Bachu gan Melangell Dolma

5 Awst 19 - 19:30, Caffi Maes B

Cynhyrchiad Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru
Bachu gan Melangell Dolma
Mae Manon yn blydi lyfio Steddfod. Wastad wedi. Ond gyda’i mam, Gwen, yn ffonio pob eiliad, a’i chyn gariad, Llŷr, o gwmpas y Maes, sut ar y ddaear mae hon yn mynd i fod y Steddfod orau 'rioed? Drama newydd am gariad, cyfeillgarwch a chalonnau dryslyd: rom-com yng nghanol y pebyll, y peintiau a’r pennau mawr. Wedi’i datblygu’n wreiddiol fel rhan o gynllun awduron preswyl Theatr Clwyd, dyma ddrama i godi’r galon gan Melangell Dolma, aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru, dan gyfarwyddyd Sarah Bickerton. Cydnabyddir gefnogaeth yr Eisteddfod a Chanolfan Mileniwm Cymru i wireddu’r prosiect. Perfformiadau am ddim

Noddir gan Cronfa Gari

Noddir Caffi Maes B gan Grŵp Llandrillo Menai