Cwmni Theatr Invertigo a Pontio : Derwen

5 Awst 19 - 20:00, Theatr y Maes

Derwen gan Tim Crouch; addasiad Cymraeg gan Mared Llywelyn Williams
Dau actor. Steffan Donnelly sy’n cymryd rhan yr Hypnotydd, ond perfformir rhan y Tad gan actor gwahanol bob nos, sy’n dod ar y llwyfan heb weld na darllen gair o’r ddrama tan i’r sioe ddechrau. Dyma brofiad theatrig unigryw, yn llawn hiwmor tywyll sy’n bachu’r dychymyg gyda’i harchwiliad arbrofol o golled, maddeuant, a phŵer y meddwl.

Cwmni theatr Invertigo sy’n cyflwyno drama arobryn un o ddramodwyr blaenllaw Prydain, Tim Crouch, mewn addasiad Cymraeg gan Mared Llywelyn Williams (Enillydd Medal Ddrama yr Urdd 2017). Hyd y sesiwn: oddeutu awr. Canllaw oed 14+.

Partneriaeth rhwng yr Eisteddfod a Theatr Genedlaethol Cymru