy ydym ni
Elusen yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ein rhif elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru yw 1155539.
Casglu gwybodaeth
Rydym yn casglu, prosesu a chadw cynifer o wahanol fathau o wybodaeth: Gwybodaeth yr ydych chi yn ei roi i ni Er enghraifft, pan yr ydych yn creu cyfrif ar ein gwefan, yn prynu tocynnau neu’n gwneud rhodd, byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol a fydd yn cynnwys rhai o’r canlynol:
Gwybodaeth ynglŷn â’ch rhyngweithiadau â ni
Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, yn archebu tocynnau, yn gwneud rhodd neu’n derbyn cyfathrebiad marchnata gennym ni fyddwn yn creu cofnod. Bydd yn cynnwys:
Data personol sensitif
Mae cyfreithiau Gwarchod Data yn cydnabod bod rhai categoriau o wybodaeth bersonol yn fwy sensitif gan gynnwys gwybodaeth iechyd, hil, credoau crefyddol a barn wleidyddol. Nid ydym yn casglu’r math yma o wybodaeth am ein cwsmeriaid fel arfer oni bai bod rheswm cwbl glir dros wneud hynny. .
Ble y caiff gwybodaeth bersonol ei gasglu a’i storio?
Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw’r rheolwr data ar gyfer y data y casglwn ac y storiwn. Caiff data ei gasglu a’i storio trwy’r systemau a’r platfformau canlynol
Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei brosesu’n awtomataidd mewn modd a all ddylanwadu’n negyddol ar unrhyw unigolyn
Sut yr ydym yn defnyddio eich data personol?
Y mae tair sail sy’n ein galluogi ni i brosesu eich data:
Cytundeb
Pan yr ydych yn prynu tocynnau neu unrhyw gynnyrch eraill gennym ni neu’n gwneud rhodd i ni, rydych yn creu cytundeb â ni. Er mwyn medru gwasanaethu’r cytundeb hwn mae angen i ni brosesu a storio eich data. Mae enghreifftiau ble y byddai’r sail gyfreithiol hon yn weithredol yn cynnwys:
Caniatâd
Byddwn yn holi am eich caniatad cyn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn yr achosion canlynol. Gallwch dynnu eich caniatad yn nôl ar unrhyw adeg a gallwch wneud hyn trwy fewngofnodi i mewn i’ch cyfrif neu alw’r Swyddfa Docynnau. Yr achosion hynny ble mai caniatad fyddai’r sail gyfreithiol dros ein prosesiad yw:
Diddordebau busnes cyfiawn
Mewn rhai achosion rydym yn casglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol am resymau sydd o ddiddordeb corfforol cyfiawn i ni. Byddwn ond yn gwneud hyn os nad oes unrhyw anfantais o bwys i chi trwy ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y modd hwn. Mae’r achosion ble y gallwn honni mai diddordebau busnes cyfiawn yw’r sail gyfreithiol dros brosesu yn cynnwys:
Ym mhob un o’r achosion uchod byddwn bob tro’n cadw eich hawliau a’ch diddordebau ar y rheng flaen er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu sathru gan ein diddordebau ein hunain neu unrhyw hawliau a rhyddid sylfaenol. Mae gennych chi’r hawl i wrthwynebu unrhyw brosesu ar unrhyw adeg. Os yr hoffech wneud hyn defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y polisi hwn. Byddwch yn ymwybodol y gall hyn amharu ar ein gallu i ymgymryd â thasgau sydd o fudd i chi.
Trydydd person
Mewn rhai amgylchiadau penodol gall fod angen i ni ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd person. Yr amgylchiadau hynny fyddai:
I’n darparwyr gwasanaeth ein hunain sy’n prosesu data ar ein rhan ac ar ein cyfarwyddyd ni (er enghraifft darparwr ein System Swyddfa Docynnau). Yn yr achosion hyn byddwn yn disgwyl i’r trydydd person gydymffurfio’n llym â’n cyfarwyddiadau a gyda chyfreithiau diogelu data, er enghraifft wrth ystyried diogelwch data personol.
Ble yr ydym yn rhwym i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio gydag unrhyw oblygiadau cyfreithiol (er enghraifft i gyrff llywodraethol a chorfforaethau sy’n rhoi’r gyfraith mewn grym). Nodwch na fyddwn ni’n rhannu data gyda chwmniau sy’n ymweld bellach ac felly ni fyddwn yn holi am eich caniatad i wneud hynny bellach.
Cwcis
Rydym yn defnyddio cymysgedd o gwcis hanfodol ac anhanfodol yn rhan o’r broses archebu arlein er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau posibl:
CWCIS HANFODOL I fedru dilyn trywydd eich archeb mae’n hanfodol ein bod ni’n storio “cwci sesiwn” ar eich cyfrifiadur. Bydd y cwci yma’n para am 24 awr.
CWCIS ANHANFODOL Rydym yn defnyddio ychydig o gwcis anhanfodol i deilwra eich profiad archebu ac i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy pleserus i chi. Mae’r cwcis ychwanegol hyn yn cael eu defnyddio i storio pethau megis eich manylion mewngofnodi fel y gallwch fewngofnodi’n awtomatig bob tro yr ymwelwch â’n gwefan. Cyn storio unrhyw un o’r cwcis hyn am y tro cyntaf byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn holi am eich caniatad cyn parhau. Os nad ydych yn dymuno storio’r cwcis hynny yna ni fyddwch yn medru defnyddio’r nodwedd benodol honno, ond bydd gweddill y wefan yn parhau i weithio’n gywir.
Manylion eich cerdyn credyd a debyd
Os yr ydych yn defnyddio eich cerdyn credyd neu ddebyd i brynu gennym ni neu i wneud rhodd, byddwn yn sicrhau fod hyn yn cael ei weithredu mewn modd diogel ac yn unol ag Amodau Diogelwch Data Cerdyn Talu’r Diwydiant (PCI-DSS). Gallwch ganfod gwybodaeth bellach ynglyn â’r amodau hyn yma. Rydym yn caniatau i chi storio manylion eich cerdyn yn ôl eich dewis ar gyfer trafodion yn y dyfodol. Caiff hyn ei wasanaethu yn unol â PCI-DSS ac mewn modd lle na all unrhyw aelod o staff weld eich rhif cerdyn llawn. Fyddwn ni byth yn storio eich côd diogelwch 3 neu 4 digid.
Cynnal a chadw eich gwybodaeth bersonol
Fyddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyn hired ag y bydd ei angen. Os arwyddwch i fyny i dderbyn ebyst gennym ni, byddwn yn gwirio gyda chi o dro i dro eich bod chi dal yn dymuno i glywed gennym ni. Mae’r dewis i ddiddymu eich tanysgrifiad i’w weld ar bob cyswllt dros ebost.
Clipiau ffilm TCC
Rydym yn cadw clipiau ffilm TCC am 30 diwrnod.
Llythyru
Byddwn yn cadw unrhyw gyfathrebiadau ysgrifennedig gennych chi a gyda chi am 6 mlynedd. Rydym yn dileu a dinistrio unrhyw gofnodion data nad oes angen ei gadw bellach.
Cynnal a chadw eich gwybodaeth bersonol
Gallwch adolygu’r manylion cyswllt a gadwn ar eich cyfer ar unrhyw adeg trwy fewngofnodi i mewn i’ch cyfrif arlein neu trwy ffonio’r Swyddfa Docynnau. Gallwch hefyd ddiweddaru a newid eich manylion ar unrhyw adeg yn y modd hwn.
Diogelu eich gwybodaeth bersonol
Mae diogelu eich gwybodaeth bersonol o’r pwys mwyaf. Rydym wedi gosod amddiffyniadau pwrpasol yn eu lle (ynghlwm â’n gweithdrefniadau yn ogystal â’r dechnoleg a ddefnyddiwn) i gadw eich gwybodaeth bersonol mor ddiogel â phosib. Byddwn yn sicrhau fod unrhyw drydydd person a ddefnyddiwn i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn gwneud yr un fath.
Mynediad i’ch gwybodaeth bersonol
Mae gennych chi’r hawl i holi am gopi o’r wybodaeth bersonol a ddelir amdanoch chi ac i gywiro unrhyw anghywirdebau o fewn y data hwn. Gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y polisi hwn os hoffech arfer yr hawl hwn.
Eich hawliau
Dan y Cymwysiadau Gwarchod Data Cyffredinol mae gennych chi’r hawliau canlynol:
Manylion cyswllt a gwybodaeth bellach
Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau o gwbl ynglyn ag unrhyw agwedd o’r polisi preifatrwydd hwn, yn enwedig os hoffech chi wrthwynebu unrhyw brosesiad o’ch gwybodaeth bersonol y byddwn yn ymgymryd ag ef er mwyn buddiannau corfforol cyfiawn.
Cysylltwch â ni yn ysgrifenedig trwy ddefnyddio’r cyfeiriadau canlynol:
Diogelu Data, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 40 Parc Ty Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU
ebost: diogelu.data@eisteddfod.org.uk
Bydd unrhyw wrthwynebiadau a wnewch tuag at unrhyw brosesiad o’ch data yn cael ei storio o fewn eich cofnod ar ein system fel y gallwn gydymffurfio â’ch ceisiadau.
Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 24 Mai 2018.