Mas ar y Maes yn cyflwyno Corn Gwlad

5 Awst 19 - 21:00, Y Babell Lên

Cwt Cabaret
Yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924, E Prosser Rhys enillodd y Goron am ei bryddest Atgof – cerdd serchus i lanc ifanc synhwyrus, a phryddest ddadleuol a chwyldroadol am berthynas hoyw. Mae Corn Gwlad… yn waith-ar-y-gweill sy'n ail-fyw fersiwn cwiar ffyrnig, gwefreiddiol, llawen a dirdynnol o'r Seremoni Coroni dyngedfennol honno yn 1924. Felly, ar alwad y Corn Gwlad, sefwch – ac fe gewch eich cyfri. Cynhyrchiad gan Elgan Rhys, Gethin Evans a Seiriol Davies.

Gyda chefnogaeth Tesco Bags of Help, a Prifysgol De Cymru (BA Dawns)

Noddir gweithgareddau comedi gan Gronfa Gari