Edrych yn ôl ar wythnos yr Archdderwydd

13 Awst 2019

Bu’n wythnos brysur i Myrddin ap Dafydd yn yr Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf.  

Roedd yn gyd-awdur un o sioeau mawr yr wythnos, yn un o feirniaid cystadleuaeth y Gadair, yn gyfrannwr mewn nifer fawr o sesiynau ac yn stondinwr.  Byddai hyn wedi bod yn ddigon i drechu’r rhan fwyaf o Eisteddfodwyr.

Ond, ar ben hyn oll, hon oedd wythnos gyntaf Myrddin fel Archdderwydd, gyda’i gyfnod o dair blynedd yn arwain yr Orsedd yn cychwyn yn ei dref enedigol, Llanrwst. 

Os oes un gair wedi’i ddefnyddio i ddisgrifio seremonïau cyntaf Myrddin wrth y llyw, ‘urddasol’ yw hwnnw, ond rhyw urddas agos-atoch a chyfeillgar oedd ganddo wrth groesawu tri enillydd teilwng iawn i lwyfan y Pafiliwn.  Roedd ei edmygedd o’r tri yn amlwg, a’i groeso cynnes a’i gefnogaeth wrth iddyn nhw ddringo’r grisiau i’r llwyfan i’w weld yn glir. 

Dyma Archdderwydd sy’n amlwg am i Gymru gyfan ymlawenhau yn llwyddiant ein beirdd a’n llenorion, ac sy’n poeni dim iot ei fod yn amlwg i bawb ei fod yn gefnogwr brwd o waith yr enillwyr.  Dyma Archdderwydd sy’n edrych i’r dyfodol, ond sydd â pharch at draddodiad a chanrifoedd o hanes ein gwlad a Gorsedd y Beirdd, ond sy’n gweld rôl fodern a phwysig i’r Orsedd mewn cyfnod tymhestlog yn hanes Cymru.

Mae Myrddin am i’r Orsedd estyn allan i’r byd; nid sefydliad mewnblyg yw’r Orsedd ond yn hytrach, corff cynhwysol a chyfartal o ran ei nod.  Meddai, “Does dim rhaid bod o dras Gymreig na Cheltaidd i gael eich derbyn i Orsedd y Beirdd – dim ond eich bod yn medru’ Gymraeg ac wedi wneud cyfraniad i'r wlad a'i diwylliant.

“Derbyniwyd Berno o'r Iseldiroedd, Phillip o Barbados, Daniela o'r Almaen a Bev o Brixton sy'n ferch i un o deuluoedd y 'Windrush' i'r Orsedd yn Llanrwst. Rydan ni'n symud rwan at berthynas newydd rhwng Cymru a'r byd, nid Cymru o fewn cyd-destun hanesyddol Brydeinig.”

Ond perthynas newydd yw hon, heb golli golwg ar draddodiad a hanes sy’n dyddio’n ôl dros ddwy ganrif, ac mae Myrddin yn falch iawn o gael arwain sefydliad sydd ag arwyddocâd mor bwysig iddo am gynifer o flynyddoedd.  Ond mae’n rhaid wrth ddatblygu ac esblygu, a chyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf mai ‘Gorsedd Cymru’ fydd yr enw cyhoeddus ar Yr Orsedd o hyn ymlaen.  Ydi hyn yn troi cefn ar weledigaeth Iolo Morganwg, yn dangos diffyg parch i ddwy ganrif o hanes?

“Ddim o gwbl,” yn ôl Myrddin.  “‘Does dim ymgais i ddileu hanes na dad-wneud gwaith Iolo.  Mae’r Cyfansoddiad yn dal i gyfeirio at Orsedd Beirdd Ynys Prydain, a does dim ymgais wedi’i wneud i ddileu hynny.  Mae’r byd wedi newid dros y 227 o flynyddoedd diwethaf.  Nid ein Gorsedd ni yw’r unig un erbyn heddiw, ac mae Gorsedd Cymru’n adlewyrchu hynny. 

“Mae ambell un wedi bod yn gweld bai ein bod ni am arddel yr enw Gorsedd Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.  Mae ambell un yn teimlo ein bod yn cefnu ar draddodiad ac yn naïf yn ein gweledigaeth, heb ddeall gwir ystyr ‘Ynys Prydain’ yn enw’r Orsedd. 

“Nid troi cefn ar draddodiad sydd yma, ond yn hytrach, dewis defnyddio enw sy’n addas ar gyfer Cymru wrth i ni agosáu at ail chwarter yr unfed ganrif ar hugain.  Ac mae’r mwyafrif llethol yn gweld ac yn deall hyn, gyda’r newid wedi’i basio gan Fwrdd yr Orsedd, aelodaeth yr Orsedd a Llys yr Eisteddfod dros y misoedd diwethaf.

“Mae'i galw'n Orsedd ‘Beirdd’ yn gamarweiniol hefyd – mae pob celfyddyd a gwyddor, pob camp a chrefft a gyflawnwyd i hybu’r Gymraeg a Chymreictod yn cael eu hanrhydeddu gennym ni, ac mae hyn yn rywbeth i’w ddathlu a’i groesawu.  Dyma Gymru heddiw.  Dyma ddatblygiad gweledigaeth Iolo.  Dyma ein Gorsedd ni’r Cymry, ar ein mwyaf cynhwysol, croesawgar a chan edrych allan ar draws y byd i ddathlu llwyddiannau ein cenedl fechan.

“Radicaliaeth heddiw, does bosib, ydi hawlio'n lle fel gwlad annibynnol y tu allan i wladwriaeth Prydain, fel cenedl fodern Ewropeaidd sy'n rhan o'r byd ehangach. Mi fyddai Iolo o blaid hynny.”

Roedd yn amlwg fod torf fawr y Cadeirio wedi deall arwyddocâd cyfoes y newid enw ar amrantiad. “Roedd y gymeradwyaeth yn fyddarol ac ar yr eiliad hwn, mae arwyddocâd cyfoes symud o feddylfryd Prydeinig i un Cymreig yn bwysig i ddyfodol Cymru a’r Gymraeg. Llundain oedd unig brifddinas y Cymry yng nghyfnod Iolo Morganwg ond bellach Caerdydd ydi prifddinas Cymru. Yn ara’ bach, rydan ni'n dymchwel Prydeindod canolog ac yn gorseddu Cymru ddatganoledig. Y Ddraig Goch yn lle’r Union Jack sydd ar ein cynnyrch. Mae hyn yn gam arall ar y daith honno a dyna pam fod yr enw wedi'i dderbyn mor llawen.”

Ac mae’r parch at Iolo Morganwg yr un mor fyw ag erioed heddiw, gyda Jim Parc Nest yn ennill y Gadair bnawn Gwener am awdl arobryn a oedd yn bortread llachar o Iolo Morganwg, yn clodfori’r ysbryd creadigol a radical a oedd yn rhan o anian Iolo, gyda Myrddin yn un o feirniaid y gystadleuaeth.

“Ro’n i wedi amau mai gwaith Jim oedd hwn.  A phan safodd ar ei draed, aeth y Pafiliwn yn wyllt.  Pawb am ddangos eu cefnogaeth, ac eisiau bod yn rhan o’r dathlu.  A minnau yno’n cael y fraint o’i groesawu i’r llwyfan.  Dyna brofiad bythgofiadwy.  Cael croesawu un o fy arwyr i lwyfan y Pafiliwn ac yntau wedi ennill y Gadair am awdl am arwr arall.  Ac roedd yr eiliad yna’n wych.  Bron i ddwy fil o bobl  yn dod ynghyd i ddathlu llwyddiant bardd, gan ymfalchïo yn ein traddodiad, yn genedl hyderus yn mwynhau ein hiaith a’n diwylliant.

“Ac am braf fyddai hi petai modd i ni fod fel hyn bob dydd.  Ond, mae ‘na ryw hen gecru’n perthyn i ni fel cenedl hefyd.  Rhyw hen daflu bai a hollti blew, yn aml heb fod yn rhan o’r drafodaeth ehangach.  Ac mae hyn yn fy nhristau.  Dod ynghyd y dylen ni fod yn ei wneud mewn cyfnod cythryblus fel hyn, nid tynnu’n groes am bethau bach. 

A chyda hyn, mae Myrddin yn troi ei olygon at y dyfodol, ac at brosiect sy’n agos iawn at ei galon, un a fydd yn codi proffil yr Orsedd a Chymru mewn gwledydd eraill dros y misoedd nesaf.  Ei gynllun yw ymweld â dwy wlad dramor y flwyddyn a chyflwyno darn o waith celf i gofio am ddigwyddiad ac adeg hanesyddol sy'n uno Cymru a'r wlad honno.

“Rhywbeth personol ydi hwn.  Mae'n codi o hanes yr Orsedd fel y sefydliad cenedlaethol cyntaf i hyrwyddo ac amddiffyn Cymru a'r Gymraeg. Yn draddodiadol, mae'r Orsedd yn cynnwys holl feysydd diwylliannol a gwleidyddol y genedl, gyda'r pwyslais ar frawdgarwch, cydraddoldeb a rhyddid.

“Bydd fy ymgyrch yn canolbwyntio ar feithrin mwy o gysylltiadau arwyddocaol gyda mwy o wledydd – dathlu dolennau hanesyddol, ond hefyd edrych ymlaen at y dyfodol pan fydd gan Gymru gyswllt agos â gwledydd eraill, nid yn unig o ran diwylliant a thwristiaeth, ond hefyd o ran gwleidyddiaeth a masnach.

“Bydd ymweliad cyntaf Ymgyrch yr Archdderwydd eleni â Gwlad y Basg yr wythnos nesaf.  Ym mhorthladd Saint Jean-de-Luz – yn y rhan o Wlad y Basg sydd dan reolaeth Ffrainc – bydd Myrddin yn cyflwyno celf i Gyngor y Ddinas.  Yno yr angorodd llongau Cymreig wrth iddynt geisio – a llwyddo yn y diwedd – i dorri blocâd Franco ar y môr i geisio rhwystro bwyd rhag cyrraedd Bilbao newynog yn 1937.

“Daeth y capteiniaid Cymreig yn fyd-enwog oherwydd eu dewrder a'u penderfyniad. Merch un o'r capteiniaid llwyddiannus oedd un o'r tramorwyr cyntaf i fod yn llygad-dyst i effeithiau cyflafan Gernika ac i ddatgelu hynny yn y wasg.

“Ac mae’r ymweliad cyntaf hwn yn gyfle i ni gofio a dathlu ein perthynas â gwledydd eraill, ac yn gyfle eto i atgyfnerthu lle’r Orsedd y tu hwnt i ffiniau gwlad, yn sefydliad sydd â rôl bendant i’w chwarae yn cynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol, yn dathlu, yn diolch am gyfraniad ein cyd-wladwyr ac yn edrych i’r dyfodol yn hyderus, yn berthnasol ac yn barod i fynegi barn.”