Theatr Gen Creu: Branwen

5 Awst 19 - 15:30, Theatr y Maes

Cyfle i fwynhau darlleniad o ddetholiad o Branwen, sef addasiad cyfoes o Ail Gainc y Mabinogi gan y dramodydd Aled Jones Williams, wedi’i gomisiynu gan Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd cyfle hefyd i glywed Aled ac Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yn trafod y broses o addasu’r ddrama ar gyfer cynhyrchiad llawn yn 2020

Partneriaeth rhwng yr Eisteddfod a Theatr Genedlaethol Cymru